Eisiau datblygu? Peidiwch â mynd gam ymhellach

18 November, 2020

Dydw i ddim yn Dduwies Ddomestig. Mae ‘nghartref ymhell o fod yn berffaith. Ond os edrychwch chi ar silff uchaf fy nghegin heno, fe welwch chi anrhegion pen-blwydd sgleiniog tri pherson gwahanol, a’r anrhegion hynny wedi’u lapio, rhuban o’u hamgylch ac wedi’u gosod yn eu blwch, a phob un â’i gerdyn a’i gyfarchiad a ddewiswyd yn feddylgar wrth ei ochr.  Ac wrth i chi edrych ar fy wyneb afieithus, byddwch chi’n gwybod mod i’n fenyw sy’n hoffi bod ar flaen y gad. Angen eich dillad nofio’r penwythnos nesaf? Fe’u cewch wedi’u golchi ac wedi caledu erbyn dydd Mercher. Meddwl bod cyfnod eich cynnig arbennig ar eich band eang yn dod i ben? Peidiwch â phoeni, rwyf wedi cymharu’r farchnad ac rydym wedi ymrwymo i fargen newydd well o’r mis nesaf ymlaen. Beth am y garafán honno yn Ninbych y Pysgod yr haf nesaf? P l î î î is! Mae e wedi’i drefnu. Caiff y math hwn o ymddygiad yn aml ei edmygu yn ein byd. Bwrw ymlaen, bod ar flaen y gad. Hwyrach eich bod yn edmygu fy nghyflawniadau domestig, ac yn mwynhau ychydig o’ch cyflawniadau tebyg chi’ch hunan  hefyd.

Heno, fodd bynnag, gwnaeth hyn i mi feddwl am y llu niferus o weithiau mae Rhieni Maeth wedi siarad â fi ynghylch pa mor daer maent eisiau i’w plentyn maeth fwrw ymlaen a datblygu’n gyflymach. ‘Mae’n rhaid i’r plentyn ’ma fagu stêm,’ medden nhw,’oherwydd mae byd mawr newydd sbon yn curo a’r plenty ’ma heb fod yn barod, oherwydd mae plant eraill yn aeddfedu, a dydy’r plentyn ’ma ddim yn dal i fyny, oherwydd alla i ddim maethu am byth ac rydym yn rhedeg allan o amser’. Cymaint o bryderon difrifol, ac ni allaf ddadlau ag unrhyw un ohonynt. Mae amser yn mynd heibio , ac mae symud tuag at fod yn oedolyn yn dod â llawer o heriau rydym am i’n plant fod yn barod amdanynt.

Y gwir anghyfleus serch hynny, yw faint bynnag o dasgau y gallwn eu cyflawni, ni all yr un ohonom fynd ar y blaen i’n datblygiad. Mae tasgau a datblygiad yn fwystfilod gwahanol wrth gwrs. Mae gan ddatblygiad ei gyflymder ei hun, ac ni fydd yn ildio i’n hamserlenni. Ni fydd yn codi dim ond oherwydd ein bod wedi ticio’r rhestr angenrheidiau i’w gwneud. Wrth gwrs, mae yna bethau y gallwn eu gwneud i glirio llwybr i ddatblygu gyrru ymlaen. Ac yn rhyfedd ddigon, un o’r pethau hynny yw bod yn union lle’r ydym ni eisoes. Ddim o flaen ein hunain o gwbl. Oherwydd lle’r ydym ni, yn yr eiliad hon, mae’r dysgu sydd ar gael inni ar hyn o bryd. Ac wrth ddefnyddio’r cyfan ohonom ni’n hunain, sydd ar gael inni pan nad ydym yn ymdrechu i fod yn rhywle arall, gallwn elwa’n llawn o’r hyn sydd ar gael inni yn y presennol.

Pan fyddaf yn siarad â Gofalwyr Maeth am bethau o’r fath rwy’n tueddu i bwysleisio ein bod weithiau, pan fydd datblygiad yn digwydd , yn teimlo fel pe na baem yn gwneud dim o gwbl. Fe allem ni fod yn eistedd gyda theimlad, yn profi sut i’w oddef. Gallem fod yn eistedd gyda rhywrai rydym ni’n poeni amdanyn nhw, yn dal eu llaw trwy amser anodd, heb gael syniad beth sy’n digwydd yn eu pennau mewn gwirionedd. Gallem fod yn ailadrodd gweithred rydym wedi’i gwneud eisoes filoedd o weithiau o’r blaen. Gallem fod hyd yn oed yn ailadrodd yr un camgymeriad dro ar ôl tro, angen dod yn fwy a mwy cyfarwydd ag ef cyn y gallwn o’r diwedd sylwi ar ei neges gudd i ni.

Braidd yn anghyfleus, mae angen amynedd ar gyfer datblygu, ildio dro ar ôl tro i beth bynnag sydd angen sylw yn yr eiliad bresennol, heb unrhyw warantau ynghylch pryd y bydd y llinell derfyn yn cyrraedd. Wrth gwrs nid oes llinell derfyn i ddatblygiad o gwbl. Dim ond camu ar hyd y ffordd. Felly os ydych chi am ddatblygu, neu helpu rhywun arall i wneud hynny, peidiwch ag edrych yn unman arall, peidiwch â llygadu’r dyfodol, peidiwch â mesur cynnydd na chymharu ag eraill. Byddwch yn hollol bresennol yma, yn yr union fan yma ar yr adeg benodol yma. Dim ond bod yn hollol bresennol,  ar hyn o bryd, ar yr adeg bresennol hon. Defnyddiwch eich hunan yn llawn i  ‘HWN’ , beth bynnag yn union yw’ch ‘HWN’ yn awr, a byddwch yn datblygu. Mae hynny’n sicr.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent