Peidiwch â’i gymryd yn bersonol

17 July, 2020

Y diwrnod o’r blaen, tra oeddem allan mewn cyfarfod al fresco, allem ni ddim llai na chlywed adlais o ddau ffrind yn sgwrsio am drydydd ffrind. ‘O ma’ honna wastad wedi bod yn anodd!’ cytunwyd. Gwnaeth ein taro yn y fan a’r lle, fod yr hyn mae rhywun yn ei wneud yn bersonol i’r person hwnnw’n unig, yn rhan o bersonoliaeth person, gallech ddweud. Mae’r person hwn yn un anodd, a hynny oherwydd ei fod yn berson anodd. Mae’r person hwn yn ennyn ysbrydoliaeth, ac mae hynny oherwydd ei fod yn berson ysbrydoledig.

Ac eto, nid dyna sut rydym ni’n ei weld. Yr hyn a welwn ni yw bod pobl yn cael eu ffurfio mewn perthnasoedd a chyd-destunau. Nid oes ond angen edrych arnom ein hunain. Ydym ni mewn gwirionedd yr un person gyda’n rhieni â gyda’n ffrindiau? Gyda’n cariad fel gyda’n bos? Ydym ni’n ymddwyn fel yr un person pan rydym ni’n anobeithio â phan rydym ni’n llawen? Beth am yr adegau pan rydym ni’n llwyddiannus o gymharu â phan rydym ni wedi methu? Na, mae’n ddyfnach na hynny, mae’n fwy na rhyw fath o bersonoliaeth sefydlog yn cyfrif am bwy ydym ni, sut ydym yn siarad, yn ymddwyn, yn meddwl a theimlo, ein gobeithion a’n breuddwydion, ein doniau a’n galluoedd.

Felly, os ydym ni’n deall pobl yn nhermau cael eu ffurfio’n gymdeithasol, mewn llif deinamig hanfodol gyda’u cyd-destunau, yna beth allem ei weld a’i wneud yn wahanol? Os mai’r cyd-destun a’r berthynas gyda pherson arall sy’n ffurfio pwy yw person a’r hyn mae’n penderfynu’i ddweud a’i wneud ar unrhyw adeg benodol, yna pa fath o  bosibiliadau all ddeillio o hyn?

Yn Fy Nhîm Cymorth, rydym yn aml yn rhan o drafodaethau proffesiynol ynghylch ble mae plant sy’n derbyn gofal yn cael eu ‘lleoli’. Yn ystod y trafodaethau hyn, rydym yn aml yn clywed cydweithwyr yn gwneud datganiadau megis ‘os yw hi’n rhwygo a chwalu yn y cartref preswyl, a’r gofalwr maeth hwn yn methu â’i thrafod, fydd y gofalwr maeth nesa ddim  yn gallu ‘chwaith’, ac ‘os yw hi’n darnio a rhwygo yn y cartref preswyl,  fydd na’r un ffordd y gallai hi ymdopi gartref gyda’i theulu.’ Rydym yn aml iawn yn ymateb drwy weld yn wahanol: Gweld ymddygiad y plentyn ac yn wir y plentyn ei hun yn rhwym yn ei gyd-destun a’i berthnasoedd. 

Yn ein profiad ni, nid yw’r hyn sy’n cael ei ffurfio mewn perthynas ag un gofalwr o reidrwydd yn ganllaw cwbl ddibynadwy i’r hyn a fydd yn digwydd gyda’r gofalwr nesaf. Mae gennym hefyd brofiadau dirifedi o blant y mae eu hymddygiad peryglus mewn gofal preswyl yn sefydlogi’n aruthrol pan fyddant yn ôl gyda’u teuluoedd neu gyda gofalwyr maeth yn eu cymunedau. A pham? Am nad yw ymatebion un person i blentyn yr un peth ag ymatebion person arall, ac mae hyn yn gwneud byd o wahaniaeth. Oherwydd nad yw’r ffactorau amddiffynnol, y gall un person neu le eu cynnig i blentyn, yr un fath â’r ffactorau amddiffynnol y gall person neu le arall eu cynnig, ni waeth faint o ‘arbenigedd’ swyddogol a briodolir i’r bobl a’r llefydd hyn.  

A chofiwch hyn, nid yn unig na phennir person fel ‘person anodd yn unig’, ac na phennir person fel ‘person ysbrydoledig yn unig’, na ‘ddim yn ysbrydoledig o gwbl.’ Gall pob plentyn, yn wir gall pob person ddod yn berson ysbrydoledig yn yr amodau cyd-destunol ac ymarferol priodol. Mae angen i ni gofio hyn pan rydym ni’n ceisio gwella amodau i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n eu caru.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent