Yn ddiweddar, wrth fynd am dro a chrwydro ar draws maes chwarae sylwais ar dri gŵr ifanc yn ymarfer eu rygbi. Roeddent wedi ffurfio’n rhes a thra oedd y ddau ar ddau ben y rhes yn cicio’r bêl rygbi i’w gilydd, ceisiodd y gŵr yn y canol ddwyn y bêl oddi arnynt. Math o fersiwn […]
Darllenwch 'Y Mochyn Bach yn y Canol' >Roeddem ni’n cymryd rhan mewn cyfarfod y diwrnod o’r blaen, yn trafod gyda chydweithwraig sut gallai ddefnyddio gwahanol ddull er lles ei thîm. Rhoddem ddigon o awgrymiadau ac anogaeth iddi, ond wedyn edrychai braidd yn ansicr. Jennie a wenodd ac ychwanegu ‘fe’i gwnewch pan fyddwch chi’n barod.’ Pryd ydych chi’n barod? Beth mae’n ei olygu […]
Darllenwch 'Dod yn barod' >Y diwrnod o’r blaen, tra oeddem allan mewn cyfarfod al fresco, allem ni ddim llai na chlywed adlais o ddau ffrind yn sgwrsio am drydydd ffrind. ‘O ma’ honna wastad wedi bod yn anodd!’ cytunwyd. Gwnaeth ein taro yn y fan a’r lle, fod yr hyn mae rhywun yn ei wneud yn bersonol i’r person […]
Darllenwch 'Peidiwch â’i gymryd yn bersonol' >Rwy’n cofio dechrau rhedeg ychydig ar ôl geni fy mhlentyn cyntaf 11 mlynedd yn ôl. Roeddwn wedi credu erioed na allwn i fod yn rhedwraig, ond roeddwn yn fam newydd, yr amser a’r arian sbâr ar gyfer y gampfa’n brin, ac angen ychydig o ymarfer corff. Wrth ddysgu gyntaf sut i weithio tuag at redeg […]
Darllenwch 'Siwrnai rhedwraig' >Wrth roi cynnig ar bethau newydd, rydym weithiau yn medru elwa o ychydig o lwc, ond er mwyn meistroli rhywbeth, rhaid i ni feithrin dealltwriaeth fanwl o sut y mae’n gweithio. Mae peiriannydd yn gwybod sut y mae injan yn gweithio. Mae cogydd yn gwybod sut i baratoi spaghetti bolognaise. Mae rhiant yn gwybod sut […]
Darllenwch 'Astudio’n hunain' >Mae holl dimau Fy Nhîm Cymorth yn yr ardal yn dod at ei gilydd unwaith bob pythefnos ar gyfer sesiwn ymarfer myfyriol ar y cyd. Yr wythnos hon buom yn trafod data. Yn fwy penodol, buom yn trafod sgoriau ar raddfa seicometrig a gasglwyd bob chwe mis am bob un o’r bobl ifanc sy’n defnyddio’n […]
Darllenwch 'Syrthio mewn cariad â chyfrifydd' >Yr wythnos ddiwethaf, fy merch oedd y cyntaf o’n teulu i gael pen-blwydd yn ystod y cyfnod clo. Yn brofiad newydd i bob un ohonom, roedd yn ymddangos ei bod yn ymlwybro’n hyderus. Roedd hi’n gwybod yn union beth hoffai hi ei wneud i ddathlu, ac roedd ‘pasio’r parsel’ ar frig ei dymuniadau. Yn hen […]
Darllenwch 'Pasio’r parsel – Stori ffractalau' >Wrth sgwrsio’r diwrnod o’r blaen am ryw ymdrech neu’i gilydd ar ein rhan, meddai un ohonom: ‘Wel, mae newid yn cymryd amser.’ ‘Mmmm’ cytunodd y ddwy ohonom gan feddwl am y siwrnai hir o’n blaenau, pan drawodd ni’n sydyn: Ydy, mae newid yn cymryd amser, ond gall trawsnewid ddigwydd mewn unrhyw foment benodol. Gall ddigwydd […]
Darllenwch 'Bois bach, dyna drawsnewidiad!' >Un o gyfrinachau euog bod yn rhiant canol oed yw bachu ar y cyfle i chwiwladrata ffrwythau gwaharddedig eiddo diwylliannol ieuenctid. Yn anffodus, mae fy mhlant wedi cyfarwyddo â’m camymddwyn ac mae fy merch sydd bron yn ei harddegau bellach yn dweud wrthyf yn syth os ydw i wedi crwydro i mewn i esgidiau ymarfer […]
Darllenwch 'Gadewch iddo anadlu' >Rwy’n hoff iawn o lestri cegin y 1970au, ac yn amlach na dim y siopau elusennol yn fy nghymdogaeth yw fy ogof Aladdin. Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn un o’r siopau elusennol hyfryd hyn, cefais bowlen afal wydr siâp afal o’r 1970au. Nawr pawb at y peth y bo, ond i mi, roedd y bowlen […]
Darllenwch 'Datblygu ymwybyddiaeth risg' >