Tystlythyrau

“Chi yw’r unig weithiwr proffesiynol yr wyf wedi caniatáu i ddod yn agos ataf yn emosiynol.”

Rhiant Teulu Biolegol


“Mae’r gefnogaeth y maent hwy a’r bobl ifanc yn derbyn gan MyST yn ffantastig. Mae MyST ar gael 24/7 drwy’r amser er mwyn medru cynnig cymorth os oes angen.”

Gofalwr Maeth MyST


“Rwy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth y mae MyST yn cynnig; pan fydd person ifanc MyST yn aros, mae yna wahaniaeth sylweddol yn y lefel yma o gefnogaeth. Rwy’n teimlo yn wybodus am bob person ifanc MyST sydd wedi aros gyda ni.”

Gofalwr Maeth MyST


“Pan wyf yn siarad gyda chi, mae’n helpu i roi popeth yn ei le.

Gofalwr Sy’n Berthynas


“Mae’r MyST yn estyniad o’n tîm preswyl ac yn cynnig cefnogaeth ddydd a nos er mwyn ein helpu ni ddiwallu ein hanghenion a deall ymddygiad y bobl ifanc cymhleth iawn yr ydym yn gweithio gyda hwy. Mae’r tîm MyST team yn hynod wybodus a phrofiadol ac wedi ein caniatáu i addasu ein practis preswyl i mewn i bractis therapiwtig ac mae effaith hyn ar y person ifanc yr ydym yn ei gefnogi wedi bod yn bellgyrhaeddol.

“Mae’r MyST wedi caniatáu ni ystyried ymddygiad o’r gorffennol a deall y bobl ifanc. Mae’r MyST nid yn unig yn cynnig sesiynau wythnosol gyda phobl ifanc, ond maent yn aml yn mynychu ein cyfarfodydd tîm, yn cynnig cyfarfodydd Systemau misol, yn cynnig goruchwyliaeth glinigol i staff pan fydd angen ynghyd â’n cefnogi  drwy gyfrwng eu system ar alw.

“Mae’r MyST wedi  cofleidio ein tîm o’r dechrau ac wedi bod yn adnodd amhrisiadwy ac rydym mor werthfawrogol ohonynt.

Rheolwr Tîm Preswyl.


“Rwy’n agored gan eich bod yn fy neall, yn gwybod sut i siarad gyda mi a’m deall. Nid oes dim byd gennyf ac rydych yn fy helpu. Diolch o galon i chi am bob dim yr ydych wedi gwneud i mi, yn enwedig dros y bythefnos ddiwethaf.”

Person Ifanc MyST


“Hoffem ddiolch o galon i’r MyST am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod rhai cyfnodau heriol iawn. Rwy’n teimlo bod MyST wedi parhau’n gefnogol ac wedi gwneud gwahaniaeth positif i fywyd person ifanc.”

Aelod Tîm IRO


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent