Cyn Minecraft

5 June, 2020

Y diwrnod o’r blaen gwnaeth fy mab 8 oed, dan gyfyngiadau’r cyfnod clo, alwad fideo arall o’r ystafell gyfagos i’w ffrind gorau. Clywais ddechrau’u sgwrs. Roedd yn fyrlymus o’r cychwyn: ‘Hey Jack! Oeddet ti’n gwybod y gall pobl newid realiti? Wel, rwyt ti’n gwybod sut mae pobl yn meddwl? Mae hynny’n fath o realiti. Felly, rwyt ti’n wirioneddol yn gallu newid realiti os wyt ti’n meddwl rhywbeth…. ’. Rhaid imi gyfaddef i mi deimlo rhuthr cychwynnol o falchder mamol yn y bachgen dwys hwn o’r eiddof, ac yna disgynnodd y sgwrsio i mewn i Minecraft, ac o dipyn i beth rhoddodd sicrwydd imi yn ddiarwybod nad oes angen imi glirio lle ar y silff ben tân eto ar gyfer ei wobr Nobel.

Ac eto, mae’n gwneud pwynt da. Yr hyn rydym ni’n meddwl sy’n creu ein realiti. Felly beth ydym ni’n ei feddwl mewn gwirionedd am blant yn ein plith sydd ag anawsterau iechyd meddwl, a’u teuluoedd? Pa realiti ydym ni’n ei greu? Pan fyddaf yn meddwl yn ddwys am y farn gyffredin o fewn ein cymdeithas am broblemau iechyd meddwl, yn aml mae rhywbeth i’w ddweud dros fod yn wyrdroadol, nid fel y gweddill ohonom. Yn aml mae rhywbeth hefyd am fod yn gywilyddus am beidio ag ymdopi’n well. Ac i’r rheiny na ddeuant yn ‘well’ yn unig wrth gael cymorth, yn aml mae rhywbeth am ddiffyg diolchgarwch a chyhuddiad o’r mwynhad annymunol o lesteirio eraill.

Yr hyn na fynegodd fy mab yn eithaf eglur yn ei osodiad dwys diweddar oedd y cwestiwn rhesymegol nesaf: Pa effeithiau mae’r realiti rydym yn ei greu yn ein meddyliau yn eu cael arnom ni a phobl eraill? Beth gaiff ei wneud a beth gaiff ei anwybyddu? Pan fyddwn yn creu realiti bod pobl yn wyrdroadol ac nid fel ni, yr effeithiau yw ein bod yn ceisio trefnu’u tynged ac nid ydym yn eu trin fel y byddem yn trin ein plant a’n teuluoedd ein hunain. Pan fyddwn yn creu realiti bod pobl yn gywilyddus, rydym yn edrych i lawr arnynt ac yn tanamcangyfrif eu gwerth a’u potensial. Pan fyddwn yn creu realiti bod pobl yn anniolchgar ac yn mwynhau’n llyffetheirio, rydym yn eu hatal o’n gwasanaethau.

Wrth gwrs, dyma ddiwedd digalon y posibiliadau, ac mae llawer o bobl yn creu realiti rhyfeddol am blant a theuluoedd sy’n dod ag anawsterau iechyd meddwl, ac mae effeithiau cadarnhaol y ffyrdd hyn o feddwl yn dryfrith. Serch hynny, credwn ei bod yn bwysig edrych yn graff, ac yn aml, dim ond i wirio ddwywaith: A oes unrhyw rai o’r ffyrdd eraill hyn o feddwl wedi treiddio i mewn?

Yn ogystal â gwirio nad yw pethau wedi disgyn i ble na ddylent, mae potensial cadarnhaol enfawr i hyn hefyd. Yn ôl at eiriau fy mab: ‘Rwyt ti’n gallu newid realiti mewn gwirionedd os wyt ti’n meddwl rhywbeth’. Felly sut gallem ni feddwl yn wahanol i newid realiti mewn gwirionedd? Neu i’w droi ar ei ben: Os ydym yn llunio’r realiti rydym ei eisiau, beth fyddai angen i ni feddwl i’w greu? Oni allai hyn wneud agenda braf ar gyfer unrhyw gyfarfod tîm?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent