Chwiio am drysor

19 May, 2021

Gan gwrdd â rhiant y diwrnod o’r blaen, gofynnwyd i ni am help gydag ymddygiad plentyn. Disgrifiodd y fam hon ei phlentyn fel un anodd ei phlesio  gyda’r hyn a ddigwyddai gartref, pryd y digwyddai a sut y cawsai ei wneud. Pe na bai’r menyn wedi’i daenu’n gywir ar y tost, ni ellid cysuro’r plentyn. Pe bai ffrind yn dweud y peth anghywir, roedd y diwrnod ar ei hyd yn cael ei ddifetha. Pe na bai amser gwely yn dilyn yr union drefn, ni allai’r plentyn setlo i gysgu. ‘Rwy’n teimlo fy mod i’n gweithio i’r pennaeth mwyaf heriol, sydd yn fy ngwylio i drwy’r amser, gan sicrhau fy mod i bob amser yn gweithio mewn ffordd maen nhw eisiau i mi wneud,’ meddai’r Fam, ‘Rwy’n credu bod angen therapi seicoleg arbenigol arni,’ ychwanegodd.

Yn ein gwaith iechyd meddwl gyda phlant sy’n derbyn gofal, rydym yn aml yn clywed y thema hon o reolaeth mewn disgrifiadau o ymddygiad plant. Ar gyfer plant sydd wedi profi digwyddiadau bywyd trawmatig dro ar ôl tro, caiff yr ymddygiad ei ddeall fel canlyniad i’r plant gael eu dolurio’n aml mewn sawl perthynas. Fel petai plant yn meddwl ‘ar ôl yr holl ddoluriau a’r siomedigaethau, ni allaf ymddiried mewn pobl eraill i weithredu er fy lles, i’m cadw’n ddiogel, ac felly byddaf yn cymryd materion yn fy nwylo fy hun, a byddaf yn ceisio rheoli pethau.’ Gellir deall y dymuniad i reoli hefyd fel ymateb i orbryder a diffyg ymddiriedaeth plant, fel petai plant yn meddwl ‘Dydw i ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Yn seiliedig ar fy mhrofiadau bywyd blaenorol, rwy’n poeni gymaint y gallai bywyd fod yn ofnadwy, ac mae’r teimlad hwn o ragweld profiadau ofnadwy mor anodd ei ddioddef, fy mod i’n mynd i geisio cymryd rheolaeth dros bethau.’

O edrych ar ein hunain, mae’n debyg y gallai llawer ohonom ddod o hyd i rai defnyddiau o reolaeth ymhlith ein ffyrdd o ymdopi. O’i defnyddio i’r eithaf, fodd bynnag, gall y strategaeth reoli hon gael effeithiau difrifol: ‘Mae angen i mi reoli popeth, a phawb, drwy’r amser, a byddaf yn ymosod neu’n osgoi unrhyw un ac unrhyw beth sy’n ceisio fy rhwystro. Byddaf yn talu unrhyw bris ac eithrio ildio fy ngrym i reoli pethau.’  Hwyrach y gallwn ni gyd ddychmygu’r lleoedd y gall y math hwn o ymlynu’n eithafol at strategaeth reoli fynd â phobl ifanc a’u teuluoedd. Hwyrach y gallwn ni i gyd hefyd werthfawrogi’r ymdeimlad o anobaith a deimlir gan rieni a gofalwyr i ddod o hyd i’r ymyrraeth anghyffredin sy’n ddigon pwerus i ryddhau plant o afael ymddygiadau rheoli eithafol.

Er mwyn dod allan o leoedd o’r fath, yn aml mae proses araf o adennill ymddiriedaeth y gellir dibynnu ar eraill, nad yw bywyd o reidrwydd yn dolurio ac yn niweidio, a’i bod yn bosibl bod yn agored i niwed ac yn ddiogel ar yr un pryd. Gall ailadeiladu ymddiriedaeth sicrhau ffordd allan o ddibynnu ar reolaeth a phopeth y gall y strategaeth hon ei ddwyn a’i gymryd. Ein profiad ni yw mai’r pethau bychain cyffredin sydd â’r pŵer i ailadeiladu’r ymddiriedaeth hon. Ie, ymddengys yn wrth-reddfol braidd, nad rhywbeth allan o’r cyffredin nac anghyffredin, dim ond pethau bach cyffredin y gallwn ni i gyd eu gwneud.

Beth yw’r pethau bach cyffredin hyn sy’n gwneud gwahaniaeth i broblemau mor fawr? Yn ein profiad ni, maen nhw’n cynnwys: Bod yn ddibynadwy – gwneud yr hyn rydyn ni’n ei ddweud wrth blant y byddwn ni’n ei wneud. Bod yn gyson – ffurfio patrwm ymddygiad rhagweladwy sy’n dod yn gyfarwydd ac yn galonogol i blant. Bod yn syml a dilys – hawdd eu darllen heb unrhyw negeseuon cudd i blant gael eu drysu ganddynt. Rhoi anghenion plant yn gyntaf – rhoi gwybod i blant bod gennym ni ddigon o adnoddau i ofalu amdanyn nhw a ninnau. Adlewyrchu delwedd gadarnhaol ohonynt eu hunain yn ôl i blant – gan roi cyfleoedd iddynt brofi eu hunain yn werthfawr ac yn alluog yn ein llygaid. Derbyn camgymeriadau a therfynau cyfredol plant – rhoi gwybod iddynt nad ydym yn disgwyl neu hyd yn oed eisiau perffeithrwydd.

Oherwydd mai dyma ein dealltwriaeth ni, yna ochr yn ochr â gweithio’n therapiwtig gyda phlant yn uniongyrchol, mae ein gwaith yn Fy Nhîm Cymorth hefyd yn cynnwys annog yr oedolion o amgylch plant i weithredu’r pethau bach cyffredin sy’n helpu. Weithiau mae’n anodd gwrthsefyll y syniad bod yn rhaid i’r ateb i broblem fawr fod yn rhywbeth prin ac anghyffredin. Weithiau, wrth chwilio’r gorwel am ateb sydd y tu hwnt i ni, gallwn golli’r hyn sydd eisoes yn gorwedd yng nghledr ein llaw. Edrychwch yn eich cledrau …. pa drysorau sydd eisoes yn gorwedd yno’n dawel yn aros am gael eu darganfod?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent