Helpu eraill a chwrdd â’n hunain …

4 April, 2022

Mae ein ffordd o weithio yn MyST wrth i ni helpu plant sydd yn derbyn gofal yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc a phawb arall sydd yn y system oedolion o’u cwmpas. Wrth gwrs, mae rhiant neu ofalwr y person ifanc  yn rhan ganolog o hyn; y prif berson sydd yn rhoi gofal iddynt a’i ffigwr ymlyniad cynradd. Yn sgil hyn, mae llawer o’n gwaith clinigol yn cael ei wneud  gyda’r gofalwr maeth therapiwtig. Roeddwn yn siarad ag un ohonynt yn ddiweddar. ‘Mae atgofion o fi’n gwneud pethau yn fy arddegau na ddylem fod yn gwneud yn cadw dod i’r cof, a hynny’n ddigymell’ dywedodd ef. ‘Rwy’n credu fod y gwaith hwn o fod yn ofalwr maeth yn gwneud i mi gofio am hen bethau, gan ddwyn i gof teimladau yr oeddwn yn credu fy mod wedi  eu rhoi i’r neilltu ers tro byd.’

Os yw oedolion yn fodlon bod gyda phlant tra eu bod yn rhannu eu profiadau a’u trallod mewn bywyd, yna efallai y byddant,  gyda digon o flynyddoedd o ymarfer, o bosib yn cwrdd â’u hunain hefyd. Mae  adleisio ym mhobman. Wedi’r cyfan, sut  mae pob un ohonom yn medru bod mor wahanol iawn i’r gweddill? Felly, yn MyST, wrth i ofalwyr maeth therapiwtig fynd i’r afael â’u gwaith o flwyddyn i flwyddyn a’n mynd ar daith gyda hwy, daw pwynt pan fydd y gofalwyr yn dechrau ystyried eu hunain mewn ffyrdd gwahanol. Wrth helpu, mae gofalwyr yn aml yn sylweddoli nad ydynt yn medru mynd ymhellach tan eu bod yn wynebu eu profiadau bywyd eu hunain ac effaith hyn ar bwy ydynt erbyn hyn. Cyn cyrraedd y pwynt hwn, maent yn aml yn teimlo’n hynod bryderus a cheir ambell ddeigryn weithiau. Yn araf, drwy gymryd cam ar ôl cam, mae’r gofalwr yn cydnabod ac yn integreiddio, yn croesawu ac yn gweud ffrindiau gyda’r rhannau hynny o’u hunain nad oeddynt yn credu eu bod yn bwysig, bod modd eu rheoli, eu rhoi i’r neilltu ac anghofio amdanynt. Ond nid ydym yn medru anghofio am rannau o’n hunain. Pe bawn yn ‘colli’r’ rhannau yma o’n hunain, mae angen i ni eu hintegreiddio i mewn i’r person yr ydym yn adnabod ein hunain i fod, a thrwy’r broses yma, mae’r rhannau yma yn dod yn llai ofnus ac yn dod yn rhan o ‘fi’.

Mae bod ar gael ar gyfer pob eraill yn union fel ag y maent,  bod yn ddigon hawddgar fel bod y person arall yn medru ymlacio…. nid yw’n llwybr hawdd. Mae gweld person arall yn golygu bod angen i ni weld ein hunain yn grwn, neu fynd mor agos ag sydd yn bosib at hyn. Mae hyn yn golygu cydnabod, ystyried a chynnwys pob un rhan o’n hunain, heb anghofio neu ddiystyru dim byd. A beth yw’r fantais o gyflawni hyn? Bod yn holl bresennol ac ar gael ar gyfer y person arall.

Os ydym yn dychmygu ein bod yn medru anwybyddu’r profiadau perthynas anodd sydd wedi bod yn rhan o’n bywydau ac wedi dylanwadu ar bwy ydym, bydd hyn yn  dod i’r amlwg yn y pendraw…. os ydym yn gwneud hyn yn ddigon da.

Jen a Jael

 


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent