Dod yn barod

21 July, 2020

Roeddem ni’n cymryd rhan mewn cyfarfod y diwrnod o’r blaen, yn trafod gyda chydweithwraig sut  gallai ddefnyddio gwahanol ddull er lles ei thîm. Rhoddem ddigon o awgrymiadau ac anogaeth iddi, ond wedyn edrychai braidd yn ansicr. Jennie a wenodd ac ychwanegu ‘fe’i gwnewch pan fyddwch chi’n barod.’

Pryd ydych chi’n barod? Beth mae’n ei olygu i ddod yn barod? Yn Fy Nhîm Cymorth, rydym wedi darganfod nad oes unrhyw un yn ymuno â’n timau sydd eisoes yn hollol barod i wneud y gwaith hwn. Mae angen i bob un ohonom ni ddatblygu mewn rhyw fodd er mwyn ymdopi â’r gwaith. I rai, gall y datblygiad gynnwys dysgu mwy o syniadau seicolegol. I’r rhai sydd eisoes yn hyddysg yn y maes hwn, mae’n golygu dysgu i symud o ddamcaniaethu ynghylch syniadau seicolegol i’w plethu i broses therapiwtig barhaus tra mae bywyd beunyddiol yn mynd rhagddo. I eraill, y datblygiad yw dysgu i ddyfalbarhau pan nad yw cynnydd a’i wobrwyon i’w gweld yn amlwg.

Mae’r rhestr o feysydd lle gallem ni gyd ddatblygu yn debygol o fod yn faith iawn ond efallai mai’r amod pwysicaf ar gyfer ein datblygiad ni fel ymarferwyr yw cael rhywun sy’n dweud wrthym ‘fe’i gwnewch pan fyddwch chi’n barod,’ Mae’r rhywun hwn yn dweud wrthym ei fod yn credu yn ein gallu i fod yn fwy na digon da mewn unrhyw gamp. Mae’n brofiad atgyfnerthol, ac o gael ein hamgylchynu â’r ymddiriedaeth hon, fe allwn ni gyd ei wneud.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent