Gwrando ar ein calonnau

21 April, 2021

Mae’n timau yn Fy Nhîm Cymorth i gyd yn eistedd gyda’i gilydd mewn swyddfa a rennir, ac o wneud hynny, rydym yn dueddol o uniaethu â theimladau’n gilydd. Un o fanteision byd analog hwyrach. Yn y swyddfa yn ddiweddar, roeddwn wedi sylwi ar emosiynau cryf yn cael eu mynegi mewn perthynas â bachgen penodol a’i fam-gu a’i datcu. Oherwydd ei frwydrau ei hun, roedd y bachgen wedi bod yn rhoi ei fam-gu a’i datcu trwy rai cyfnodau anodd yn ddiweddar. Â’r ymdeimlad y gallai fod aur yn nheimladau aelodau’r tîm, gwahoddais y grŵp i ddefnyddio sesiwn ymarfer myfyriol i roi sylw i’w teimladau gyda’i gilydd.

Dechreuon ni’n harchwiliad gyda’r gweithwyr sy’n ymwneud agosaf â’r teulu. Cawsom ddisgrifiadau o’u synhwyrau hwy ynghylch y bachgen; roedd yn tueddu i osgoi elfen fregus ei fywyd a bod yn ystyfnig, ni fyddai’n gadael i eraill ei drechu. Gofynnais i’r gweithwyr, a wnaethant uniaethu â’r bachgen mewn unrhyw ffordd? A welsant eu hunain ynddo ef? ‘Gallaf, gallaf i fod yn ystyfnig hefyd’ sylwodd pob gweithiwr. ‘Sut mae’ch ystyfnigrwydd yn ddefnyddiol i chi?’ gofynnais. ‘Gallaf sefyll i fyny ac ymladd dros yr hyn rwy’n credu ynddo, am bethau rwy’n angerddol yn eu cylch, i herio’r hyn nad yw’n iawn. Wna i ddim ildio. ’ Dyna oedd eu sylwadau.

Fe wnaeth rhywbeth yn ymatebion fy nghydweithwyr i mi feddwl am fy magwraeth yng nghymunedau cymoedd De Cymru lle mae Fy Nhîm Cymorth yn gweithredu. Efallai mai angerdd, a thueddfryd protest ydoedd. Mae fy holl gydweithwyr yn y drafodaeth y diwrnod hwnnw yn hanu o wahanol ddyffrynnoedd yn yr ardal, fel y mae’r bachgen a’i fam-gu a’i datcu. Er gwaethaf bron i 25 mlynedd o brofiad o fyw a gweithio yn Ne Cymru, fel merch i deulu o Loegr, ni allaf ond bod yn gymharol anwybodus yn ddiwylliannol ynghylch cymhlethdodau bywyd teuluol cymoedd Cymru. Gan ddefnyddio fy anwybodaeth fel adnodd, gofynnais i’m cydweithwyr ddweud mwy wrthyf am yr hyn y maent yn ei wybod yn reddfol am sut y dylai mam-gu a thatcu gael eu trin yn yr ardal ’ma.

‘Wel yn gyntaf mae angen i chi wybod y geiriau iawn’ dywedon nhw wrtha i. Nid mamgu a thadcu ddywedan nhw , does neb yn siarad felly. ‘Nan a Bamp, Nani a Grancha, neu Nain a Taid.’. Mae mamgu a thatcu yn bobl o urddas, uniondeb a balchder. Nhw yw penaethiaid y teulu ac maen nhw’n cael eu trin â’r parch maen nhw’n ddi-os yn ei haeddu. Mae matriarch cymoedd Cymru yn chwedlonol; mae bwyd bob amser ar y ford ac mae hi’n gwybod busnes pawb ar y stryd. Nid yw patriarch cymoedd Cymru yn rhoi cwtsh i chi nac yn dweud ei fod yn eich caru chi ond mae’n dangos ei gariad ichi trwy ddarparu ar eich cyfer, gallai fod yn arian, gallai fod yn lifft, mae’n aml yn rhoi trefn ar eich car. ’

‘Beth mae’n ei olygu i dorri’r rheolau hyn?’ Mentrais…. Agorodd llygaid. Bu anadlu dwfn.  ‘Mae’n hollol ddifrifol i amharchu henuriad’ cytunodd fy nghydweithwyr. Felly nawr roeddwn i’n deall yn well yr emosiynau hynny oedd yn cael eu mynegi yn y swyddfa yn ddiweddar, a chyda fy sylweddoliad fy hun, daeth fy nghydweithwyr hefyd yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd torri’r rheolau diwylliannol hynny roedden nhw’n eu llawn amgyffred.

Mantais dod â rhywbeth i ymwybyddiaeth yw ein bod yn rhoi dewis i’n hunain ynglŷn â sut i fod yn rhan ohono.  Wrth weithio gyda’r teulu penodol hwn, roedd cydnabod cryfder teimlad y bachgen yn ymddwyn mewn ffyrdd a oedd yn ymddangos yn amharchus tuag at ei fam-gu a’i datcu yn golygu y gallai gweithwyr ochel y risg o fynd yn ddig gyda’r bachgen. Gan wireddu eu gwybodaeth ddiwylliannol fel adnodd, gallai gweithwyr hefyd gynnig cyfleoedd yn benodol i’r bachgen a’i fam-gu a’i datcu ystyried lle’r themâu hyn yn eu perthynas.

Beth sydd mor aml yn borth dibynadwy i ehangu’n hymwybyddiaeth o’r hyn a allai fod yn digwydd? Dilyn ein teimladau. A allai’n calonnau eisoes fod yn gwybod mwy nag y mae’n meddyliau wedi’i sylweddoli eto?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent