Mae perthnasoedd yn dwyn ffrwyth

28 April, 2021

Beth amser yn ôl, a diolch i ychydig o newidiadau staff yn Fy Nhîm Cymorth, roedd rhai aelodau o’r tîm yn ein gwasanaeth yn symud o’u goruchwyliwr clinigol sefydledig i oruchwyliwr clinigol newydd. Yn barod ar gyfer y trawsnewid hwn, adolygodd y goruchwylieion ynghyd â’r goruchwylwyr ‘hen’ a ‘newydd’ sut oeddent wedi profi goruchwyliaeth glinigol, a’r hyn yr hoffent ei gymryd gyda hwy wrth symud ymlaen i’w gwaith gyda’u goruchwyliwr clinigol newydd.

Dywedodd un o’r goruchwylieion wrth y grŵp iddi fod yn agored iawn ym maes goruchwyliaeth glinigol, a thrwy hyn roedd wedi archwilio’n ddwfn yr hyn a ddaeth â hi i’w gwaith a sut y gallai ddefnyddio’i hun orau yn ei hymarfer er budd ei chleientiaid. Roedd hi wedi dod o hyd i syniadau a strategaethau defnyddiol, ysbrydoliaeth a chymhelliant yn ystod goruchwyliaeth glinigol. Teimlai fod goruchwyliaeth glinigol wedi ei helpu i ddatblygu a dod yn well ymarferydd. Roedd y goruchwylwyr hen a newydd yn hapus ar ei rhan hi, ac ar ran y bobl y bu hi’n gweithio gyda nhw. Roeddent yn chwilfrydig hefyd – beth oedd wedi gwneud goruchwyliaeth glinigol yn brofiad mor gadarnhaol iddi? Ac wrth symud ymlaen, a allai hi ddod o hyd i ffyrdd o greu neu ddod o hyd i hyn yn ei goruchwyliaeth glinigol newydd?

Gallai’r goruchwyliai ateb eu chwilfrydedd ar unwaith. ‘Gallaf ddod â fy hun i gyd i oruchwyliaeth glinigol pan rwy’n gwybod y bydd fy ngoruchwyliwr yn aros gyda fi ac wedi ymrwymo i’r gwaith rydym yn ei wneud,’ meddai. Aeth ymlaen ‘… pan fydd fy ngoruchwyliwr yn credu yn y dull a ddefnyddiwn yn Fy Nhîm Cymorth ac rwy’n gwybod digon amdanynt i wybod eu bod yn ymarfer yr hyn y maent yn ei bregethu.’ Wrth i’r grŵp drafod pethau’n helaethach, gwnaeth hi’n glir iawn bod cael goruchwyliwr clinigol y gwelai hi yn ddibynadwy, yn ymroddedig ac yn ddilys, yn amod profi  goruchwyliaeth mor gadarnhaol ac effeithiol yn ei gwaith.

Roedd ei hen oruchwyliwr yn cofio’u perthynas oruchwyliol  hir, cynhaliwyd llawer o sesiynau goruchwylio, a thrwy gydol y rhain trafodwyd llawer o ddamcaniaethau seicolegol, ystyriwyd llawer o safbwyntiau a rhannwyd llawer o dechnegau wrth geisio galluogi’r goruchwyliwr yn ei hymarfer. Ac eto, beth greodd y cyd-destun i’r dulliau hyn ddwyn ffrwyth? Eu perthynas oruchwyliol eu hunain, yr ymdeimlad o ymrwymiad, dibynadwyedd a gonestrwydd. I’r goruchwyliai, y rhain oedd y pethau pwysicaf  â’r pŵer i’w helpu i ddatblygu a gwneud yn dda. Wrth glywed am y sgwrs hon gan ein cydweithwyr wedi hynny, roeddem yn meddwl tybed faint o bobl eraill a fyddai’n dweud yr un peth am y cyfarfyddiadau sydd wedi eu galluogi i dyfu a dod ar eu gorau?

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent