Mynd yn Swedaidd

12 June, 2020

Dros goffi y diwrnod o’r blaen, roedd ein cydweithwraig yn myfyrio gyda ni ar y modd roedd pandemig Covid 19 wedi effeithio arni hi a’n gwaith. Soniodd ein cydweithiwr ei bod yn teimlo y gallai fod yn fwy hyderus mewn cyfarfodydd y dyddiau hyn. Roedd hi’n amau y gallai hyn fod yn rhywbeth i’w wneud â phobl yn ei chyfarfodydd yn fwy hawddgar; holi hynt a helynt ei gilydd trwy’r dyddiau anodd hyn.

Fe wnaeth i ni feddwl am gydweithwraig arall roeddem yn ei adnabod yn Sweden flynyddoedd lawer yn ôl. Cofiem  hi’n dweud wrthym na fyddai unrhyw un, yn niwylliant Sweden, gwlad â  phoblogaeth gymharol fach, yn cychwyn unrhyw drafodaethau proffesiynol neu therapiwtig,  cyn yn gyntaf sefydlu beth oedd y cysylltiad rhyngddynt. Byddent yn siarad nes dod i ryw gasgliad ‘onid yw’r byd yn fach?!’, megis ‘mae fy nghefnder a’ch nain a’ch taid  yn byw yn yr un dref’ neu ‘rydym ein dau yn marchogaeth ceffylau’ ac ati. Cofiem gael ein cyffwrdd gan dynerwch yr arferiad hwn yn ôl bryd hynny.

Tynnodd myfyrdodau’n cydweithwraig heddiw’r atgof hwn yn ôl i’n meddyliau. Serch bod profiad ac effeithiau penodol Covid 19 yn hynod ac yn rhwym yn ei gyd-destun, mae cyffyrddiad cyfunol y pandemig hwn wedi golygu bod pobl yn gofyn ac yn ateb y cwestiwn ‘sut ydych chi?’. Maent yn gwneud cysylltiadau ar lefel ddynol cyn cychwyn busnes.

Gwnaeth yr arferiad Swedaidd o ffurfio cysylltiad cyn bwrw ymlaen hefyd ein gosod ar drywydd  un o wireddiadau’r seicotherapydd blaenllaw sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, Carl Rogers : Os na allaf ddod o hyd i unrhyw beth am fy nghleient y gallaf ei garu, yna ni ddylwn fod yn therapydd iddo. Os na allwn ddod o hyd i ryw fath o gysylltiad dynol cariadus â’n gilydd, yna efallai na ddylem fwrw ymlaen gyda’n gilydd yn ein gwaith. Wedi’r cyfan, pa mor debygol yw hi y gall ein gwaith gyda’n gilydd fod yn dda os yw’n amhosibl dod o hyd i unrhyw gysylltiad? Y newyddion da wrth gwrs yw y bydd gennym ni bob amser nifer helaeth o gysylltiadau ag unrhyw un a phawb sy’n eistedd o’n blaenau, waeth pa mor gudd ydyn nhw, oherwydd rydym ni’n rhannu’n dynoliaeth gyffredin.

Yn Fy Nhîm Cymorth, un o’n harferion yw dechrau pob cyfarfod tîm wythnosol gyda dwy funud o ymarfer ymwybyddiaeth ystyriol dawel, ac yna cyfres o ddatganiadau cryno ynghylch pwy ydym yn cael ein hunain i fod ar unrhyw fore penodol. Efallai y cawn ein hunain i fod yn gasgliad o bobl sy’n flinedig, yn ddedwydd, yn ofidus, yn synfyfyriol ar un diwrnod, ac yn haid swnllyd o bobl sy’n aflonydd, yn bryderus, yn hapus, yn bigog y diwrnod wedyn. Y peth pwysig yw ein bod yn cymryd ein cyflwr dynol yn anad dim yn fraint. Pan wnawn ni hyn, teimlwn ein bod ni’n cael ein parchu, ein gwerthfawrogi a’n cofleidio’n ofalgar, ac rydym ni’n teimlo’n ymwybodol ac yn sensitif tuag at eraill. Rydym gyda’n gilydd yn cydnabod ein cydraddoldeb fel bodau dynol waeth beth yw’r rolau rydym ar fin eu cyflawni gyda’n gilydd yn ein gwaith.

Nid oeddem wedi sylweddoli tan hyn ein bod rywsut wedi ffurfio’n fersiwn ein hunain o hen arferiad Swedaidd. Fel y gwyddom, mae’r Swediaid hynny yn adnabod eu peli cig …. rydym ni’n golygu winwns. Awydd mynd yn Swedaidd eich hun? Sut byddai gwneud cysylltiad cyn bwrw ymlaen yn edrych yn eich cyd-destun chi?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent