Cymuned fi

1 June, 2020

Mewn sesiwn fyfyriol fel tîm y diwrnod o’r blaen, roeddem yn dehongli’n profiadau, yn bersonol ac yn broffesiynol, o bandemig Covid 19. Ymhen amser, cydnabuwyd presenoldeb ac ofn marwolaeth. Wrth i aelodau’r grŵp sgwrsio, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o rieni wedi bod yn ystyried eu hewyllysiau, gweithredoedd eu tai, eu hyswiriant bywyd. Beth fyddent yn ei adael i’w plant ar ôl eu dydd hwy, pryd bynnag byddai hynny? Gofynasom am fwy; beth mae rhieni’n ei adael i’w plant y tu hwnt i’r pethau materol? Sut ydym ni’n cael ein dal yng nghalonnau ein gilydd, ymhell y tu hwnt i ddatrys ymarferoldeb marwolaeth?

Fe wnaeth hyn i ni siarad am y modd rydym ni fodau dynol yn cael ein ffurfio gan y cysylltiadau rydym ni wedi’u profi ag eraill. Yn y Gorllewin modern, fe’n hanogir i feddwl am ‘hunan’ fel endid mewnol, ar wahân ac unigol. Ac eto ochr yn ochr â’r syniad amlycaf hwn, mae yna syniadau eraill ynghylch ystyr ‘hunan’ a allai fod yn ddefnyddiol yn ein gwaith. Mae yna syniad amgen bod ‘hunan’ yn gymuned o brofiadau mewnol o’n perthnasoedd. Rydym ni’n rhan o ‘fy mam’, yn rhan o ‘fy nhad’, yn rhan o ‘fy athro derbyn’, yn rhan o ‘fy rheolwr’ ac ati ac ati. O’r teulu i’r cymdeithasol a’r proffesiynol, bydd unrhyw berthynas sydd wedi’n cyffwrdd wedi gadael ei ôl ar bwy ydym ni. Os ydym yn meddwl fel hyn, yna mae hyd yn oed y rhai rydym wedi’u colli yn dal gyda ni. Trwy’u mewnoli, maent yn aros ymhlith ein cymuned ni o’n hunain. Yn y modd hwn o weld pethau, mae’n dilyn y byddwn hefyd yn parhau i gael ein newid gan y rhai y byddwn yn dod i ffurfio perthnasoedd â nhw yn y dyfodol. Ac felly nid yw’n cymuned o ‘hunan’ byth yn gyflawn; newyddion da i’r rhai sy’n cynnig perthnasoedd gofalgar i eraill.

Yn ein gwaith gyda phlant sy’n derbyn gofal, rydym ni’n cwrdd â phlant sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu perthnasoedd ffurfiannol. Yn yr achosion mwyaf difrifol o amddifadedd perthynol, mae digwyddiadau bywyd a’r ymatebion sefydliadol a ddilynodd, er eu bod yn anochel neu’n angenrheidiol ar y pryd, wedi gadael plant heb neb o gwbl sy’n dal edafedd o barhad iddynt yn eu bywydau. Os yw fy ‘hunan’ yn gymuned o fy mhrofiadau perthynol, yna mae fy ‘hunan’ mewn trafferthion enbyd yn y senario hwn. Heb unrhyw ddilyniant na chysondeb perthnasoedd, nid oes dilyniant na chysondeb ohonof i.

Mae’r amgylchiad hwn yn codi’r cwestiwn: Pwy ar y ddaear ydw i? Heb wybod hyn, bydd bodau dynol, y gellir eu haddasu, eu deall a’u weirio i oroesi fel yr ydym ni, yn gafael yng nghadernid y peth mwyaf cyson, dibynadwy sydd ar gael. Efallai mai’r peth mwyaf cyson fyddai person, ond gallai hefyd fod yn cael ei gloi, ei guro, symud ymlaen, cael ei wrthod, bod mewn cythrwfl ac ati. Pan welwn ni’r cefndir fel hyn, gallwn ni werthfawrogi’n well ei bod hi’n fater o oroesi i sefyllfa o ddal beth bynnag yw ei beth cyson solet mewn sefyllfa o amddifadedd perthynol. Gallwn hefyd ddeall yn well pam y gall fod mor anodd cymryd y risg o newid, hyd yn oed newid yr hyn sy’n ymddangos i’r llygad dihyfforddiant fel y mwyaf dinistriol a niweidiol o gysylltiadau â pheth.

Yn Fy Nhîm Cymorth, rydym yn ceisio gweithio gyda phlant â’r syniadau hyn mewn golwg. Rydym yn ceisio adeiladu dewis arall credadwy o gymuned sefydlog o berthnasoedd o amgylch plant fel y gallent fentro cymryd naid ffydd o roi’r gorau i’w ‘peth solet’, beth bynnag ydyw, a chaniatáu iddynt ddibynnu yn lle hynny ar berthnasoedd â phobl eraill. Er mwyn cyflawni hyn o gwbl, mae’n rhaid i ni ystyried llawer o ffactorau: Aruthredd y gofyn rydym ni’n ei wneud. Yr amser y gallai’r broses ei gymryd. Y camgymeriadau cychwynnol. Y camau tuag yn ôl. Hyd a lled  yr ofn o wneud y naid, a’r ymddiriedaeth sy’n ofynnol i ollwng gafael ar yr un peth dibynadwy cadarn y mae plentyn erioed wedi’i ddarganfod.

Mae’r profiad o weld plant yn cyflawni gweithredoedd mor ddewr yn ein calonogi’n fawr. Waw, rydych chi’n fendigedig, pob un ohonoch chi. Rydym ni hefyd yn gwbl barod i aros i’r rheini nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi cael digon gennym ni fel cymuned i ysbrydoli’u dewrder i ollwng gafael i mewn i ddibyniaeth ar berthnasoedd. Byddwn yn aros amdanoch chi, ac yn parhau i ymdrechu nes eich bod yn barod i neidio i freichiau’ch cymuned.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent