Syrthio mewn cariad â chyfrifydd

6 July, 2020

Mae holl dimau Fy Nhîm Cymorth yn yr ardal yn dod at ei gilydd unwaith bob pythefnos ar gyfer sesiwn ymarfer myfyriol ar y cyd. Yr wythnos hon buom yn trafod data. Yn fwy penodol, buom yn trafod sgoriau ar raddfa seicometrig a gasglwyd bob chwe mis am bob un o’r bobl ifanc sy’n defnyddio’n gwasanaeth. Roeddem eisiau gwybod beth ddywedai’r data hyn wrthym am ein gwaith gyda phlant, teuluoedd a gofalwyr maeth. 

Ar ddiwedd y sesiwn flaenorol o ymarfer myfyriol ar y cyd, lle’r oeddem wedi trafod materion clinigol diddorol iawn, gwnaed cyhoeddiad mai data fyddai’r pwnc ar gyfer y tro nesaf. Roedd ochneidio a chwyno cytûn ‘Mae mor sych!’, ‘Nid yw’n cyfleu cymhlethdod iechyd meddwl na’n gwaith mewn gwirionedd!’ a ‘Mae data yno i bobl eraill eu gweld, rwyf i am siarad am y plant a’r teuluoedd!.’

Er gwaethaf y gwrthwynebiad hwn i’n syniad, aethom ymlaen â’n hadolygiad data. Felly’r wythnos hon fe aethom ati i gyflwyno trosolwg o’r wybodaeth yn ein meddiant ar gyfer pob plentyn, gan holi rhai cwestiynau i’n timau feddwl trostynt:

Beth sydd o ddiddordeb i chi am y wybodaeth hon?

Os yw o unrhyw werth o gwbl, beth allai fod?

Sut y gellid ei gwella?

Nid ymddangosai bod ein cwestiynau’n ysbrydoli ac yn sicr ni chyflymai calonnau’n cydweithwyr. Yna gwnaethom sylwadau pellach ‘Gall unrhyw un syrthio mewn cariad â chyfrifydd, er ei fod yn gwisgo siwt lwyd, mae’n dal yn berson.’ ‘Rydych chi’n gwthio’r cwch yn ddwfn i’r dŵr nawr’ daeth ymateb ac roedd yr honiad yn berffaith wir ond fe aeth y timau ati i ystyried ein cwestiynau, ac ymhen dim fe ddechreuodd rhywbeth diddorol ddigwydd.

‘Mae’r data’n dangos pa mor wallgof ac idiosyncratig yw’r broses o newid.’

‘Er mwyn i bobl eraill i ddeall pam mae’r data fel y maent, mae’n rhaid i ni allu mynegi’n well  y cyd-destunau y caiff ein pobl ifanc eu hunain ynddynt.’

‘Mae angen i ni siarad â phobl ifanc lawer mwy am eu nodau a sut maen nhw ac eraill yn eu gweld yn dod yn eu blaenau. Mae angen i ni drafod y data hyn gyda phobl ifanc yn amlach.’

Ac aeth y broses hon o ddatblygu chwilfrydedd a brwdfrydedd ymlaen ac ymlaen, nes i un o’n cydweithwyr ddatgan yr hyn oedd yn ymddangos fel profiad ar y cyd: ‘Fe allaf syrthio mewn cariad â chyfrifydd pan ddof i i’w adnabod, yn bersonol, yn agos, a minnau’n gallu gweld y tu hwnt i’m rhagfarnau ynghylch ei ddelwedd.’ A dyna sut y darganfu’n timau angerddol, creadigol hyd yn oed, gariad at ddata.

Rydym yn honni’n bod yn gwneud defnydd o bopeth o fewn ein gafael i helpu’r plant a’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda hwy, y gwir yw bod yn rhaid i ni  ystyried pob peth sydd ar gael, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn foel a diflas ar yr olwg gyntaf. Mae’n ffaith fod yna drysor ym mhob man pan fyddwn yn edrych gydag un llygad werthfawrogol amdano.

Jen & Jael

Troednodyn: Rydym yn mawr obeithio na wnaethom sarhau unrhyw gyfrifydd wrth lunio’r darn hwn.


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent