Nid ein meddyliau ydym ni

4 November, 2020

Yn ddiweddar roeddwn yn siarad â ffrind a dechreuodd ddweud wrthyf sut oedd pwysau  pandemig Covid 19 a’i effeithiau ar gymdeithas, rhyddid a pherthnasau wedi cael effaith fawr arni hithau hefyd.

Dywedodd ei bod wedi dechrau teimlo’n isel, yn anhapus ac yn anobeithiol. Roedd hi hyd yn oed wedi dechrau meddwl nad oedd neb yn ei charu, nad oedd neb ei heisiau, nad oedd neb yn ei gwerthfawrogi, yn wir yn dda i ddim. Roedd fy ffrind wedi cael y meddyliau anodd hyn, meddyliau a oedd wedi codi yng nghyd-destun amser dan bwysau, ac roedd hi wedi uniaethu â nhw.  Roedd hi wedi dechrau credu mai ei meddyliau hi oedd hi ei hunan ac mai hi oedd ei meddyliau. ‘Dyna fi!’ roedd hi wedi derbyn heb sylwi arni hi ei hun yn gwneud hynny. Heb sylwi mewn gwirionedd bod ganddi unrhyw ddewis yn y mater o gwbl.

Mae llawer o fodelau seicotherapiwtig yn ein hatgoffa, er bod ein meddyliau’n meddwl (wedi’r cyfan, dyna beth mae meddyliau’n ei wneud), nad ein meddyliau ni ydyn nhw. Mae yna ychydig o arfer defnyddiol iawn yn hyn o beth. Sylwch ar feddwl sy’n eich poeni chi a’i ddweud yn uchel. Efallai mai’r meddwl yw ‘Rydw i ar fy mhen fy hun’ neu ‘Nid oes unrhyw un yn fy ngharu i’. Sut mae’n teimlo’n emosiynol pan rydych chi’n dweud y meddwl yn uchel? Beth sy’n ymddangos yn bosibl ac yn amhosibl pan fyddwch chi’n dweud y meddwl yn uchel? Nawr gwnewch hynny eto, ond y tro hwn, ychwanegwch rageiriau bach syml cyn y meddwl : ‘Rwy’n meddwl bod….’ . Pa wahaniaeth mae’n ei wneud i ddweud yn hytrach ‘Rwy’n meddwl fy mod ar fy mhen fy hun’ ? neu ‘Rwy’n meddwl nad oes unrhyw un yn fy ngharu i’? O’r fath symudiad bach ac eto mae byd o wahaniaeth. Gan wneud y newid hwn, rydym ni’n trawsnewid ein hunain o fod y meddwl, i fod yn westeiwr y meddwl.

Mae hwn yn symudiad rydym ni yn Fy Nhîm Cymorth weithiau’n annog pobl ifanc a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt i geisio. Gall gymryd llawer o ddewrder i roi cynnig ar hyn o ddifrif oherwydd gallwn ddod mor gyfarwydd â chymryd mai ni yw ein meddyliau y gall ail-leoli meddyliau fel rhywbeth sy’n mynd trwom ni deimlo’n hollol wahanol ac yn annifyr o anghyfarwydd. Ac ar ben hynny, mae’r symudiad hwn yn codi mater arall: Nid fi yw fy meddyliau, yna pwy ydw i? Cwestiwn mawr yn wir, ac un y gallem ni deimlo ei fod yn rhy fawr i fynd i’r afael ag ef, er efallai y gallai deimlo’n ddiddorol hefyd. Digon yw dweud y gall sylweddoli nad ydym yn feddyliau fod yn anodd ac rydym weithiau’n amharod i’w dderbyn.

Y wobr sydd ar gael o wneud y newid hwn, fodd bynnag, yw gwireddu rhyddid gwerthfawr ac weithiau rhyddid sy’n achub-bywyd rhag y gormes o orfod delio â bod yn bwy bynnag mae’n meddyliau’n ein gwahodd i feddwl ein bod. Ac i’r bobl ifanc rydym ni’n gweithio gyda nhw yn Fy Nhîm Cymorth, mae nifer o themâu cyfarwydd yn codi ymysg y meddyliau maen nhw’n eu rhannu â ni: rydw i’n fethiant, tu hwnt i gael fy ngharu, yn gywilyddus, yn ddrwg, yn wahanol, yn achos anobeithiol, yn ddi-werth, yn ddigroeso, byth yn mynd i fod yn hapus … i enwi ond ychydig. Gyda meddyliau fel y rhain yn diffinio pwy mae pobl ifanc yn meddwl ydyn nhw, mae’n sicr yn werth ystyried a all ein meddyliau fod yn ddim ond meddyliau, meddyliau a gododd yng nghyd-destun amser yn llawn straen, ac nid yng nghyd-destun pwy ydym ni o gwbl?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent