Creu creadigrwydd …

5 July, 2022

Tra’n darparu goruchwyliaeth glinigol i gydweithiwr y diwrnod o’r blaen, daeth llif mawr o syniadau i’m meddwl. Roedd modd gwneud synnwyr o’r syniadau ac roedd y cysylltiadau rhwng cysyniadau yn dod yn fyw ar amrantiad. Roedd yn brofiad cynhyrchiol, yn ymdrech greadigol, gyda syniadau’n eginio ac yn bldoeuo. Gwenais i mi fy hun gan fod hwn yn fan hyfryd a thoreithiog i ymweld ag ef. Ond wrth gwrs, rwyf hefyd yn gyfarwydd ag ochr arall y geiniog. Mae pawb wedi cael cyfnodau o fod mewn sefyllfa ble nad oes dim yn gwneud synnwyr, gan fynd dros hen dir hesb a methu symud ymlaen.

Wrth i mi werthfawrogi’r hyn a oedd yn digwydd i mi, penderfynais droi fy sylw at fy nghydweithiwr unwaith eto. Beth amdani hi, am ein sgyrsiau, a oedd yn creu’r profiad cynhyrchiol hwn i mi? Wrth feddwl mwy am hynny, sylwais fod hyn wedi digwydd sawl gwaith yn ystod ein sesiynau goruchwylio yn ddiweddar. Nid dim ond unwaith. Roedd y profiad hwn o gael llu o gyfarfodydd cynhyrchiol gyda pherson neu grŵp o bobl wedi digwydd o’r blaen. Ond gwaetha’r modd, mynd a dod wnaeth y clystyrau hynny fel haul dan gwmwl, ond nid oeddent mor rhagweladwy.

Tra’n gyrru gartref ar ôl y sesiwn oruchwylio, roedd modd i mi brosesu’r diwrnod gam wrth gam yn fy meddwl. Un ymadrodd a ddaeth i’r cof oedd ‘creu creadigrwydd’. Efallai bod rhywbeth gwerth chweil mewn archwilio’r ffenomen bod rhywun weithiau’n llwyddo i ymgorffori’r nodweddion sy’n ysgogi creadigrwydd rhywun arall. Neu efallai ei fod yn fwy perthynol; weithiau ceir proses pan fydd man a rennir rhwng pobl yn troi’n fan creadigol i’r ddau ohonynt. Efallai fod y nodweddion neu’r cyflyrau sy’n creu creadigrwydd rhyngom yn deillio o berthnasoedd ac yn cael effaith ar bawb dan sylw. Gall y nodweddion a’r cyflyrau hyn hefyd fynd y tu hwnt i gael eu gwireddu gan berson, a gellir eu hymgorffori mewn cymuned, diwylliant, lle neu ymarfer.

Gwasanaeth arloesol yw MyST. Arloesol o ran bod yn wahanol i lawer o wasanaethau eraill ac sy’n dilyn proses llai sefydledig neu lai ‘traddodiadol’. Ond arloesol hefyd o ran yr angen i arloesi o ddydd i ddydd yn y ffordd rydym yn rhoi sylw i’r anawsterau cymhleth rydym yn ceisio eu datrys. Proses o greadigrwydd parhaus yw’r math dyddiol hwn o arloesedd. O gofio pa mor angenrheidiol yw’r dull hwn yn ein gwaith, mae’n naturiol felly ein bod yn naturiol chwilfrydig am yr amodau sy’n cefnogi meddwl yn greadigol a gweithredoedd creadigol yn ein gwaith. Mewn sawl ffordd, mae gennym ddealltwriaeth gadarn o hyn ers amser. Nid yw mor anodd â hynny i’w ddeall, ond gall fod yn anodd ei weithredu a’i gynnal doed a ddêl. Efallai pan fyddwn yn ‘cyflawni pethau ac yn parhau i’w cyflawni’ bydd angen gallu ar lefel uwch.

Felly, beth wyddom ni am y pethau sy’n meithrin creadigrwydd yn ein gwaith? Wel, mae’n dechrau gyda llawer o gymhelliant i wneud gwaith rhagorol a gellir cyflawni hyn drwy gadw’n driw i’n gwerthoedd a chadw llygad barcud ar unrhyw un sy’n crwydro oddi wrthyntn. Ymysg y rhain mae ymrwymiad cadarn i hawliau a galluoedd pob plentyn a theulu i allu byw bywyd cyflawn. Gan gadw hyn yn agos at ein calonnau ac mewn cof, mae’r ymgais i weithio mewn ffyrdd sy’n cyflawni hynny, ac i wireddu ei botensial yn gadarn. Nesaf, mae hyfforddiant ac arweiniad sy’n rhan o’r modelau seicolegol sy’n helpu pobl i ddeall  anawsterau a chryfderau, ac i feddu ar sgiliau sydd fwyaf tebygol o arwain at newid cyfeiriad cadarnhaol. Yna, mae’n ymwneud â chael digon o adnoddau i allu defnyddio gwybodaeth a sgiliau seicolegol, wedi’i arwain gan gymhelliant, i greu newid cadarnhaol. Mae angen cryn dipyn o adnoddau i wneud y swydd ac ymysg y pwysicaf o’r rhain mae gwaith tîm, ymreolaeth gadarn, diogelwch seicolegol i roi cynnig arni ac i fethu, safbwyntiau amrywiol, ymarfer myfyriol, goruchwyliaeth glinigol, ffiniau, egni, seibiant/egwyl/camu yn ôl i newid safbwyntiau ac egni.

Felly, efallai fod gennym hafaliad ar gyfer cyflawni ymarfer creadigol yn llwyddiannus gyda phlant a theuluoedd ag anghenion cymhleth sef:

Llawer o gymhelliant + sgiliau a galluoedd + adnoddau = ymarfer creadigol = arloesedd a dyfalbarhad = newid cadarnhaol = bywydau cyflawn.

Dyna’r math o ddeallusrwydd y mae gennym wir ddiddordeb ynddo, ac rydym yn llwyr ymrwymedig i’w sefydlu yn MyST. Efallai, drwy hynny, y gall ymarferwyr greu cyd-destun ble y gall pobl, arferion a llefydd ill tri greu creadigrwydd gyda’i gilydd.

Jen a Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent