Mae MyST (Fy Nhîm Cymorth) yn bartneriaeth amlasiantaeth sy’n gweithio i helpu plant sy’n derbyn gofal, i aros yn eu cymunedau lleol. Mae’n gweithio’n ddi-dor ar draws asiantaethau statudol i ddarparu dewis arall effeithiol yn lle gofal preswyl i blant sy’n derbyn gofal ag anghenion cymhleth iawn. Comisiynir Fy Nhîm Cymorth gan Fwrdd Partneriaeth Plant a Theuluoedd Gwent. Mae ein Timau yn Nhorfaen, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chasnewydd.