Yng nghanol 75 mlwyddiant Diwrnod VE yn ddiweddar, roeddem yn digwydd meddwl ynghylch pa mor gyffredin mae problemau iechyd meddwl ymhlith plant sy’n derbyn gofal. Priodolir y trallod hwn yn gyffredin i effeithiau adfyd a thrawma perthynol cynnar ar y plant hyn. Fodd bynnag, efallai bod ffynonellau trallod eraill hefyd sy’n ychwanegu at feichiau’r plant hyn.
Rydym yn siarad am natur drallodus bod yn blentyn i deulu sy’n ymwneud â’r system ddiogelu statudol, ac yn fwyaf arbennig, natur gyfreithiol wrthwynebus y system hon. Efallai, yn ychwanegol at eu profiadau o adfyd a thrawma, fod plant sy’n derbyn gofal mewn trallod oherwydd eu bod yn byw yng nghanol rhyfel cynddeiriog rhwng eu rhieni a’r wladwriaeth, ein cymdeithas, trwy gyfrwng gwasanaethau Gofal Cymdeithasol? Yn broffesiynol, efallai na fydd yn edrych fel rhyfel, ond trwy brofiad, fe allai deimlo fel rhyfel. Ac mae’n bwysig dweud nad beirniadu pobl y gyfraith a systemau llysoedd yw hyn, ond cwestiynu defnyddioldeb y system ei hun yn y cyd-destun penodol hwn.
Mewn rhyfel, mae dwy ochr yn ymosod ar ei gilydd gyda’r bwriad marwol difrifol o ennill buddugoliaeth. Mae hon yn frwydr ffyrnig ac weithiau mae’n cynnwys troseddau rhyfel hyd yn oed. Mae tyfu i fyny yn byw gyda gofalwr maeth a all ddod yn asiant un ochr, tra maent hefyd yn gweld ac yn perthyn i deulu biolegol ar yr ochr arall yn rhoi plant yn agored i danio o’r ddwy ochr. Onid y term ofnadwy am anafusion sifil diniwed rhyfel yw ‘difrod ystlysol’? Wrth geisio o ddifrif, gyda chalon dyner, amddiffyn ei dinasyddion ieuengaf, ai dyma beth mae’n cymdeithas yn anfwriadol yn ei wneud i blant sy’n derbyn gofal?
Ond nid dyna ddiwedd y stori. Er y gallai un ochr neu’r llall ddod yn fuddugoliaethus o’r frwydr, a oes unrhyw un sy’n rhyfela yn dianc yn ddianaf? Credwn ein bod yn aml iawn yn gweld arwyddion fod yr oedolion hefyd, o deuluoedd a grwpiau proffesiynol, yn ofidus ac yn cael eu creithio gan y profiad o frwydro.
O ystyried y ‘chwaraeon’ annymunol Prydeinig o herian Gweithwyr Cymdeithasol, mae’n rhaid inni bwysleisio yma fod gennym y parch mwyaf at ein cydweithwyr Gofal Cymdeithasol yn bersonol ac yn broffesiynol. Ac eto, efallai mai peth o’r hyn maen nhw’n ei ddangos i ni ar adegau yw creithiau cyn-filwr rhyfel, neu’r arfwisg y mae’n rhaid i unrhyw filwr yn ei lawn bwyll ei gwisgo i oroesi.
Yng nghanol rhyfel sy’n llusgo ymlaen ac ymlaen, a bywydau’n cael eu colli, a yw’n bosibl y gallai’r ddwy ochr rwystro’r genhadaeth a roddwyd iddynt? A allent ddiosg eu harfau, dod allan o’r ffosydd, a dweud yn onest ‘Rydym yn casáu hyn. Rydym wedi llwyr ddigalonni. Mae’n niweidio pob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd ac i wahanol raddau. Daethom i gyd i ryfela dros achos da; i roi bywydau da i blant. Yn wir, rydym ni’n dau yn ymladd dros yr un achos, ond rydym ni’n gweld pethau’n hollol wahanol. Efallai bod gennym ni fwy yn gyffredin nag y gwnaethom ni erioed ei sylweddoli o’r tu ôl i’n gwrthgloddiau. Ond nawr bod y rhyfel wedi cychwyn, mae’n achosi mwy a mwy o niwed, ac felly mae angen rhoi terfyn ar y rhyfel ’ma’. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd wahanol o ddatrys ein gwahaniaethau a’i gwneud yn iawn i blant.’
Beth am i ni, yn lle rhannu i ochrau gwrthwynebus, uno gyda’n gilydd, yn deuluoedd ac yn wladwriaeth, i ddod o hyd i ffordd all arwain at ddatrysiad, er budd ein plant? Yn union fel rhieni sydd wedi ysgaru, sydd er gwaethaf eu gwahaniaethau, yn agor llwybr er budd eu plant y mae’r ddau ohonyn nhw’n eu caru’n angerddol. Nid yw hyn yn golygu y bydd popeth yn hwylus. Efallai’n wir y bydd rhai adegau anodd i’w hwynebu er mwyn rhoi iddyn nhw’r bywyd da y mae gan bob un ohonyn nhw’r hawl iddo. Nid yr hyn a benderfynir yn y diwedd efallai, ond sut rydym ni’n cyrraedd yno gyda’n gilydd, heb yr angen am broses niweidiol rhyfel. Pe gallem ni weithredu yn y modd hwn, gallai’r trallod pellach a ychwanegir at y baich a gludir gan blant sy’n derbyn gofal o leiaf gael ei godi oddi ar eu hysgwyddau. Ac efallai y gallai rhieni, teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n cynrychioli cyfran cymdeithas yn ddewr ym mhob dinesydd ifanc gael eu harbed rhag poen y tywallt gwaed hefyd.
Gadewch inni wneud popeth o fewn ein gallu i aros y tu allan i’r llys – theatr rhyfel. Gadewch inni ymdrechu hyd yr eithaf i gydweithio rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. A gadewch inni fynnu bod yr arian, yr egni a’r creadigrwydd a sianelir at ryfela yn cael eu hailgyfeirio tuag at hyrwyddo heddwch.
Jen & Jael