Maethu Cymru

Creu Cysylltiadau – MyST a Maethu Cymru

Mae MyST – Fy nhîm cefnogi yn dîm iechyd meddwl integredig ar gyfer plant a’r glasoed sy’n rhan o wasanaethau plant pob awdurdod leol yng Ngwent, gyda’i reolwyr ac arweinwyr yn aelodau o’r rhaglen ranbarthol a Bwrdd Partneriaeth Gwent.

Ein nodau yw cysylltu a galluogi pobl ifanc gydag anghenion iechyd meddwl cymhleth i aros yn eu cymunedau gyda’r help cywir ar yr adeg gywir. Gweithiwn gyda’r holl system o amgylch y person ifanc. Mae pobl ifanc a gaiff eu hatgyfeirio at ein gwasanaeth yn ymwneud â gwasanaethau plant, ac yn aml maent wedi ymwneud â gwasanaethau eraill ac mae’r rhan fwyaf yn blant sy’n derbyn gofal.

Mae rhan o’n gwaith yn ymwneud â chefnogi ein cydweithwyr yn Maethu Cymru ym mhob bwrdeistref awdurdod lleol yng Ngwent i ddynodi, recriwtio a hyfforddi gofalwyr maeth therapiwtig MyST a all gynnig cartrefi lleol i’n pobl ifanc a fyddai fel arfer yn gorfod symud i ffwrdd o’u cymuned leol. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’n timau Maethu Cymru mewn awdurdodau lleol i ganfod gofalwyr maeth a chartrefi seiliedig ar deuluoedd ar gyfer pobl ifanc yr ydym wedi dynodi eu bod angen gofal seiliedig yn y gymuned a chartrefi teuluol.

Mae ein holl bobl ifanc wedi profi anawsterau a thrawma cynnar sylweddol ac felly maent angen cymorth parhaus hirdymor i’w galluogi i arwain bywyd cyffredin a ffynnu.

Mae mwy o wybodaeth yn ein taflen.

Darganfod eich tîm maethu cymru yma..

(2) Foster Wales Torfaen | Pontypool | Facebook

Foster Wales Caerphilly | Caerphilly | Facebook

 


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent