Wynebu teimladau

29 September, 2020

Roeddwn yn sgwrsio gyda chydweithiwr y diwrnod o’r blaen. Gadewch i ni ei alw’n Billy. Dywedodd Billy wrthyf ei fod yn cael trafferth cynnal perthynas â rhywun yn ei dîm. Wedi cythruddo ac yn ddig ynghylch rhywbeth, roedd y person hwn wedi cyhuddo Billy o beri gofid iddynt a’i gyhuddo ymhellach o fod yn rhy ddifeddwl neu’n rhy ddi-glem i unioni’r cam. Plygodd Billy ei ben mewn siom … roedd yn wynebu posibiliad mor ofnadwy amdano’i hun.

Aethom ati i ymchwilio ymhellach i’r modd roedd y rhyngweithio  anodd hwn wedi effeithio ar Billy. Disgrifiodd deimlo’n fregus a theimlo  cywilydd. Nid yn unig bod adborth ei gydweithiwr wedi bod yn galed, ond roedd derbyn cyhuddiad o’r troseddau penodol hyn wedi bwrw Billy oddi ar ei echel; yr  ofn mwyaf fyddai’n ei boeni oedd cyhuddiad o fod yn ddifeddwl ac ansensitif o eraill. Roedd wedi profi effeithiau’r mathau hyn o ryngweithio’i hun fel person ifanc, ac felly roedd wedi gwneud adduned na fyddai byth yn ymddwyn fel  hyn. Ac eto, dywedodd ei gydweithiwr wrtho mai dyma’r math o berson oedd e bellach.  

Tra teimlai’n llawn anobaith a chywilydd, dywedodd Billy iddo sylwi ar broses yn cyniwair o’i fewn ar ôl y rhyngweithio. Proses lle’r oedd Billy wedi ceisio osgoi ei deimladau o fregusrwydd. Ac wrth iddo ddweud wrthyf am y broses hon, daeth syniadau Freud am amddiffynfeydd ego i’m meddwl. Roedd yn ymddangos bod Billy wedi teithio lawer ohonyn nhw.

  • Roedd wedi mynd yn dawedog  – yn oer a diffrwyth i unrhyw deimlad.
  • Roedd wedi ceisio’n daer i gymodi â’i gydweithiwr – ‘Plîs, dewch i’m hoffi, rwy’n fachan dymunol.’ 
  • Roedd wedi encilio i’w feddwl deallusol – ‘Mae gennym ni gyd bethau gwell i’w gwneud na thrafferthu â’r nonsens ’ma’. 
  • Roedd wedi rhoi’i hun ar bedestal – ‘A dweud y gwir, rwy’n dda iawn yn fy ngwaith, trueni na fasech chi’n gweld hynny.’
  • Roedd wedi breuddwydio am redeg i ffwrdd – ‘Wfft i’r swydd ’ma!’  

Roedd carwsél yr amddiffynfeydd yn cylchdroi ymlaen ac ymlaen, a haerodd Billy ei fod wedi blino’n lân â’r cyfan.  ‘Rwy’n dal i deimlo’n ofnadwy’ meddai ‘heb wybod beth i’w wneud i wella’r sefyllfa.’ Gan ddringo i lawr o’r carwsél amddiffyn ego, cytunwyd ein bod yn siarad mwy am yr hyn roedd Billy mewn gwirionedd yn amddiffyn ei hun rhagddo. Yr ofn ofnadwy ei fod yn berson drwg sy’n brifo eraill ac nad yw hyd yn oed yn ymboeni i sylwi. Cronnodd y dagrau. Ochneidiodd. Daliasom y posibiliad ofnadwy gyda’n gilydd mewn distawrwydd. Edrychais arno gan wybod mod i’n syllu ar rywun na allai fod yn ddelwedd o’r person ofnadwy hwnnw. Ac yna fe gododd… diddymwyd emosiwn ofnus yn y profiad o gael rhywun i wrando arnoch, cael eich profiad wedi’i wyntyllu mewn perthynas, llwyddo i oroesi. Gan ildio’i amddiffynfeydd, a chaniatáu cysylltiad dilys â’i emosiynau, rhyddhaodd Billy ei hun o afael ofn a chael ei draed yn solet ar y ddaear, a chyda cham petrus, dychwelodd i gerdded ei lwybr yn ei dîm.

Bu profiad Billy yn gyfrwng i’m hatgoffa o ba mor anodd y gall fod i bob un ohonom fodau dynol wynebu’n hofnau gwaethaf amdanom ein hunain a’r emosiynau a gwyd yn ei sgîl. Mae llawer ohonom yn mynd i drafferth enfawr i osgoi’r cyfarfyddiadau anodd hyn. Ac eto gall amddiffyn ein hunain rhag ein teimladau ofnus ddod yn dasg mor enfawr ynddi’i hun, a gall greu byd o broblemau eraill. Mor bwysig, felly, yw hi i ni i gyd gael perthnasoedd a chyfleoedd i brosesu’r emosiynau a’r syniadau sy’n dod yn sgîl y pethau sy’n ein brifo.

Ac felly y mae yn ein gwaith yn Fy Nhîm Cymorth, annog disgyblion i wynebu’u teimladau brawychus yn uniongyrchol yn hytrach nag amddiffyn rhagddynt. Teimladau brawychus fel:

‘Rwy’n arswydo rhag y loes o gael fy ngwrthod gan ofalydd arall.’  

‘Rwy’n arswydo rhag y gwarth o fethu yn yr ystafell ddosbarth.’ 

‘Rwy’n arwyddo rhag y cywilydd mai fi sydd ar fai mod i’n cael fy ngham-drin.’  

‘Rwy’n arswydo rhag yr anobaith nad yw bywyd byth yn  mynd i wella i fi nawr.’  

‘Rwy’n arswydo mod i’n fregus ac na ellir ymddiried yn neb i aros gyda fi a’m helpu drwy hyn i gyd.’

Mae’r rhain yn sicr yn ofnau mawr i blant eu hwynebu wyneb yn wyneb, ac eto gyda chadernid perthynas therapiwtig dda, eu hwynebu a wnânt. A thra gallai hyn fod yn boenus i bawb, ceisiwn beidio â gadael i’n hunain gael ein harwain gan awydd i amddiffyn plant rhag eu teimladau.  Yn hytrach, ceisiwn roddi i blant y profiad y gallant oddef eu hemosiynau, ac o’u cynnal gyda ni’n dau gyda’n gilydd, gall eu hemosiynau nid yn unig oroesi ond yn raddol fe fyddant yn rhyddhau’u gafael arswydus. Wrth wneud hyn, yn union fel bu stori Billy, fy nghydweithiwr, yn gyfrwng i’m hatgoffa, mae yna ryddid ac mae yna ffordd ymlaen. 

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent