Maethu Therapiwtig
Sut y gallaf helpu?
Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr maeth Therapiwtig MyST yn eich ardal. Dyma ychydig o bwyntiau ar sut beth yw bod yn ofalwr maes Therapiwtig MyST:
- Cewch gyfle i roi profiadau cadarnhaol a lefel o sefydlogrwydd i’r person ifanc.
- Gallwch helpu i roi dylanwad cadarnhaol i’r person ifanc a hyrwyddo eu llesiant.
- Gallwch weld y newid cadarnhaol yng nghymeriad a dewisiadau bywyd person ifanc.
- Cewch fod yn rhan o dîm aml-asiantaeth creadigol a deinamig fydd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant a goruchwyliaeth.
Pa nodweddion ydych chi’n meddwl fyddai’n fy ngwneud yn ofalwr MyST da?
Pobl sy’n fodlon ystyried yn gyson ar lefel y gofal a roddant, gan dderbyn efallai na fyddant bob amser yn cael pethau’n iawn ond yn dysgu.
Bydd angen i chi fod ag elfen o natur chwareus, cydsynio, chwilfrydedd a chydymdeimlad, tra’n darparu’r gofal gorau posibl i’r plant hyn. Mae angen i chi feddwl fod ansawdd y gofal a roddwch yr hyn a ddisgwyliech i’ch plentyn eich hun. Mae angen i chi fod yn barod i dderbyn profiad gweithwyr proffesiynol sy’n gweithredu er budd gorau’r plentyn tra’n gweithio fel rhan o dîm o amgylch y plentyn.
Pam dod yn ofalwr MyST?
- Pecyn gwych o gydnabyddiaeth ariannol yn dechrau ar £21,166 y flwyddyn a gall gynyddu i £24,313 y flwyddyn, yn ogystal â lwfansau a gaiff eu talu ar gyfer y plentynneu berson ifanc
- Gwasanaeth ar-alwad 24 awr ar gael 365 diwrnod y flwyddyn
- Pecyn hyfforddiant helaeth yn cynnwys grŵp cymorth gofalwyr Myst, goruchwyliaeth clinigol unii-un, rhan o gyfarfodydd achos a hyfforddiant arall a gyflwynir gan y tîm
- Eich Ymarferydd Therapiwtig Arweiniol neilltuol eich hunan (mae gan ein Ymarferwyr Therapiwtig Arweiniol lwythi achos bach i’w galluogi i roi cefnogaeth ddwys i’w lleoliadau)
- Bod yn rhan o rwydwaith a thîm ehangach
- Bod yn rhan o dîm angerddol i helpu’r plant mwyaf difreintiedig, gan ddefnyddio ymagwedd arloesol at iechyd meddwl plant
Fideo Gofalwyr Maeth
Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth, yn geiriau ei hun.
https://vimeo.com/763717274/51ada3142b
Stori Teulu Biolegol
Dyma ffilm byr o taith teulu biolegol gyda MyST
https://vimeo.com/763700471/a9a4efd7ac
Llyfrynnau Maeth Therapiwtig