Siwrnai rhedwraig

13 July, 2020

Rwy’n cofio dechrau rhedeg ychydig ar ôl geni fy mhlentyn cyntaf 11 mlynedd yn ôl. Roeddwn wedi credu erioed na allwn i fod yn rhedwraig, ond roeddwn yn fam newydd, yr amser a’r arian sbâr ar gyfer y gampfa’n brin, ac angen ychydig o ymarfer corff.  Wrth ddysgu gyntaf sut i weithio tuag at redeg parhaus, roedd fy ffrind wedi cynnig rhywfaint o gyngor amhrisiadwy i mi: ‘Rhed mor araf fyth ag y gelli. Mae’n rhaid i ti wrthsefyll yr ysfa gamarweiniol i redeg yn anghynaladwy o gyflym.’ Fe weithiodd yn rhyfeddol. Rhedais am oesoedd heb unwaith edrych nôl.

Yn ddiweddar, yn fy ardal i, bu ffrwydrad o redwyr newydd, yn aml dan arweiniad cyngor a hyfforddiant eu hapiau. Tra oeddwn yn rhedeg y bore ‘ma ar ffordd Rufeinig hir, syth , wastad, ymddangosodd cysgod rhedwr arall yn y pellter o fy mlaen. Wrth imi ddynesu, sylwais y byddai’r rhedwraig yn stopio i gerdded o bryd i’w gilydd, a phan oedd hi’n rhedeg, roedd ei chamau ychydig yn lletchwith; ymddangosai fod ei choes yn ei phoeni. Gwyliais hi o’m blaen, a bu ar y blaen am gyfnod rhyfeddol o hir, er gwaethaf ei seibiannau’n cerdded.

Yn y pen draw, llwyddais i redeg ochr yn ochr â hi, a chynnig rhannu’n  gyfeillgar ychydig o’m profiad: ‘Go dda, rydych chi’n cerdded yn achlysurol ac rydych chi’n dal yn gyflymach na fi!’ Gwenais, gan awgrymu beth dyblwn i oedd ei chamgymeriad o fynd yn rhy gyflym ac felly angen stopio. ‘Purion’ gwenodd yn ôl ‘Rwy’n Jeffo. Rhedeg 45 eiliad. Cerdded 45 eiliad. Mae gymaint haws yn feddyliol.’  Doeddwn i erioed wedi clywed am ‘Jeffo’* ond yn sydyn cofiais am erthygl a ddarllenais mewn cylchgrawn yn honni bod hyfforddiant seibiannol yn llawer mwy effeithlon o ran adeiladu ffitrwydd nag ymarfer caled parhaus. ‘A yw’n eich gwneud chi’n llawer mwy heini?’ gofynnais i’r fenyw. ‘Ydy’ atebodd  ‘ond yn bwysicach fyth, mae’n fy nghadw’n rhydd o anafiadau.’ Edrychodd i lawr ar ei choes.

Erbyn hynny roeddem wedi cyrraedd cyffordd ac aeth y ddwy ohonom ein ffyrdd ein hunain.   Wrth i mi loncio ar fy siwrnai ces amser i feddwl; roeddwn wedi gwneud y camgymeriad o feddwl mai’r cyngor cyfeillgar fu gymaint o gymorth i fi wrth fy helpu i redeg fyddai’r cymorth oedd ei angen ar bawb. Yn wir, nid oedd angen dim ar fy nghyd-redwraig y bore ‘ma. Fi gafodd y wers.

Roeddwn wedi gadael i’m hawydd i fod o gymorth gymryd yr awenau, pan nad oedd help yn ddefnyddiol, pan nad oedd ei angen hyd yn oed. Mae seicotherapyddion systemig yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn ddefnyddiol yn hytrach na bod o gymorth. Mae helpu yn un math dilys o fod yn ddefnyddiol, ac mewn rhai amgylchiadau, y math gorau un o fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, mae cymaint o amgylchiadau eraill lle mae helpu’n ddiwerth, neu hyd yn oed yn waeth na diwerth. Waeth pa mor glodwiw ein bwriadau, gall helpu, yn anfwriadol, awgrymu bod ‘yr hwn sy’n cynorthwyo’ rywsut yn uwch na’r ‘hwn gaiff ei gynorthwyo’; gydag amser, yn ddoethach ac yn  well. Yn y modd hwn, gall helpu’n bendant danseilio’r person arall. Gall helpu hefyd amddifadu’r person arall o’r broses o ddarganfod ei wirionedd ei hun, proses o ddarganfod a allai fod yn amhrisiadwy i’r person hwnnw. Yn waeth fyth, gellir cymhwyso helpu i’r rhai sydd ddim ond yn wahanol i ni’n hunain. Weithiau, nid oes angen ein help ar bobl, maen nhw’n gofyn i ni agor ein meddyliau ychydig a chofio bod ymddwyn yn ddynol yn llwyfan eang iawn o amrywiaeth gyfoethog. Hwyrach bod pobl sy’n wahanol i ni ddim ond yn ceisio bod yn driw iddynt eu hunain. Help yn ddiangen, diolch.  

Nawr efallai mai fi yn unig sy’n gwneud y camgymeriad hwn, ond rwy’n dyfalu nad felly mae. Petaem ni yn y ‘proffesiynau cynorthwyol’ yn symud i weithredu fel ‘proffesiynau defnyddiol’ mae’n debyg, cyn pentyrru pob math o help ar unigolion, y byddem yn oedi er mwyn darganfod mwy gan yr unigolion hynny ynghylch yr hyn y bydden nhw’n ei ystyried yn ddefnyddiol o fewn eu hamgylchiadau penodol. Efallai mai cael saib i feddwl, cael eraill i gredu ynddyn nhw, adfer cysylltiad â’u harbenigedd eu hunain. Pwy ŵyr, efallai y gallai’r ‘proffesiynau defnyddiol’ arbed llawer o waed, chwys a dagrau diangen.

Jen & Jael

*Mae ‘Jeffo’ yn cyfeirio at y dechneg redeg a sefydlwyd gan yr Olympiad Jeff Galloway sy’n defnyddio ysbeidiau o gerdded a rhedeg.


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent