Ymarfer seicolegol eglwys eang

22 September, 2020

Mewn sesiwn o ymarfer myfyriol yn ddiweddar, fe ddechreuwyd y sesiwn, fel sy’n arferol gennym, drwy ofyn i’r aelod o’r tîm, a oedd yn arwain y sesiwn benodol hon, at ba ddiben y dymunai ddefnyddio’r amser.  ‘Wel’ dechreuodd ein cydweithiwr, ‘mae’r  plentyn yn gwneud hyn a’r llall, ac mae’r gofalwyr maeth yn gwneud hyn a’r llall, ac mae’r rhieni’n gwneud hyn a’r llall ….’ Disgrifiodd ein cydweithiwr yr hyn a welodd fel ‘y broblem.’ ‘Iawn, mae’r cyfan yn swnio’n eithaf caled’ oedd ein hymateb  ‘a, beth yw’r broblem i chi gyda hynny i gyd?’ oedd ein  cwestiwn i’n cydweithiwr. ‘Wel, rwy’n meddwl tybed a fydd y lleoliad maeth yn dod dan bwysau mawr a hwyrach yn torri lawr hyd yn oed,’ atebodd, yn dal yn ymboeni gyda’r broblem i bobl eraill. ‘Felly, problem i chi yw eich bod yn pryderu?’ meddem. ‘Ie’ cytunodd, gan ychwanegu ‘ac fel mae’n digwydd,… mae’r plentyn wedi dechrau ymwrthod â’m gwaith uniongyrchol gyda hi hefyd. Mae wedi dechrau dweud wrthyf fod fy nghwestiynau’n rhai dwl a mod i’n difetha’i bywyd … rwy’n teimlo’n ddiwerth ynghylch hynny.’

Pan symudwn o ganfod problem fel un yn unig ‘allan fan ’na’ ‘ymhlith pobl eraill, ac yn lle hynny’n ei disgrifio yn nhermau fel rydym ni’n hunain hefyd yng nghlwm wrthi, rydym yn symud o ffrâm unigolyddol i ffrâm berthynol o ddealltwriaeth. Down yn gysylltiedig â’r broblem.  Pan gynhwyswn ein hunain yn ein disgrifiad perthynol o broblem, gallwn hefyd gynnwys ein hunain fel ffynhonnell gwybodaeth ddilys ynghylch natur y broblem ac fel asiant newid ym mywyd y broblem. Rydym hefyd yn fwy galluog i fod yn ddefnyddiol i’n ‘cleientiaid’ drwy gynnwys ein hunain yn ffrâm yr hyn sy’n digwydd. 

Un ffurf o ddefnyddio’n hunain mewn gwaith therapiwtig yw drwy ystyried fel y digwydd trosglwyddiad mewn perthnasau dynol.  Mae trosglwyddiad yn cyfeirio at broses drwy ba un mae profiadau mewn rhannau eraill o fywyd person, yn y gorffennol er enghraifft, yn cael eu trosglwyddo i berthynas y person gyda’r therapydd. Wrth gwrs, mae seicotherapyddion o draddodiadau seicodynamig yn deall hyn yn dda. Pan ddeallwn y bydd profiadau person yn eu perthnasau eraill yn codi’n naturiol yn y berthynas gyda’r therapydd, yna gall y berthynas therapiwtig hon gynnig cyd-destun diogel y gellir gweithio drwyddi a datrys y problemau sydd ynghlwm.  Mae fel petai’r therapydd yn dweud ‘dewch â’ch profiad perthynol i fi, a gadewch i ni ei fyw gyda’n gilydd, ei weithio allan gyda’n gilydd, fel nad oes angen i chi ei fyw mwyach.’  Gall cymhathu problem yn llwyddiannus drwy ei phrosesu mewn perthynas ddiogel therapiwtig ddarparu templed newydd o brofiad. Mae’r therapydd wedi benthyca’i hun i’w gleient ar ffurf perthynas, fel nad oes mo’i angen mwyach, a gall y person fynd â’r profiad nôl gydag ef i mewn i’w fyd ei hun o berthnasau.

Gan ddychwelyd i’n hymarfer yn Fy Nhîm Cymorth: Rydym yn  gwerthfawrogi pa mor eang yw’r eglwys i weithio’n seicolegol. Mae sawl model o fod yn ddefnyddiol. Gan eistedd mewn un sedd yn y capel, gallem ddefnyddio’r myrdd o wybodaethau seicolegol i alluogi eraill drwy ddeall eu profiadau’n wahanol. Cymerwch er enghraifft, sefyllfaoedd lle caiff plant eu deall yn  gychwynnol yn nhermau beth sydd o’i le ynddynt. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth seicolegol yn gymorth i symud dealltwriaeth oedolion o’r plant hyn tuag at lun ohonynt yn ymddwyn yn rhesymol ac yn effeithiol, yn glyfar iawn ac yn ddyfeisgar mewn gwirionedd, o gofio’u cyd-destun a’u profiadau. Ac yna eto, yn eistedd yr un mor hunanfeddiannol mewn sedd wahanol yn yr eglwys, gallwn ddefnyddio dealltwriaeth o brosesau seicolegol megis cynnig ein hunain fel adnodd i eraill mewn perthynas therapiwtig. Eglwys eang yw ymarfer therapiwtig. Ac Amen i hynny. 

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent