Y broblem o beidio â bod yn ddigon da

18 May, 2020

Y diwrnod o’r blaen roeddwn yn siarad â chydweithiwr yr wyf yn ei oruchwylio’n glinigol. Trwy sgwrsio gyda’n gilydd sylweddolodd fod rhai o’r anawsterau roedd hi’n eu hwynebu wedi’u gwreiddio mewn teimlad o fod yn annigonol. Gwnaeth y sgwrs hon fy atgoffa…

Rywle i lawr yng nghrombil llawer ohonom mae ofn: ‘Dydw i ddim yn ddigon da.’. Ac oherwydd bod pethau’n digwydd i ni sy’n ein brifo wrth i ni deithio trwy fywyd, rydym ni’n cymryd y pethau hyn yn aml a’u gwneud yn esboniad dros y ffaith nad ydym ni’n ddigon da.

‘Dydw i ddim yn ddigon da ac rwy’n gwybod hyn am nad oedd fy mam yn fy ngharu i.’

‘Dydw i ddim yn ddigon da ac rwy’n gwybod am na allwn i atal fy nhad rhag curo fy mam.’

‘Dydw i ddim yn ddigon da ac rwy’n gwybod am nad yw fy ymennydd yn gweithio mor gyflym ag un fy mrawd.’

Mae’r ffenomen hon yn achos dioddefaint enfawr. I wneud pethau’n waeth, gellir ychwanegu dioddefaint pellach at y llwyth: Rydym ni’n tueddu i edrych y tu allan i’n hunain am ffordd i ddianc rhag problem annigonolrwydd. Efallai os cyrhaeddaf safonau uchel? Efallai os casglaf i gyfoeth materol? Beth am i mi dwyllo heneiddio? Efallai y gall arbenigwr ddweud wrthyf beth sy’n bod ac argymell iachâd?

Ôl-effaith arall yw sut rydym ni’n defnyddio ffyrdd i reoli’r teimladau y mae’r ymdeimlad  o fod yn annigonol yn ei greu ynom. Rydym wedi dod o hyd i amrywiol ffyrdd  o beidio â theimlo’r hyn y mae’n ei daflu atom; yn lleddfu’r teimladau trwy yfed a chamddefnyddio sylweddau, tynnu sylw atom ein hunain  trwy achosi ffrwgwd, brifo ein hunain. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Ac eto fyth, gallwn hefyd ymateb i’n hamheuaeth ddirfodol trwy wneud yn ôl ei gymhelliad, neu drwy amddiffyn yr hunan rhag ei ​​gyhuddiadau. Rydym yn ymateb i’w gymhelliad  trwy weithredu’n dila; peidio â mynd am y dyrchafiad hwnnw, peidio â cheisio meistroli’r sgil honno, disgwyl a derbyn ein trin yn wael. Rydym yn rheoli’i ymosodiadau trwy amddiffyn yr hunan; gweithio’n galetach na neb arall, dod yn drahaus a hunanbwysig, recriwtio eraill i’n hedmygu a rhoi sicrwydd inni ein bod yn fendigedig.

Beth pe bai’n dra gwahanol ? Beth pe bai’r cyflwr dynol yn unig yn ymrafael ac wrth ddod i ymddiried ynom ein hunain, gallem dderbyn yr elfen honno o fod yn ddigon da o’r hyn rydym mewn gwirionedd? Dychmygwch yr angen i fodloni’r posibilrwydd hwn cyn caniatáu i ni ymgyrraedd at ateb allanol. Dychmygwch pe bai gwasanaethau wir yn cefnogi pobl â phroblemau i ymchwilio i hyn yn gyntaf cyn ceisio’u datrys. Dychmygwch hynny.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent