Beth yw MyST?

Mae MyST (Fy Nhîm Cefnogi) yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy’n gweithio i helpu plant sy’n derbyn gofal i fedru aros yn eu cymunedau lleol. Mae’n gweithio’n ddiwnïad ar draws asiantaethau statudol i roi amgen effeithlon i ofal preswyl ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth iawn sy’n derbyn gofal. Comisiynir MyST gan Fwrdd Partneriaeth Plant a Theuluoedd Gwent. Mae’r gwasanaeth eisoes wedi sefydlu yn Nhorfaen a Chaerffili a bydd yn rhanbarthol ar draws Gwent i gyd erbyn 2021.

Pam fod MyST yn cyfrif?

Mae’r plant hynny sy’n derbyn gofal mewn amgylcheddau teulu ac yn eu cymunedau lleol yn manteisio o fwy o gyfleoedd datblygu a meithrin gwytnwch yn cynnwys cadw perthynas gyda ffrindiau, brodyr a chwiorydd, rhieni ac aelodau teulu estynedig y byddai symudiadau sylweddol fel arall yn ymyrryd arnynt. Mae gofal a gaiff ei ddarparu gan un tîm cyson dros gyfnod hir hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu ymlyniadau gwirioneddol, sy’n profi mor hanfodol i’w datblygiad ar gyfer y dyfodol.

Gan weithio gyda phawb sy’n ymwneud â bywyd person ifanc, mae’r adnoddau angenrheidiol gennym i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion eu teuluoedd. Mae gwneud ymrwymiad hirdymor a gweithio mewn gwir bartneriaeth gyda chydweithwyr proffesiynol, ac yn bwysicaf oll gyda’r bobl ifanc eu hunain a’u teuluoedd, yn creu adnodd pwysig o wybodaeth, sgiliau, creadigrwydd a phenderfyniad.

Lawr lwythwch gopi o Daflen Wybodaeth Ranbarthol MyST yma.


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent