Y peth am linell fy ngwasg

13 May, 2020

Felly dyma’r peth… Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn araf bach  rydw i wedi bod yn datblygu teiar bach porc o gwmpas fy nghanol , sy’n eistedd ar ben fy jîns. Nawr, ffordd glir o ddatrys y broblem hon yw rhoi’r gorau i fwyta cymaint o gacen. Ac eto, gellir dat-ddatrys problemau hefyd … eu diddymu. Ac i wneud hyn, mae’n rhaid i ni newid y ffrâm y mae’r broblem yn eistedd o’i mewn, a newid ein perthynas â’r broblem. Felly, gallwn ddeall fy nheiar porc fel ychydig mwy ohonof i’w garu, neu efallai fy rhodd i eraill, wrth i mi arddangos tystiolaeth o’m heiddilwch a’m hamherffeithrwydd fy hun, rwy’n ddibetrus yn gwahodd eraill i wneud yr un peth; i ddangos eu hunain fel y maent. Mae fy nheiar porc yn trawsnewid o fod yn ‘fai’ i fod yn  ‘ffrind’. Problem wedi’i diddymu.

Nawr, gadewch inni symud y camera i dremio’n ôl ac edrych trwy lens ehangach…. Yn ystod pandemig Covid 19 mae llawer o wasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol wedi cael eu tynnu yn eu hôl neu wedi cael eu lleihau gan fod iechyd corfforol acíwt wedi cael y flaenoriaeth. I rai plant a theuluoedd, mae’r newid hwn yn y ddarpariaeth gwasanaeth wedi cyfrannu at gynnydd yn eu trafferthion. Mae hwn yn fater difrifol. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio yma ar grŵp arall; y rhai y mae’u problemau wedi lleihau yn y cyd-destun cyfredol hwn. Rydym wedi sylwi dipyn ar y ffenomen hon yn ein gwaith gyda phlant a theuluoedd ag anghenion iechyd meddwl a chymdeithasol cymhleth iawn.

A allai’r ffenomen hon ddeillio o atal datrys problemau yn broffesiynol ym mywydau teuluoedd? Nid beirniadu ymdrechion proffesiynol i helpu yw hyn. Gwyddom o lygad y ffynnon fod gweithwyr proffesiynol yn gweithio’n galed iawn i helpu teuluoedd i gyflawni newidiadau. Fodd bynnag, efallai ein bod yn rhy aml yn mynd ar y trywydd anghywir wrth geisio sicrhau newid. Efallai wrth leihau cymorth gan eraill neu roi’r gorau i ddatrys problemau gan eraill, fod rhai o’r problemau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wedi’u diddymu. Wedi’u diddymu trwy ymgolli mewn cryfderau eraill yn eu bywydau efallai. Wedi’u diddymu wrth iddynt fentro mynd ar eu pennau eu hunain a darganfod y gall fod yn iawn efallai. Wedi’u diddymu am mai nhw’n unig sydd â chyfrifoldeb a dod o hyd i’r grym i ymateb i’r cyfrifoldeb hwn. A llawer mwy o bosibiliadau….

Felly, gall newidiadau ar lefel fechan arwain at newidiadau ar lefel uwch – pwy wir oedd yn gwybod ein bod ni i gyd yn bodoli mewn system gydgysylltiedig o gyd-ddylanwad? Pan fyddwn ni, weithwyr proffesiynol, yn newid ein hagwedd, mae crychdonnau’n digwydd ac mae eraill yn rhydd i newid eu hagwedd eu hunain. Gadewch inni lynu at y sylweddoliad hwnnw wrth inni symud ymlaen gyda’n gilydd.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent