Astudio’n hunain

10 July, 2020

Wrth roi cynnig ar bethau newydd, rydym weithiau yn medru elwa o ychydig o lwc, ond er mwyn meistroli rhywbeth, rhaid i ni feithrin dealltwriaeth fanwl o sut y mae’n gweithio. Mae peiriannydd yn gwybod sut y mae injan yn gweithio. Mae cogydd yn gwybod sut i baratoi spaghetti bolognaise. Mae rhiant yn gwybod sut i drefnu’r Nadolig. Tra bod modd i ni feithrin dealltwriaeth o rai pethau, mae ein dealltwriaeth o bethau eraill ond yn medru cael ei ddatblygu wrth i ni astudio’r pethau hyn o’r tu mewn hefyd. Yn amlwg, nid oes rhaid i’r peiriannydd sgilgar i gael profiad o fod mewn ‘sprocket’ er mwyn deall injan. Ond mae’n rhaid i’r cogydd arbennig flasu ei fwyd, a rhaid i’r rhiant fod wedi profi dathliadau hapus yn ei blentyndod er mwyn deall sut i ddelio gyda threfniadau’r Nadolig.

 

Yn y ffordd hon, mae angen i’r ymarferydd seicolegol ddeall sut y mae’r meddwl yn gweithio. Ac wedi astudio hyn yn academaidd ac fel rhan o’i hyfforddiant clinigol, pa ffordd well i fynd na dod yn agos i’n meddwl ein hunain? Mewn theori seicolegol, mae yna gysyniad o empathi; sut allwn ni fel bodau dynol werthfawrogi’r hyn y mae’r person arall yn mynd drwyddo  heb brofi’r un peth ein hunain. Ond nid yw empathi yn golygu ein bod yn ceisio dyfalu sut beth oedd profiad pobl eraill. Mae’n ganlyniad i’r ffaith ein bod yn deall ein profiadau ein hunain yn fanwl iawn.

Er mwyn deall ein profiadau ein hunain neu brofiad rhywun arall, rhaid i ddeall a chysylltu gyda’r hyn sydd yn digwydd i ni a’r person arall, gan osod ein syniadau i’r neilltu a thalu sylw manwl ar yr hyn sydd yn digwydd.

Pan ddaw hi at empathi ynglŷn â’r hyn y mae person arall yn ei brofi, rhaid i ni ddefnyddio ein profiadau ein hunain sydd yn cynnig rhyw fath o  debygrwydd neu thema debyg. Nid wyf erioed wedi cael y profiad o gael fy nhynnu i ffwrdd o ofal fy rhieni, ond rwyf wedi  teimlo’r angen am berson arall, wedi teimlo’n ddi-rym ac yn estron mewn grŵp newydd. Nid wyf yn medru bod yn sicr mai dyma sut y mae plentyn sydd yn derbyn gofal maeth yn ei deimlo ond mae’r profiadau yma ar gael i mi wrth i mi geisio deall y plentyn hwnnw.

Ac na mae yna ddealltwriaeth o sut y mae ein meddwl yn gweithredu. Pan ein bod yna astudio ein meddwl ein hunain yn agos iawn, rydym yn medru dechrau gweld sut y mae’n gweithio.

Mewn sgwrs gyda chydweithiwr yn ddiweddar, roeddem wedi trafod sut oedd ei meddwl yn gweithio. Gyda’n gilydd, gwnaethom siarad am sut, yn gynnar yn ei bywyd, iddi deimlo nad oedd fel pawb arall. Ar yr adeg hon, roedd ei theulu yn mynd drwy brofiad eithriadol. AC felly, roedd ei meddwl wedi gwneud yr hyn y mae’r meddwl yn medru ei wneud; gwahanu’r byd i mewn i gategorïau.  Yn ei hachos hi, roedd y categorïau yma yn cynnwys ‘cyffredin’ ac ‘eithriadol’. Ac wedi hyn, roed pob dim yn disgyn i mewn i un o’r ddau gategori, ond byth y ddau gategori ar yr un pryd neu rhyw gategori arall. Dyma oedd y seiliau wrth iddi dyfu. Daeth yn rhywun a oedd yn ffafrio bod yn eithriadol gan edrych i lawr ar bobl a phethau cyffredin. Roedd hyn yn wych iddi mewn sawl ffordd gan iddi ragori i mewn i harddwch yr  avant garde. Fodd bynnag, roedd yna anfanteision hefyd. Roedd yn galed iddi agosáu at bobl a oedd yn ei thyb hi yn gyffredin. Ac weithiau, roedd yn ysu am fod yn gyffredin ei hunan. Er mwyn ymuno yn yr hwyl. I gawl seibiant o’r pwysau o fod yn eithriadol.

 

‘Ai dyna sut y mae’r meddwl yn gweithio?’ gofynnodd fy nghydweithiwr i’w hun, wrth edrych i fyny ar ôl myfyrio am ei stori ei hun. ‘Mae hynny mor ddefnyddiol i’w wybod. Mae’n gwneud i mi feddwl am blentyn yr wyf yn gweithio ag e’. Mae’n dweud wrthyf nad yw’n teimlo’n normal. Cyn hyn, roeddwn wedi bod yn ei hannog i dderbyn hyn a gwerthfawrogi nad yw’n ‘ normal’. Ond rwy’n dechrau meddwl nad nad yw hyn yn gywir.  Nawr rwyf am ei helpu i sylweddoli fod peidio teimlo’n normal  anarferol yn brofiad normal iawn. Rwyf hefyd am ei helpu i sylweddoli ei bod yn medru dewis i beidio poeni ynglŷn ag yw’n normal ai peidio, mae’n medru bod yn hi’i hun.’

Ym maes practis therapi seicolegol, nid yw astudio ein hunain yn rhyw fath o  foethusrwydd hunanol. Wrth feddwl am ein hatgofion a sut ydym yn gweithio, efallai y byddwn yn canfod rhywbeth pwysig sydd yn berthnasol i bawb ohono. A gyda hyn, efallai y byddwn yn medru bod yn ddefnyddiol iawn i bobl eraill hefyd.

Jen a Jael

 


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent