Yr hen system ddosbarth Brydeinig dda

29 May, 2020

Ydych chi’n cofio’r sgets arbennig honno yn paradïo’r system ddosbarth Brydeinig gyda Ronnie Corbett fel y dyn o’r dosbarth gweithiol, Ronnie Barker fel y gŵr dosbarth canol a John Cleese fel un o’r dosbarth uchaf? Mae’n mynd rhywbeth fel; ‘Rwy’n edrych i fyny ato fe am ei fod yn perthyn i’r dosbarth uchaf, ond rwy’n edrych i lawr arno fe am ei fod yn perthyn i’r dosbarth is.’ A’r holl drawsnewidiadau eraill … (Os nad ydych chi’n ddigon hen i fod wedi ei chlywed, google amdani (sgets ddosbarth 1966 ‘).  Mae’n wych.

Ac fe barodd i ni feddwl: Beth allai’r gwawdluniau fod ymhlith ein llwythau proffesiynol yn y sector cyhoeddus? Rhowch ychydig o drwydded farddonol i ni yn ein gor-ddweud …

Mae’r seicotherapydd yn edrych i lawr arno fe oherwydd ei fod yn deall yn unig â meddwl rhesymol, ac arni hi oherwydd ei bod yn rhedeg o gwmpas yn datrys problemau.

Mae’r meddyg yn edrych i lawr arni hi oherwydd ei hobsesiwn hysterig ar emosiwn ac oherwydd ei gorchwylion diraddiol.

Mae’r gweithiwr cymdeithasol yn edrych i lawr arno ef ac arni hi oherwydd bod y ddau ohonyn nhw allan o gysylltiad, ac nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw waith go iawn.

Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos i ni fod gwneud, teimlo a meddwl i gyd yn bwysig ac nid yw un yn well na’r lleill nac yn israddol i’r lleill. Mae’n hyfryd bod gennym ni amrywiaeth o broffesiynau yn y sector cyhoeddus sydd i gyd yn pwysleisio gwneud, teimlo a meddwl yn wahanol. Yn Fy Nhîm Cymorth, mae’n dull partneriaeth amlasiantaethol yn cadarnhau i ni’n barhaus mai wrth gyfuno gwahanol weithwyr proffesiynol a sefydliadau y cynhyrchir rhywbeth mwy na’r ystrydebol. Pan rown ni’r hanfod hon i weithio i blant a theuluoedd yna gall pethau gwych ddigwydd.

Wedi dweud hynny, gadewch inni hefyd fentro gwrth-ddweud ein hunain … Rydym ni’n credu efallai mai Ronnie Corbett o’r tri sy’n ‘gwneud’, a chyda’r rhagfarn hon yn ein meddyliau, hwre fawr i’r holl rai sy’n gwneud! Mae gwneud yn arbenigedd anghymar.

Jen and Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent