Syrthio drosodd

2 December, 2020

Rwy’n rhedeg yn rheolaidd bob dydd Sul ac ar fy ffordd adref y Sul diwethaf fe  lithrais a chwympo drosodd. Yn gorwedd yno ar lawr, wedi ‘ngorchuddio â llaid, fy nghoesau a fy mhengliniau’n gwaedu, roeddwn mewn cyfyng-gyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. A ddylwn i gydnabod yr hyn oedd wedi digwydd, teimlo’r boen a chymryd eiliad i wella cyn codi’n ofalus a hercian adref? Neu efallai y dylwn neidio i fyny gan esgus nad oedd yn ddim byd, gan obeithio nad oedd neb wedi sylwi, a phrofi y gallwn redeg ymlaen yn ddirwystr er gwaethaf fy aelodau poenus a’m balchder clwyfedig? Yn y diwedd, penderfynais fod yn onest a chyfaddef imi gwympo, iddo frifo ac ni allwn barhau i redeg.

Ar ôl penderfynu sut oeddwn i fy hun yn mynd i ymateb i’r hyn a ddigwyddodd, roedd penderfyniad arall i’w wneud ynglŷn â sut i ymateb i bobl eraill. Pan godais i maes o law a hercian ymlaen, fe dynnodd f’ymddangosiad anniben sylw cyd-redwr. Stopiodd ac edrych i’m cyfeiriad yn bryderus gynnes. ‘Wyt ti’n iawn?’ gofynnodd. ‘Syrthio drosodd, ’na gyd’ atebais.  ‘O na, wyt ti wedi brifo?’ gofynnodd. ‘Rwy’ wedi brifo ond rwy’n iawn’ dywedais ‘ond rwy’n teimlo’r fath ffŵl, dw i byth yn cwympo drosodd, dw i ddim yn gwybod beth sydd o’i le arna i’. ‘Deall yn iawn’ amneidiodd hi mewn cydnabyddiaeth, ‘Rwyf  i’n cwympo drosodd tuag unwaith y mis tra rwy’n rhedeg, ac mae’n sioc erchyll. Pan oeddem ni’n blant, byddem yn cwympo drosodd drwy’r amser, yn codi a mynd nôl ar ein sgwteri heb feddwl… Ond a ydych chi’n iawn? ’  ‘Ydw’ atebais. A chyda gwên garedig dywedodd ‘Iawn, wel cymerwch ofal’ ac aeth ar ei ffordd gan loncian.

Yn ôl gartref yn nes ymlaen, meddyliais am ‘syrthio drosodd’ yn emosiynol hefyd. Efallai bod rhai elfennau tebyg rhwng y fersiynau corfforol a’r seicolegol o syrthio drosodd. Onid ydym ni i gyd yn syrthio drosodd yn seicolegol o bryd i’w gilydd? A phan wnawn ni, efallai mai’r hyn sy’n gwneud byd o wahaniaeth yw sut rydym ni’n delio â’n cyfyng-gyngor ein hunain ynglŷn â sut i ryngweithio ag eraill ynghylch ein hymateb.

Wrth edrych yn ôl ar fy nghodwm wrth redeg, teimlais fod fy nghyd-redwr wedi rhoi i mi’r union beth oedd ei angen arnaf. Ac roedd ei hymateb mor debyg i’n hymateb ni yn Fy Nhîm Cymorth wrth geisio ymateb i ‘gwympiadau’ seicolegol y plant, y teuluoedd a’r gofalwyr rydym ni’n gweithio gyda nhw. Wrth blygu wrth f’ymyl i, roedd fy nghyd-redwr wedi sylwi nad oeddwn yn iawn. Roedd hi wedi rhoi’r gorau i’r hyn roedd hi’n ei wneud ac am y foment honno wedi ymateb i f’anghenion. Roedd hi wedi gwrando arnaf ac wedi fy neall. Roedd hi wedi cydymdeimlo ac wedi gwneud cysylltiad rhwng fy mhrofiad i a’i phrofiad hi. Roedd hi wedi nodi parodrwydd i helpu ond heb dybio fy mod i’n ddiymadferth. Roedd hi wedi gwrthod fy ngwahoddiad i gytuno bod rhywbeth sylfaenol o’i le arnaf. Roedd hi wedi f’atgoffa o’r amser y gallwn i gwympo a dod dros y codwm yn iawn, ac wedi fy sicrhau’n addfwyn y gallwn ni i gyd wneud hyn.

Yn Fy Nhîm Cymorth, yn ogystal â rhoi sylw i gwympiadau seicolegol yn y modd hwn, rydym hefyd yn ceisio gweithio gyda phlant, teuluoedd a gofalwyr i greu cyd-destun lle mae cwympo drosodd yn seicolegol yn cael ei ddeall fel rhywbeth cyffredin, arferol, ac yn rhan o brofiad pawb. A chyda’r math hwn o gyd-ddealltwriaeth, rydym ni wedi sylwi ei bod hi’n dod yn haws i bobl gydnabod eu cwympiadau, troi at eraill am gefnogaeth, a llamu’n ôl. Ac wrth gwrs, ar ôl i ni ddysgu cwympo a chodi eto, yna rydym ni’n dod yn fwy abl i ddilyn y llwybrau hynny sy’n cynnwys llam ffydd. Felly efallai bod ymarfer sut i lywio cwympo drosodd yn rhan hanfodol o agor posibiliadau a ffyrdd ymlaen newydd. Efallai bod yn rhaid i ni ddod yn gyfaill i gwympo drosodd i amgyffred ein rhyddid yn llawn.

Mae cwympo drosodd, o’i wneud yn dda, yn ein gwneud ni’n ddewr ac yn fwy gwydn. Nid oes rhaid iddo’n llorio. Gall ein hehangu. Nid oes angen i ni osgoi cymryd y risg o syrthio drosodd, ond mae angen i ni greu cyd-destunau ac amodau lle gallwn wella a thyfu o’r profiad.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent