Madam

13 October, 2020

Rwy’n dwlu ar ffasiwn….neu ‘steil’ wrth i mi benderfynu ei ail-frandio ar ôl tyfu’n rhy hen ar gyfer Topshop ac roedd angen i mi gyfiawnhau i mi fy hun pam rwy’n talu dwbl am fy nillad y dyddiau hyn. Ac wrth ddilyn yr awydd hwn, roeddwn yn ddiweddar mewn siop John Lewis a oedd wedi ail-agor, yn gweu fy ffordd o reilen i reilen yn llawn dillad menywod. Roedd fy mreichiau’n araf lenwi â gemau posibl, pan dorrodd llais cwrtais drwy fy meddyliau preifat, ‘hoffech chi droli ar gyfer yr eitemau ‘na madam?’. Edrychais o amgylch… ‘Madam?’ … Y cyfan y gallwn ei weld oedd fy hen dreinyrs Converse a’m jîns anniben, ni allai’r llais fod yn siarad â fi. Ond yn John Lewis wrth gwrs, ‘Madam’ yw pob gwraig  yn yr ardal gwerthu dillad menywod. Roedd cynorthwyydd y siop yn garedig iawn wrthyf, derbyniais y troli gyda diolch, ac yn y man ei lenwi!

Mewn ymarfer seicotherapi systemig, gwahaniaethir rhwng dwy ran o unrhyw gyfathrebu; cynnwys yr hyn sy’n cael ei ddweud, a’r sefyllfa berthynol a awgrymir yn y dywediad. Drwy gyfeirio ataf fel ‘madam’, mae’r fenyw yn John Lewis yn ein rhoi mewn perthynas; hi yw’r cynorthwyydd siop barchus a fi yw’r cwsmer gwerthfawr. Ac mae beth bynnag a ddywedwn wrth ein gilydd wedyn yn ein rhyngweithio yn perthyn i’r cyd-destun perthynol hwn.

Ac unwaith y byddwn yn sylwi ar y ddwy ran hyn o unrhyw gyfathrebu, gallwn sylwi ar effeithiau pwerus pob un. Wrth gwrs, mae cynnwys y geiriau’n ein taro gyntaf. Gallwn dueddu i feddwl mai dyma sy’n cael ei ddweud mewn gwirionedd. Ond yn glos y tu ôl i’r cynnwys, mae ergyd y sefyllfa berthynol yn dilyn. Efallai y sylwn arni’n syth ac efallai na wnawn, ond yn sicr fe deimlwn yr ergyd.

Yn ein gwaith yn Fy Nhîm Cymorth, mae pobl ifanc yn dweud wrthym, waeth beth fo cynnwys y geiriau a glywant gan oedolion, eu bod yn deall yn glir iawn pan fo’r cyfathrebu perthynol yn cynnwys agweddau o fychanu, tosturio,  casáu, anwybyddu neu eithrio. Gallant hefyd weld yn glir drwy’r rheiny sy’n cyfleu sefyllfa o barch, gwerth, cydraddoldeb, derbyniad neu obaith. Wrth gwrs, gall pobl ifanc weld y negeseuon perthynol hyn yn hynod glir, gallwn ni gyd. Mae naws a goblygiadau’r sefyllfa o ran y berthynas sy’n cael ei gweithredu yn aml yn bwysicach o lawer i bob un ohonom na chynnwys y geiriau. Pan fydd dyn ar y stryd yn galw menyw nad yw’n ei hadnabod yn  ‘cariad’, a yw’n nawddoglyd tuag ati neu’n dangos parch cynnes tuag ati? Mae’n dibynnu ar y sefyllfa berthynol y maent ynddi. Pan fydd menyw yn gwenu ar ddyn yn gwthio pram ei blentyn o amgylch y parc, a yw’n bychanu tadau fel bodau eilradd neu’n cysylltu â chyd-riant? Mae’n dibynnu ar ba sefyllfa berthynol y maent ynddi.

Felly, os ydym am weithio’n llwyddiannus gyda’n gilydd, cyn inni siarad, rydym yn ddoeth i fyfyrio ar y sefyllfa o ran y berthynas rydym ynddi gyda’r person arall. Os yw’n un dda, mae’n debyg y bydd ein geiriau’n cael eu derbyn yn eithaf da, hyd yn oed os ydym yn anghytuno. Os yw’n un wael, mae’n debyg y bydd hyd yn oed y geiriau mwyaf persain yn taro nodyn amhersain. Mae’n hawdd ymchwilio iddo; ym mhopeth a glywn a phopeth a ddywedwn, gallwn ofyn i ni’n hunain beth sy’n cael ei awgrymu am y sefyllfaoedd perthynol  sy’n cael eu ffurfio, a sylwi pa gyfathrebu sy’n ymddangos orau. A phan fydd pobl yn cythruddo’i gilydd, gallwn ofyn ai cynnwys eu geiriau sy’n gwneud y niwed bob amser? Neu a yw weithiau’n golygu bod eu sefyllfaoedd perthynol (gwirioneddol neu ddychmygol) oddi ar y cledrau?

Felly, efallai pan ddaw’n fater o ddod ymlaen gyda’n gilydd, yr hyn sy’n bwysig yw,  nid yr hyn rydym yn ei ddweud  bob amser, ond pwy rydym yn dychmygu ein hunain a’r person arall i fod pan fyddwn yn ei ddweud. Mae perthynas yn ganolog unwaith eto.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent