Pan oeddwn i tua 12 oed, es i barti yn nhŷ ffrind a meddwi am y tro cyntaf. Fe wnes i yfed yn gyflym iawn yr hyn oedd yn ymddangos fel potelaid gyfan o Martini (yr 80au oedd hi), a threuliais y chwe awr nesaf yn taflu i fyny i sinc y gegin nes bod fy rhieni’n dod i’m hebrwng adref a bu’n rhaid aros tan y wawr i gael rhyddhad. Hyd heddiw, mae’r arogl Martini lleiaf yn gwneud i fy stumog gorddi ar unwaith. Mae meddwl am y ddiod ofnadwy honno yn ddigon. I mi, mae Martini yn wenwynig, mae’n wenwyn, ac os gwelaf lygedyn o bosibilrwydd y daw i’m rhan eto, fe wnaf bopeth posib i’w osgoi. Cefais fy hun yn rhannu’r stori hon gyda chydweithiwr rwy’n ei goruchwylio’n glinigol y diwrnod o’r blaen. A dyma pam…
Dywedodd fy nghydweithiwr wrthyf am ddau deulu maeth gwahanol y mae hi’n gweithio gyda nhw. Mae’r ddau deulu maeth, yn eu ffyrdd eu hunain, yn ei chael hi’n anodd gofalu am blant y mae pob un ohonynt yn hanu o wahanol deuluoedd biolegol o ran tarddiad. Er nad ydyn nhw’n gysylltiedig yn swyddogol â theuluoedd biolegol tarddiad y plant, mae’n digwydd bod gan bob set o ofalwyr maeth rywfaint o wybodaeth am deulu gwreiddiol eu plentyn.
Mae’r ddau blentyn dan sylw bellach yn eu harddegau, ac fel y gall pobl ifanc yn eu harddegau wneud, mae’r ddau yn gwneud rhai pethau sy’n peri pryder. Mewn ymateb i’r pethau pryderus hyn, mae’r ddwy set o ofalwyr maeth yn poeni ac yn ceisio’u gorau i osod eu plant maeth ifanc ar y llwybr cywir. Dywedodd un set o ofalwyr wrth eu plentyn ‘Mae ffordd dda a ffordd ddrwg. Os ydych chi’n ddrwg, rydych chi dda i ddim. Os nad ydych chi’n dda, yna rydych chi’n ddrwg. Gwnewch y dewis iawn’. Dywedodd y set arall o ofalwyr wrth eu plentyn ‘Peidiwch â dod â’r llanast ’na i mewn i’r tŷ ’ma. Gadewch e’r tu allan i’r teulu ’ma, lle mae’n perthyn.’
Wrth i’m cydweithiwr fynd yn ei blaen, meddyliwn tybed a allwn weld tebygrwydd ymhlith y straeon hyn am ddau deulu digyswllt a’u brwydrau. Ymddangosai fod y ddwy set o ofalwyr yn cwrdd â’u plentyn â syniadau’r byd gan fod y profiadau eisoes wedi’u byw gan oedolion o’u blaenau. Syniadau wedi’u gosod yn ‘dyma sut mae hi’ ac felly ‘dyma sut mae hi i chi hefyd’. Ymddangosai fod un set o ofalwyr yn cyfleu syniad y byd ‘Mae pobl naill ai’n dda neu’n ddrwg. Nid y ddau, nid y naill na’r llall. Y naill neu’r llall. A byddwch chi felly hefyd. Dim ond gobeithio y gallwch chi fod yn dda fel ni.’ Ymddangosai fod y set arall o ofalwyr yn cyfathrebu rhywbeth tebyg fel ‘Mae yna bobl ddrwg yn y byd ’ma sy’n gwneud llanast o bethau, ac nid pobl fel ’na ydym ni. Ein gobaith yw eich bod chi yn un ohonom ni.’
Gwnaeth hyn i mi feddwl ymhellach. Pan ydych chi’n ceisio helpu plant i fyw bywyd gwahanol i gamgymeriadau’r oedolion sydd wedi mynd o’u blaenau, eu rhieni er enghraifft, a allai’r posibilrwydd fod y plant rywbeth yn debyg i’r rhieni hynny deimlo’n wenwynig, fel gwenwyn? Yn union fel gwna Martini i fi? A allai hyd yn oed y mymryn lleiaf o nerfusrwydd greu ofn fod trafferthion yn sicr ar ddod? A phan fydd yr ofn hwnnw o drafferthion yn codi, a allem ni wneud popeth posib i’w osgoi?
Sut y gall gofalwr maeth, sy’n gwybod am gamgymeriadau rhieni plentyn a’u heffeithiau poenus, deimlo’n hyderus nad yw’r plentyn ei hun wedi’i dynghedu i’r un llwybr, hyd yn oed pan fydd yn ymylu ar ryw ‘ddrwg’ a ‘llanast’ ar daith drwy lencyndod? A sut gall plant yn eu harddegau wneud yr hyn y mae angen i blant ifanc yn eu harddegau wneud, sut gallant archwilio’r byd a darganfod pwy ydyn nhw, os ydyn nhw wedi’u gwahardd rhag archwilio ymylon pethau oherwydd y gallent arogli gormod fel gwenwyn, fel Martini? Pan fydd eich rhieni wedi gwneud llanast o bethau, a oes rhaid i chi fod yn dda, dim ond i argyhoeddi eraill nad ydych chi’n ddrwg? A beth os gwelwch chi nad yw hyn yn bosibl, bod y ddwy elfen mewn gwirionedd yn rhan ohonoch chi, eich bod yn gwneud yn dda ac yn gwneud camgymeriadau, eich bod chi’n plesio ac yn digio, eich bod chi’n llwyddo ac yn methu?
Mae angen inni adael i bobl ifanc yn eu harddegau fod yn nhw’u hunain a dod yn nhw’u hunain, a pheidio â chaniatáu i etifeddiaeth yr oedolion sydd wedi mynd o’r blaen ddiffinio’u hopsiynau. Ni allwn adael i’n pryderon eu cornelu i mewn i gyfyngiadau yr ydym eisoes wedi’u llunio. Sut mae pobl ifanc yn eu harddegau yn dod yn nhw’u hunain? Wel sut daethoch chi’n fodau unigryw? Gobeithio i chi gael y rhyddid i ddarganfod pwy ydych chi, heb gael eich gorfodi i gymryd rhan cymeriad a ysgrifennodd rhywun arall ar eich cyfer. Mae’n bosibl bod yn blant ein rhieni ac eto’n unigolion unigryw. Mae’n bosibl gwneud rhai pethau drwg a dal i fod yn berson da. Nid yw’r peth Martini ’ma bob amser yn tycio.
Jen & Jael