Edrych i’r cysgodion

14 July, 2021

Ychydig amser yn ôl penderfynodd cydweithiwr i mi fod yn onest iawn gyda mi. Roedd hi’n cydnabod rhywbeth eithaf tabŵ ymhlith gweithwyr proffesiynol sy’n helpu eraill. Dywedodd ei bod weithiau’n sylwi ar anghysur corfforol ym mhresenoldeb eraill sydd mewn angen. Mae’n bwysig dweud nad yw hi’n gweithredu ar yr anghysur hwn. Disgrifiodd sut mae hi’n teimlo cywilydd ohono, ac mae’n ceisio gwneud iawn am hyn drwy garedigrwydd a dealltwriaeth sy’n gorlifo tuag at eraill. Gwnaeth ei gonestrwydd i ni siarad am rai o agweddau cysgodol bod yn gynorthwyydd proffesiynol.

Wrth gwrs, y naratif cyffredin am gynorthwywyr yw mai ni yw halen y ddaear. Sawl gwaith yn ddiweddar rydym wedi clywed gwleidyddion ar y radio yn siarad am ‘arwyr’ ‘goruwchddynol’ y GIG? Mae’n naratif llawn temtasiwn, llawn cysur. Ac eto, sut mae’n gwneud synnwyr bod cymaint o bobl yn dod yn greaduriaid mor rhyfeddol, bron yn chwedlonol? Efallai mai’r ateb yw nad yw cynorthwywyr yn bobl allan o’r cyffredin o gwbl. Efallai mai meidrolion mewn ffurfiau penodol yn unig yw cynorthwywyr. Os felly, pa ffurfiau yw’r rhai mwyaf cyffredin yn ein plith? Mae rhai ffurfiau sy’n ymddangos fel pe baent o gwmpas yn cynnwys: Pobl sy’n teimlo’n euog am roi eu hunain yn gyntaf, ac nad ydyn nhw’n siŵr eu bod o unrhyw werth oni bai eu bod nhw’n helpu eraill. Pobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi ag  ansicrwydd ac sy’n methu ag ymsefydlu nes bod problemau’n cael eu datrys. Pobl sy’n ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau iddi. Pob sydd byth a beunydd yn dymuno profi i eraill eu bod yn dda. 

Nid yw hyn i ddweud ein bod yn cynorthwyo heb ofal mawr, yn gwneud ein gorau glas, ac yn gwneud daioni mawr yn y byd, dim ond ein bod yn fwy na dim ond ‘arwyr’ un dimensiwn ffantasi cymdeithas. Byddai cyd-fynd â hyn yn colli’r trysorau a ddatgelir trwy edrych yn ddyfnach i’n cymhellion dros fod yn gynorthwywyr. Ac yn fwy difrifol, colli rhai o’r ffactorau a allai arwain at weithredu cam-drin gofal a phŵer gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Felly yn ôl at fy nghydweithiwr. Archwiliwyd ei theimladau achlysurol o anghysur tuag at anghenion a gwendidau eraill. Sut allai hyn wneud synnwyr? Dywedodd wrthyf iddi gael ei magu mewn cyd-destun lle’r oedd yn ymddangos yn gywilydd bod ag anghenion ac y dylai guddio’i gwendidau. Oherwydd eu hanawsterau eu hunain, gwelodd ei rhieni ei hanghenion hithau a chael methu â’u diwallu’n rhy anodd eu dwyn. Eu hateb hwy oedd gofyn yn benodol iddi esgus nad oedd ganddi unrhyw anghenion. Pa ferch gariadus na fyddai’n gwneud yn ôl dymuniad ei rhieni i guddio’i hanghenion ac arbed eu heuogrwydd a’u cywilydd?

Sylweddolodd fy nghydweithiwr ei bod wedi mewnoli anghysur ei rhieni tuag at anghenion. Sylweddolodd mai rhan o’i chymhellion dros fod yn gynorthwyydd oedd ‘gweithredu’ anghenion a pheri iddynt ddiflannu. Gallem ddweud ei bod yn dymuno bod yn ‘chwalwr anghenion’, gan ddatrys anghenion ble bynnag yr âi, a theimlo’n wych pan gaent eu datrys. Y bobl hynny ag anghenion y gallai hi eu ‘chwalu’ oedd y rheini y gallai gyd-dynnu’n hawdd â nhw. Ond y bobl hynny ag anghenion na lwyddid i’w datrys, oedd y rheini gâi’n fwy anodd delio â nhw. Roedd yr anghenion fyddai’n gwrthsefyll cael eu diwallu yn boenus iddi.

Felly beth ddarganfu fy nghydweithiwr pe bai hi’n aros gydag anghenion pobl nad oeddent hyd yn hyn wedi’u datrys, gan aros mewn cysylltiad â nhw y tu hwnt i’w greddf i ymgilio? Ar ôl myfyrio ar hyn, darganfu ei hofn ei hun bod anghenion pobl eraill yn dystiolaeth nad oedd hi’n ddigon da. Gwelodd fod chwalu anghenion yn ffordd i dawelu’i meddwl ei hun ei bod hi’n iawn.

Roedd ein trafodaeth yn un boenus, yn un a fynnai onestrwydd diamod gan fy nghydweithiwr. Mae hi wedi dod i ddeall y gall wneud rhywbeth i reoli ei hun pan ddaw ar draws ei anhawster wrth ymwneud â phobl sydd ag anghenion nad ydyn nhw eto wedi’u diwallu. Trwy wneud y gwaith hwn arni hi ei hun, gall gadw’r ffocws ar ei chleientiaid a’i chydweithwyr, ac aros gyda nhw hyd yn oed os nad yw eu problemau wedi mynd o’r neilltu. Ac fe wnaeth hi fy atgoffa, gallai bod edrych i mewn i gysgodion ein hunain yn brofiad brawychus, ond gall  hefyd fod yn ymdrech fuddiol. Trwy feiddio archwilio a ydym yn ddrwg, gwelwn ein bod yn dda. Trwy weithio arnom ni ein hunain, fe newidiwn y byd.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent