Datblygu ymwybyddiaeth risg

22 June, 2020

Rwy’n hoff iawn o lestri cegin y 1970au, ac yn amlach na dim y siopau elusennol yn fy nghymdogaeth yw fy ogof Aladdin. Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn un o’r siopau elusennol hyfryd hyn, cefais bowlen afal wydr siâp afal o’r 1970au. Nawr pawb at y peth y bo, ond i mi, roedd y bowlen ffrwythau hon ar frig fy siartiau. Roeddwn i wrth fy modd.

Y diwrnod o’r blaen, wrth ddiystyru unwaith yn rhagor ein rheol ‘Peidiwch â neidio ar y dodrefn’, fe drawodd fy mab y bowlen afal,  a do, fe ddyfaloch yn gywir, i lawr â’r bowlen  i’r llawr, â’r crac ynddi’n arwydd o’r diwedd. Daeth y dagrau’n syth i lygaid fy mab, fe wyddai gymaint roeddwn i’n caru creiriau sentimental oedd yn f’atgoffa o’m plentyndod. ‘Paid â phoeni’ meddwn o ddifrif , gan roi cwtsh iddo, ‘mae damweiniau’n digwydd i bob un ohonom. Ydw, rwy’n hoffi’r bowlen, ond mae’n bwysicach dy fod ti’n iawn. Cadw draw am funud, mae’n rhaid clirio’r darnau gwydr. Dydyn ni ddim am i dy draed di gael eu torri.’ Bron nad oeddwn i’n ei feddwl!

Mewn sefyllfa fel hon, mae ’na risg; gwydr ar y llawr ger traed bach noeth. Y peth iawn i’w wneud yw  gadael popeth a’i chyfrif hi’n fraint cael gwneud y sefyllfa’n ddiogel  unwaith yn rhagor. Mae hon yn sefyllfa risg syml. Fe’i  galwn yn sefyllfa risg ‘Math A’. Ond mae yna sefyllfaoedd risg ‘Math B’ hefyd, sydd o natur wahanol; maent yn gymhleth. Mewn sefyllfaoedd risg Math B, mae sawl newidyn ar waith, ac mae ymateb amddiffynnol  gwrth-risg yn unig bob amser yn arwain at rai canlyniadau negyddol anfwriadol. Gallem ei alw’n ‘risgiau’r ymateb gwrth-risg’.

Cymerwch ein gwaith gyda phlant yn Fy Nhîm Cymorth.  Mae pobl ifanc mewn trallod, a hyd yn hyn heb y sgiliau ymdopi iach a’r rhwydweithiau perthnasoedd cefnogol. Felly, mewn trallod a heb strategaethau ymdopi iach na pherthnasoedd dibynadwy, mae’r plant hyn yn gwneud eu gorau glas i ddod i ben rywsut; yn aml yn defnyddio ymddygiadau peryglus fel hunan niweidio, bod yn ymosodol tuag at eraill, hunan-feddyginiaethu â sylweddau, a ffoi i berthnasoedd sy’n anniogel ond  sy’n gysurlon ac sy’n tynnu sylw oddi ar eu problemau, a hynny gyda phobl fyddai’n eu niweidio. Mor aml, mae oedolion yn ymateb dim ond trwy geisio amddiffyn y plentyn. Mae’n reddf naturiol wrth gwrs. Pwy fyddai’n gwadu hynny?

Ond mae problem, nid yw sefyllfaoedd risg Math B yn agored i ymatebion gwrth-risg syml. Pan ddywedwch wrth blentyn na ddylai niweidio’i hunan eto pan fydd mewn trallod, i ble arall all droi? Pan fyddwch chi’n tynnu plentyn o’r ysgol a’i amddifadu o gyswllt cymdeithasol oherwydd iddo fod yn ymosodol, beth arall sy’n cael ei golli, a beth mae’r colledion hyn yn ei wneud i’r plentyn? Pan fyddwch chi’n dweud wrth blentyn nad oes croeso iddo gartref byth eto os yw’n camddefnyddio sylweddau, oherwydd nad oes gan y plentyn ffordd arall o ymdopi, ac mae’n gwneud yr un peth eto, beth wedyn? Pan fyddwch chi’n cloi plentyn i mewn i’w atal rhag rhedeg i ffwrdd gyda phobl anniogel beth sy’n digwydd yn y pen draw pan fyddwch chi’n datgloi’r drws?

Pan fydd gennym sefyllfa risg Math B gymhleth, aml-haenog, mae’n rhaid i ni ddefnyddio dull mwy cignoeth o gydbwyso diogelu plentyn a rhoi cyfleoedd i’r plentyn hefyd ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol er mwyn rhoi’r gorau i’w ymddygiad peryglus yn y tymor hwy. Os ydym ond yn atal unrhyw beth peryglus rhag digwydd, byddwn yn datrys problem heddiw wrth greu problem yfory. Mae cymryd risgiau pwyllog, gyda’r gefnogaeth angenrheidiol, yn broses sylfaenol o ddatblygiad dynol cyffredin. Trwy ddilyn y llwybr gwrth-risg yn unig, rydym yn colli popeth  ac yn gwadu cyfleoedd hanfodol i’r plentyn dyfu. Cyfleoedd i dyfu allan o’i broblemau peryglus yn gyfan gwbl.

Yr hyn rydym ni yn Fy Nhîm Cymorth yn ei weld yn gyffredin mewn gofal iechyd meddwl plant yw plant yn cynyddu haenau gwasanaethau, i fwy a mwy o leoliadau gofal ‘arbenigol’ a chyfyngol wrth i fethiant ymatebion Math A i broblemau Math B gael ei ailadrodd. Mae plant yn ‘gwaethygu’ wrth iddynt gael eu cyfyngu, eu diystyru a’u heithrio mewn ymateb i’w hymddygiad ymdopi peryglus gwreiddiol. Yn Fy Nhîm Cymorth, ein rhesymeg greiddiol yw herio’r broses hon, dod â phlant yn ôl o sefydliadau arbenigol i amgylcheddau teuluol a chymunedol, a datgynyddu risgiau trwy roi cyfleoedd pwyllog i blant adeiladu ffyrdd amgen o reoli’u trallod, gydag arweiniad oedolion allweddol ochr yn ochr â nhw drwy’r dydd a’r nos.

Mae’n hanfodol bwysig gweld y camgymeriad o gymhwyso ymatebion gwrth-risg syml i sefyllfaoedd risg cymhleth. Mae i beidio â gwneud hynny ei ganlyniadau personol a chymdeithasol mwyaf difrifol.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent