Tipyn o lwc

15 September, 2020

Mae fy mhartner yn fachan lwcus. Mae e byth a hefyd yn dod o hyd i arian yn y stryd. Ac nid arian mân, na, daeth hwn o hyd i £10 mewn parc am hanner nos wrth i ni feicio adref gyda’n gilydd o’r dafarn yn y tywyllwch. Daeth o hyd i £20 yn y gwter ar daith i’r dref. Yna daeth o hyd i £80 mewn rholyn tynn o bapurau deg punt ar draeth agored wrth redeg ar ei hyd am chwech o’r gloch y bore. (Mae’n anodd ei hoffi, fy mhartner!) 

Wrth gwrs, amdana i, dw i byth yn dod o hyd i unrhyw arian parod. Dim o gwbl. Y diwrnod o’r blaen, tra oeddwn allan yn loncio, sylwais ar ddarn pum ceiniog ar y palmant. Rhedais ymlaen heibio, nid yw pum ceiniog  yn ddigon i dorri fy nghamre. Fodd bynnag  trodd rhywbeth fi nôl i adfer y darn arian. Pwy ydw i i fyw heb gydnabod a bod yn ddiolchgar am fy lwc mewn bywyd, waeth pa mor fawr neu fach? 

Rhedais ymlaen, ac wrth droi’r gornel fe deilodd aderyn a’r hylif yn glanio led troed o lle’r oedd fy esgid ar fin disgyn. Whiw, cael a chael oedd hi! Dihangfa lwcus arall

Does dim dau heb dri. Ac wrth redeg y rhan olaf o’r daith, fy wyneb yn goch a braidd allan o anadl, rhedais heibio’r arhosfan bws olaf ar fy nhaith. Eisteddai dyn yn y lloches bws a’i gan o Red Stripe yn ei law, edrychodd i fyny arna i gyda llygad du chwyddedig â’m hannog yn acen ddofn Caerdydd, ‘Go on lerve!’

Tair strôc o lwc mewn awr. Mor lwcus.

Efallai y gallem ni gyd gynnwys ein hunain ymhlith y bobl lwcus, a chyda’r syniad gobeithiol hwn ohonom ein hunain, efallai y gallem barhau i chwilio a chadw llygad am ein lwc dda. Efallai nad y sypyn  arian y mae rhywun arall wedi’i ddarganfod mohono, ond mae’r darnau pum ceiniog  hynny yn cyfrif hefyd, ac wrth werthfawrogi’r rhoddion bychain hyn, rydym ni’n atgoffa’n hunain bod Ffawd mewn cysylltiad â ni ac rydym ni i gyd yn haeddu ei chydnabyddiaeth weithiau. 

Yn Fy Nhîm Cymorth, rydym ni’n ceisio gweithio mewn ffyrdd sy’n trosglwyddo’r agwedd obeithiol hon i blant. Ac os nad yw plant hyd yn hyn wedi bod yn ddigon ffodus i deimlo’u bod yn cael eu caru’n llwyr, rydym yn ceisio creu cymaint o ‘strociau o lwc’ ag y gallwn  i gyffwrdd â nhw. Oherwydd er ein bod ni i gyd yn haeddu cariad, rydym yn lwcus i gael ein caru, a dim ond anlwc yw nad ydyn ni wedi’i brofi eto. Nid oes angen poeni nad ydym yn haeddiannol neu’n ddethol.  Nid oes angen rhoi’r gorau ychwaith i’r posibilrwydd bod lwc dda rownd y gornel.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent