Ein Hen Gyfaill Bregusrwydd

11 November, 2020

Y diwrnod o’r blaen yn Fy Nhîm Cymorth, roedd grŵp ohonom yn edrych nôl ar ein gwaith gydag anawsterau cymhleth ymhlith systemau cymhleth. A gwnaeth hyn i ni feddwl am natur cymhlethdod.  Daeth rhai nodweddion o gymhlethdod i’r meddwl yn syth; llawer o rannau symudol, yn rhyngweithio mewn sawl ffordd, ac yn anrhagweladwy iawn. Mewn sefyllfaoedd cymhleth, mae’n amhosibl cynllunio cwrs o A i B. Cyn gynted ag y byddwch wedi cychwyn o A, mae B wedi symud, ac C, D ac E, nad oeddech chi hyd yn oed yn meddwl eu bod yn y ffrâm yn wreiddiol, wedi neidio i mewn i’r llun a newid popeth.

Felly beth mae’n ei olygu i weithio gyda chymhlethdod? Wel, faint o amser sydd gennych? Yn bendant, mae’n rhaid i ni ildio rheolaeth. Yn hytrach mae’n rhaid i ni ddal ein syniadau’n llac; ‘peidiwch â phriodi’ch rhagdybiaeth’ fel y dywed seicotherapyddion systemig. Mae’n rhaid i ni aros yn effro, bod yn agored i wybodaeth newydd, caniatáu i ni’n hunain gael ein symud ac i roi heibio hen syniadau. Mae’n rhaid i ni fod yn ystwyth ac addasu’n barhaus.

Wrth gwrs, nid yw’r math hwn o weithio’n darparu tir cadarn o bendantrwydd a ‘bod yn iawn’ sy’n teimlo mor hyfryd o gysurlon. Na, mae’r dull hwn o weithio’n ein gwneud yn fregus. Mae’n gwneud i ni gydnabod nad yw bywyd bob amser yn rhagweladwy ac yn sicr. Ac oherwydd hynny rydym yn fregus i’r hyn rydym leiaf yn disgwyl i ddigwydd i ddigwydd, p’un a ydym yn barod ar ei gyfer ai peidio, yn dymuno iddo ddigwydd ai peidio, yn gwybod fel i ddelio ag ef ai peidio. Gall hyn deimlo’n hollol annheg.

Ond rhyfedd o beth, wedi’r ysgytwad o deimlo bregusrwydd, pan ddychwelwn ato dro ar ôl tro, fe ddechreuwn ddarganfod ei fod yn lle ffrwythlon. Mae e mor agored, ac o’r herwydd mae e’n lle cynhyrchiol, creadigol, byw iawn. Mae e mor fregus ynghyd  â bod mor ddibynadwy â’n hanadl nesaf. Mae’n fyw amrwd, byw’n onest gan dderbyn beth bynnag sy’n gwirioneddol ddigwydd. Yn yr ystyr hwn, gall bregusrwydd ddod yn gyfaill annwyl iawn. Ond cyfaill neu  beidio, gall bregusrwydd fod yn arswydus a dweud y lleiaf. Felly sut gallwn ni ei ddioddef? Wrth I Fy Nhîm Cymorth drafod a phwyso ar brofiad daeth rhai syniadau i’r fei. Efallai y byddant yn ddefnyddiol i chi hefyd.

  • Rydym yn seilio’n hunain ar arferion byw’n iach fel ein bod mewn iechyd da i gwrdd â’r profiad o fregusrwydd. Arferion fel cwsg da, diet, ymarfer, myfyrio, cymryd seibiannau a gorffwys, bod yn wyliadwrus am ormod o ddibyniaeth ar sylweddau dyddiol sy’n newid cyflwr person, fel coffi, alcohol a siwgr.
  • Rydym yn rhoi sylw i brosesu’n profiad emosiynol. Tra gallai amddiffyn ein hunain wrth osgoi emosiwn fod o gymorth am ychydig i ymdopi ag argyfwng,  profwyd bellach fod y rheiny sy’n parhau i osgoi prosesu emosiynol drwy’r amser yn talu pris â’u hiechyd.
  • Rydym yn cysylltu â syniad o deimlo’n  bod yn rhan o rywbeth mwy na ni’n hunain. Rydym yn ail weld ein hunain fel bodau nad ydym ar ein pennau ein hunain.
  • Mae’n fraint cynnal sylfaen gadarn ymhlith ein gilydd fel tîm. I ni, mae’r teimlad hwnnw o ddiogelwch mewn grŵp yn golygu teimlo’n perthyn, teimlo’, ein bod yn cael ei gwerthfawrogi, teimlo na fyddem yn cael ein beio ond yn cael ein deall yn ein camgymeriadau a’n cyfyngiadau. Ac y byddem yn cael cymorth i ddysgu a gwella.

Gyda’r mathau hyn o bethau yn eu lle yn ein bywydau gwaith, gallwn feddwl am wneud cyfaill gwirioneddol o’n bregusrwydd. Ac o gofio hyn, gallwn lynu wrth yr hyn ddaw i’n rhan. Bob tro yr anadlwn i mewn yr hyn sy’n gorfod dod, a phob tro yr anadlwn allan yr hyn sy’n gorfod mynd, dro ar ȏl tro, biliynau o anadliadau bregus, rydym yn byw cymhlethdod bywyd yn llawn.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent