Sut ydych yn delio ag ymddygiad heriol? …

3 March, 2022

Ar hyn o bryd, mae  MyST yn wasanaeth sydd yn tyfu ac rydym wedi bod yn cynnal cyfweliadau. Rydym yn gwerthfawrogi cynnwys pobl ifanc yn ein proses recriwtio, a dros y blynyddoedd, maent wedi cymryd rhan mewn ffyrdd gwahanol. Y tro hwn, gyda chyfyngiadau gaeaf  Covid yn cyfyngu ar nifer a maint ein paneli cyfweld, roeddem wedi gofyn i’r bobl ifanc a hoffent ein bod yn gofyn cwestiwn penodol. Mae pobl ifanc yn meddu ar y gallu i fynd yn syth i’r pwynt, ac felly, maent yn medru cynnig rhai cwestiynau gwych a meysydd allweddol y dylem fod yn eu hystyried wrth ddewis aelodau newydd o’r tîm.

Roedd un o’r cwestiynau gan y bobl ifanc yn arbennig o syml ac i’r pwynt – ‘Beth yw’r pethau y byddech chi’n eu gwneud er mwyn rheoli fy ymddygiad heriol?’  Cwestiwn hynod syml ond eto mor bwysig. Awgrym  – byddwch yn cael eich herio yn y rôl hon a bydd yr her yn rhan o’r berthynas rhyngoch chi a’r person ifanc yr ydych yma i’w helpu. Gwahoddiad – byddwch yn dryloyw gyda phobl ifanc a beth ydych yn bwriadu ei wneud.  A chyfyngiad – rhestrwch dri pheth sydd yn bwysig yn eich practis, yr hyn sydd yn diffinio eich practis pan fydd pethau’n toi’n anodd?

Yn ystod prynhawn o gyfweliadau, bu;n rhaid i ymgeiswyr ddelio gyda’r cwestiwn hwn ac fe’m tarwyd gan y ffaith bod dau o’r pedwar ymgeisydd wedi rhoi yr un ateb i’r panel. Roedd y ddau ymgeisydd wedi rhannu’r un ateb gyda ni ar wahân: ‘Yn gyntaf byddem yn sicrhau bod pawb yn ddiogel. Byddem yn ceisio sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel ar gyfer y person ifanc a phawb sydd yn rhan o’r broses’. Rwy’n cytuno gyda hyn meddyliais gan fod rhaid i ni gael diogon o ddiogelwch fel sylfaen ar gyfer pob dim arall.

‘Yn ail, hoffem geisio ddod yn agos at y person ifanc a’i helpu i reoleiddio ei emosiynau, helpu’r unigolyn i bwyllo a theimlo yn ddigon diogel fel bod modd i mi ofyn am yr hyn sydd yn digwydd, yr hyn y maent yn mynegi a’r hyn sydd ei angen gan bobl eraill.’ Yn sicr – mae deall  bod ymddygiad yn ffordd o fynegi ein byd, ein teimladau mewnol, yn deall nad oes neb ohonom yn medru mynegi pethau yn dda tra’n teimlo o dan faich emosiynol tra bod cynnig presenoldeb pwyllog a gofalgar yn ein helpu ni ail-sefydlu ein sylfeini o ran diogelwch.

‘Ac yna’n drydydd…’, roedd yr ymgeiswyr wedi meddwl yn ofalus, ‘Wel yn drydydd, rwy’n credu mai’r peth pwysig yw atgyweirio unrhyw ddifrod a wnaed i’r berthynas ag eraill yn sgil yr hyn a ddigwyddodd.  Byddem am roi’r profiad i bobl ifanc fod niwed weithiau yn digwydd mewn perthynas ond bod modd i’r berthynas oroesi hyn, cael ei hatgyweirio, a bod yn gryfach hyd yn oed drwy’r broses o ddangos ein hunain ac aros gyda rhywun drwy’r cyfnodau da a drwg. Dyna’r peth pwysicaf i’w wneud ynglŷn ag ymddygasid heriol’. Roeddwn yn gwenu y tu mewn, gan mai’r hyn sydd yn gwneud y gwahaniaeth y pendraw yw sicrhau bod y berthynas yn ddigon cryf fel na fydd yn chwalu ac yn ddigon cryf i’n dal ni a’n trafferthion wrth i ni geisio deall yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn datrys pethau. Mae dod  o hyd i’r gallu i oresgyn ein problemau yn deillio o gael perthynas sicr a pharhaus gyda rhywun arall.

Yn ein gwaith gyda MyST a phobl ifanc sydd yn teimlo’n hynod, hynod ansicr a’u perthynas ag eraill wedi chwalu, mae’r ffocws yma ar sicrwydd wrth wraidd ein gwaith yn delio ag ‘ymddygiad heriol’. Rydym yn gweithio er mwyn cryfhau  cysylltiadau teuluol, adeiladu perthynas gyda gofalwyr maeth er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn medru parhau yn eu hysgolion, grwpiau o ffrindiau a’u cymunedau ac rydym yn cynnig perthynas ofalgar hirdymor gyda ni hefyd. Dro ar ôl tro, mae pobl ifanc yn cadarnhau bod eu hymddygiad heriol yn  gwella yn y fath berthynas. Rwy’n falch i ddweud i ni apwyntio’r ddau ymgeisydd er mwyn i ni fedru parhau gyda’r gwaith hwn.

Jen a Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent