Ychydig fisoedd yn ôl cefais sgwrs gyda ffrind am ei hymdrechion i golli pwysau a gwneud mwy o ymarfer corff. Disgrifiodd sut bu hi ar y daith hon lawer gwaith o’r blaen, weithiau gyda llwyddiant, weithiau ddim, ond bob amser yn cael y broses yn un hynod o anodd. Eleni, a chyfnod clo arall i’w wynebu, roedd hi am lwyddo fwy fyth i golli’r pwysau hwnnw a byw ffordd o fyw iachach.
Gwrandewais ar fy ffrind yn astud. Fel llawer o bobl, rwyf innau hefyd yn cael trafferth dod o hyd i’r cydbwysedd byw yn iach. Wrth imi wrando, dywedodd fy ffrind wrthyf fel roedd am gael ei gweld yn ddigon da, ond sylweddolodd bod y diffiniad o ‘ddigon da’ o ran harddwch benywaidd yn ormesol. Yn gymaint ag yr oedd hi am gael ei hystyried yn ddigon da, fe wnaeth hi wrthod y diffiniad cul afrealistig ohono a gwrthryfela yn ei erbyn. Pe bai hi’n mynd ar drywydd cwrdd â’r ddelfryd, byddai’n teimlo fel petai ar daith i unman ac yn bradychu’r holl bobl eraill nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r norm. Pe bai hi’n mynd ar drywydd gwrthod y ddelfryd, fe fyddai hi’n twyllo’i hun nad oedd perthyn a chael ei derbyn yn ddigon da o bwys iddi, rhywbeth y gwyddai nad oedd yn wir.
Wrth gwrs, roedd fy ffrind yn cydnabod mai’r ffordd i ddod allan o’r cyfyng-gyngor hwn oedd mynd y tu hwnt iddo. A all fod ffordd y gall digon da a realistig gydfodoli? Rhannodd gyda mi ei hoffter o Lizzo, ffenomen bop America, sydd fel petai wedi dod o hyd i’w ffordd y tu hwnt i’r cyfyng-gyngor. Dawnsiodd delweddau o Lizzo i’m meddwl, yn edrych yn ogoneddus mewn leotard pefriog porffor mewn gŵyl ddiweddar yn Glastonbury…
Roedd pwynt da gan fy ffrind, pwynt y gellid ei ailadrodd fel y gwnawn yn aml, o ran cael teimladau cymysg, anaml y mae’n gweithio i esgus i ni’n hunain wrth i ni gefnogi un ochr i bethau y bydd yr ochr arall yn diflannu. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i gyfuniad o’r ddwy ochr ohonom ni’n hunain, y gwirioneddau yn y ddau safbwynt. Ces f’atgoffa o egwyddor arall sydd wrth wraidd dull Fy Nhîm Cymorth. O ‘osodiad’ safbwynt un person am broblem, ynghyd â ‘gwrthosodiad’ safbwynt rhywun arall, gallwn greu ‘cyfosodiad’ lle gellir cydnabod a gwerthfawrogi dilysrwydd a defnyddioldeb y ddau safbwynt.
Felly fel gyda fy ffrind a’i bwriad o’r newydd i golli pwysau a byw yn iachach, a’r miliynau o bobl eraill tebyg iddi, a allwn ni sy’n mynd ar drywydd newid gwirioneddol a pharhaol i blant sy’n derbyn gofal roi heibio cymryd ochr, a gweithio’n ddi-baid tuag at y cyfosodiad hwnnw? Y man hwnnw lle cynhwysir pob persbectif, mae gan bob un wybodaeth werthfawr, lle mae’r ffordd ymlaen yn eiddo i bawb dan sylw ac ar gael i bawb sydd ei eisiau. Y man hael hwnnw lle mae Lizzo yn chwyrlïo yn ei phorffor disglair yn ei gynrychioli.
Jen & Jael