Blog

Young people silhouette

Wynebau niferus caredigrwydd

19 June, 2020

Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl ychydig yn ôl, ac eleni y thema oedd caredigrwydd. Rhannodd pobl lawer o negeseuon am weithredoedd o garedigrwydd a dathlu ei effeithiau. Nododd ychydig o bobl hefyd nad yw caredigrwydd ar ei ben ei hun yn ddigon o ystyried natur a maint y materion sy’n esgor ar ymatebion o […]

Darllenwch 'Wynebau niferus caredigrwydd' >

Child and adult hands

Rhyfel! I ba ddiben?

15 June, 2020

Yng nghanol 75 mlwyddiant Diwrnod VE yn ddiweddar, roeddem yn digwydd meddwl ynghylch pa mor gyffredin mae problemau iechyd meddwl ymhlith plant sy’n derbyn gofal. Priodolir y trallod hwn yn gyffredin i effeithiau adfyd a thrawma perthynol cynnar ar y plant hyn. Fodd bynnag, efallai bod ffynonellau trallod eraill hefyd sy’n ychwanegu at feichiau’r plant […]

Darllenwch 'Rhyfel! I ba ddiben?' >

Young people silhouette

Mynd yn Swedaidd

12 June, 2020

Dros goffi y diwrnod o’r blaen, roedd ein cydweithwraig yn myfyrio gyda ni ar y modd roedd pandemig Covid 19 wedi effeithio arni hi a’n gwaith. Soniodd ein cydweithiwr ei bod yn teimlo y gallai fod yn fwy hyderus mewn cyfarfodydd y dyddiau hyn. Roedd hi’n amau y gallai hyn fod yn rhywbeth i’w wneud […]

Darllenwch 'Mynd yn Swedaidd' >

Mother and children

Celwyddau, celwyddau noeth, a straeon am hunanaberth

8 June, 2020

Ochr yn ochr â’r caledi sylweddol, mae’n ymddangos i ni fod llawer o bobl wedi sylwi ar rai buddion annisgwyl y newidiadau radical mae ein cyd-gloi cyfredol wedi’u cynnwys. Yn fy nheulu fy hun, mae rhywbeth hyfryd iawn wedi codi yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano. Fel llawer o rieni […]

Darllenwch 'Celwyddau, celwyddau noeth, a straeon am hunanaberth' >

Minecraft screenshot

Cyn Minecraft

5 June, 2020

Y diwrnod o’r blaen gwnaeth fy mab 8 oed, dan gyfyngiadau’r cyfnod clo, alwad fideo arall o’r ystafell gyfagos i’w ffrind gorau. Clywais ddechrau’u sgwrs. Roedd yn fyrlymus o’r cychwyn: ‘Hey Jack! Oeddet ti’n gwybod y gall pobl newid realiti? Wel, rwyt ti’n gwybod sut mae pobl yn meddwl? Mae hynny’n fath o realiti. Felly, […]

Darllenwch 'Cyn Minecraft' >

Photo of terraced street

Cymuned fi

1 June, 2020

Mewn sesiwn fyfyriol fel tîm y diwrnod o’r blaen, roeddem yn dehongli’n profiadau, yn bersonol ac yn broffesiynol, o bandemig Covid 19. Ymhen amser, cydnabuwyd presenoldeb ac ofn marwolaeth. Wrth i aelodau’r grŵp sgwrsio, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o rieni wedi bod yn ystyried eu hewyllysiau, gweithredoedd eu tai, eu hyswiriant bywyd. Beth […]

Darllenwch 'Cymuned fi' >

3 men of comically different heights

Yr hen system ddosbarth Brydeinig dda

29 May, 2020

Ydych chi’n cofio’r sgets arbennig honno yn paradïo’r system ddosbarth Brydeinig gyda Ronnie Corbett fel y dyn o’r dosbarth gweithiol, Ronnie Barker fel y gŵr dosbarth canol a John Cleese fel un o’r dosbarth uchaf? Mae’n mynd rhywbeth fel; ‘Rwy’n edrych i fyny ato fe am ei fod yn perthyn i’r dosbarth uchaf, ond rwy’n […]

Darllenwch 'Yr hen system ddosbarth Brydeinig dda' >

Myst News thumbnail

Stori o ddysgeidiaeth Zen

26 May, 2020

Mae stori a ddefnyddir weithiau gan athrawon Zen yn mynd rhywbeth fel hyn: Roedd dyn yn cerdded i fyny ffordd a’r cyfnos yn nesáu pan ddaeth ar draws dyn arall o dan lamp stryd, yn cicio o gwmpas yn y dail ar y palmant ac yn edrych yn aflonydd. Gofynnodd un oedd yn mynd heibio […]

Darllenwch 'Stori o ddysgeidiaeth Zen' >

Young people silhouette

O’r dieflig i’r ymddiddanol

22 May, 2020

Ar ôl barbeciw neithiwr, goroesodd ychydig o selsig heb eu coginio. Gwelodd fy mab gyfle a gofynnodd am frecwast o frechdan selsig. Edrychodd fy mhartner i fyny o’i Weetabix: ‘Fyddai dim ots gyda fi gael un, galla i ei bwyta’n oer wedyn.’  ‘Na!’ gwaeddais ‘Mae selsig yn rhy ryfeddol o boeth o’r badell i gael […]

Darllenwch 'O’r dieflig i’r ymddiddanol' >

Myst News thumbnail

Y broblem o beidio â bod yn ddigon da

18 May, 2020

Y diwrnod o’r blaen roeddwn yn siarad â chydweithiwr yr wyf yn ei oruchwylio’n glinigol. Trwy sgwrsio gyda’n gilydd sylweddolodd fod rhai o’r anawsterau roedd hi’n eu hwynebu wedi’u gwreiddio mewn teimlad o fod yn annigonol. Gwnaeth y sgwrs hon fy atgoffa… Rywle i lawr yng nghrombil llawer ohonom mae ofn: ‘Dydw i ddim yn […]

Darllenwch 'Y broblem o beidio â bod yn ddigon da' >

Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent