Gadewch iddo anadlu

26 June, 2020

Un o gyfrinachau euog bod yn rhiant canol oed yw bachu ar y cyfle i chwiwladrata ffrwythau gwaharddedig eiddo diwylliannol ieuenctid. Yn anffodus, mae fy mhlant wedi cyfarwyddo â’m camymddwyn ac mae fy merch sydd bron yn ei harddegau bellach yn dweud wrthyf yn syth os ydw i wedi crwydro i mewn i esgidiau ymarfer sy’n rhy blatfform neu grysau chwys sy’n rhy neon. Ond rhywbeth rydw i wedi llwyddo i osgoi sylw fy mhlant hyd yma yw fy hoffter o Stormzy. Rhaid cyfaddef, dim ond y brif ffrwd sy’n taro, ond hei! Mae un campwaith o eiddo Stormzy ‘Gwnewch yn Well’ wedi bod ar fy meddwl yn ddiweddar. Dywed y gân ‘er mwyn gwneud yn well’ mae’n rhaid i chi ‘adael iddo anadlu.’

Gyda Stormzy ar fy meddwl, rwy’n cael fy hun yn fy nosbarth ioga (yn ôl pob tebyg yn gwisgo crys-t sy’n rhy neon). Mae fy athro ioga yn ceisio hoelio’n sylw. Mae’n awgrymu rhywfaint o ystumiadau afresymol sy’n dreth ar fy nghorff canol oed bregus. Mae’n rhwbio halen yn y briw â sylwadau fel ‘defnyddiwch 50% o’ch ymdrech’ a ‘llai o gyhyr, mwy o anadl.’

’Defnyddiwch 50% o’ch ymdrech.

Gwnewch lai i wneud mwy.

Gwnewch yn well. Gadewch iddo anadlu.

Beth mae’r dynion hyn yn ei wneud i mi yma?!

Symud ymlaen eto i senario newydd. Fi yn y gwaith yn ceisio bod yn ddefnyddiol i’m tîm mewn sesiwn ymarfer myfyriol. Yn Fy Nhîm Cymorth rydym yn aml yn defnyddio dull adlewyrchu tîm arloesol y therapydd teulu Tom Andersen wrth siarad gyda’n gilydd. Mae un is-grŵp yn siarad tra mae’r llall yn gwrando, yna newidiwn drosodd. Pan fyddaf yn y grŵp siarad, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn un o’r bobl hynny sy’n aml yn llawn syniadau llafar. Rwy’n mwynhau gweithio cyhyr fy meddwl. Ac eto mae’n ymddangos mai yn y grŵp gwrando y caf f’ymarfer gorau.

Mewn un drafodaeth adlewyrchu  tîm o’r fath yn ddiweddar, ffurfiodd fy nghydweithwyr a minnau’n ddau is-grŵp gan fwriadu newid bob yn ail rhwng siarad a gwrando gyda’n gilydd. Tybiwn ei fod yn ddiwrnod ffodus i mi, gan fod fy ngrŵp i wedi’i ddewis i siarad yn gyntaf. Fodd bynnag, o glywed y ceidwad amser yn datgan ei bod yn amser cyfnewid grwpiau, teimlwn yn ddigalon am nad oeddwn wedi gallu mynegi  hanner yr hyn roeddwn am ei gyfleu. Serch hynny, roedd hi’n bryd rhoi pen ar y mwdwl a dod yn rhan o’r grŵp gwrando.

Cymerodd y grŵp arall y bêl a rhedeg gyda hi i bob math o lefydd na fyddwn i fyth wedi mynd iddynt. Fe wnaeth gwrando arnyn nhw fy llenwi’n frwdfrydig â syniadau newydd am ein harfer. Ac o’r diwedd, fe wawriodd arnaf: Defnyddiwch 50% o’ch ymdrech, yna gadewch iddo anadlu. Caniatáu i eraill ddod â’r 50% arall. Fel hyn, hwyrach y gallech chi gyrraedd llefydd na fyddech chi byth yn eu cyrraedd wrth wthio’ch cyhyrau’ch hun ar eich pen eich hun.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent