Taith Masie trwy MyST

23 March, 2023

Nid oeddwn wedi bod yn gofalu am Masie am sbel cyn bod MyST wedi dechrau gweithio gyda hi ond roeddwn wedi ‘nabod Masie ers tro gan yr oeddwn wedi bod yn cynnig cyfnodau o seibiant iddi.  

Roeddwn am weld y gwaith yn dechrau gyda Masie fel ei bod yn medru derbyn y gefnogaeth emosiynol a oedd angen arni er mwyn deall a rheoleiddio ei hemosiynau.   

Roeddwn hefyd yn hapus i dderbyn y gefnogaeth a’r cyngor ychwanegol gan MyST gan wybod hefyd y byddai cyfarfodydd rhwydwaith cyson yn cael eu cynnal gan MyST a’n cynnwys yr holl oedolion a oedd yn gysylltiedig gyda Masie.  

Rwy’n werthfawrogol iawn o’r holl gefnogaeth y mae MyST wedi rhoi i mi a Masie. Roedd yr Ymarferydd Therapiwtig Arweiniol Dros Dro a’r Ymarferydd Pobl Ifanc  yn anhygoel ac yn cadarnhau bod pob dim yn iawn gyda mi a Masie gan gynnig cymorth a bod yno’n glust i wrando weithiau.

Rwy’n gwybod fod Masie yn drist iawn gan nad yw’n gweithio gyda’r  Ymarferydd Pobl Ifanc   nawr gan eu bod wedi adeiladu perthynas wych ac roedd yn disgwyl ymlaen at y sesiynau wythnosol. Fodd bynnag, mae Masie hefyd yn deall fod y gwaith wedi dod i ben gan ei bod yn gwneud ‘cystal erbyn hyn a bod MyST wedi ei helpu i gyrraedd y pwynt hwn.

Gan fy mod eisoes yn gwybod am y rôl y mae MyST yn chwarae wrth helpu plant bregus, roeddwn yn gwybod y byddai’r gefnogaeth yn bositif. Credais ar y dechrau bod y gwasanaeth ond yno i gefnogi Masie. Nid oeddwn yn sylweddoli faint o gefnogaeth y byddem i’n derbyn a’r holl waith y byddent yn gwneud gyda’r teuluoedd yn ogystal â’r plentyn.

Mae’r gwasanaeth y mae MyST yn darparu i ddisgyblon bregus a’u teuluoedd yn ffantastig.    

Roedd y gwaith yr oedd yr Ymarferydd Person Ifanc wedi gwneud gyda  Masie yn wych. Yn cymryd yr amser i ddod i ‘nabod  Masie, yr hyn y mae’n hoffi a’n casáu, ei hwyl ac roedd yn deall yr hyn y mae  Masie angen a beth oedd angen er mwyn ei helpu i gadw’n bwyllog a rheoleiddio.   

Fel sydd wedi ei nodi uchod, roedd y gwaith a wnaed er mwyn cefnogi gofalwyr/rhieni hefyd yn wych ac o ddefnydd, gan wybod fod rhywun yno i siarad gyda hwy pan fydd pethau’n heriol ac roedd hyn yn gymaint o gymorth ac yn sicr wedi helpu fy lles.    

Byddai Masie yn rhegi, yn taro, yn poeri, yn cicio a’n taflu pethau at bobl. Byddai’n aml yn cyfarch pobl newydd drwy eu cicio. Mae sgiliau cyfathrebu cymdeithasol Masie yn wael iawn, a byddai’n  gwgu, tynnu ystumiau neu’n dangos ei thafod at bobl pan  oeddynt yn cyfarch neu’n siarad gyda hi, a byddai ei hymateb yn  swta ac roedd yn cadw’i phellter.

Roedd Masie yn ddig iawn yn aml ac nid oedd yn hoffi sgwrsio gyda phobl newydd. Byddai’n dechrau sgwrs gyda chyfoedion drwy eu gwawdio gan mai dyma’r oll a wyddai. Ni fyddai’n cymryd cyfrifoldeb am ei  gweithredoedd yn y gorffennol ac roedd yn bwrw’r bai ar bawb arall, ac nid oedd am glywed pan oedd wedi gwneud penderfyniad gwael ac yn dadlau gyda phobl gan honni eu bod yn dweud celwydd, ac roedd fel petai hyn am wthio’r atgofion yma o’i chof. 

Mae Masie erbyn hyn yn gwrtais; mae’n gwenu ac yn chwerthin llawer iawn mwy. Mae llawer o bobl yn dweud pa mor hapus yw hi a bod hyn yn rhywbeth go iawn a’i bod am wenu a’n gwneud hyn yn naturiol, yn hytrach na’n ceisio plesio eraill.  

Mae Masie yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a sefyllfaoedd cymdeithasol; mae’n canmol pobl er mwyn dechrau sgyrsiau ac yn cyflwyno ei hun ac yn gofyn sut mae pobl.  Mae’n gwenu ar bobl pan eu bod yn dweud helo wrthi ac nid yw’n gwgu, tynnu ystumiau neu’n dangos ei thafod. Mae’n hapus i siarad gyda nhw.    

Nid yw Masie yn rhegi gymaint mwyach. Mae yna rai achosion pan mae wedi defnyddio geiriau gwirion ond maent yn eiriau mwy anaeddfed e.e.  ‘bum hole’ ac nid yw hyn mor ‘ddifrifol’ â’r geiriau a ddefnyddiwyd cyn hyn.   

Mae Masie yn medru siarad am ei hemosiynau a’i deall yn well o lawer. Mae’n medru delio gyda chanlyniadau a disgyblaeth. Bydd dal yn gofyn ‘ond pam?’ os nad yw’n cael gwneud rhywbeth neu’n cael derbyn rhywbeth  ond dyma ymateb natruiol gan blentyn 8 mlwydd oed, gan y byddai cyn hyn wedi rhegi neu wedi ceisio taro.

Mae Masie yn medru cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd, a gyda chefnogaeth oedolyn, mae’n medru myfyrio am hyn a thrafod pethau.    

Mae Masie hefyd yn myfyrio am y gorffennol ac yn derbyn ei hymddygiad yn y gorffennol. Mae’n trafod yr ymddygiad yma o’i gymharu gyda gwadu iddi wneud dewisiadau gwael ac ymatal rhag siarad amdanynt.   

Diolch o galon i chi am yr holl gefnogaeth,  mae pawb yn  MyST wedi bod yn gefnogol, ac er mai’r Ymarferydd Therapiwtig Arweiniol Dros Dro a’r Ymarferydd Pobl Ifanc  fu’n gweithio’n uniongyrchol gyda ni, roedd y tîm cyfan yn wych.   


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent