Pen-blwydd Hapus!

12 May, 2021

Ehed amser. Mae’r mis hwn yn nodi blwyddyn ers i ni ddechrau ysgrifennu blog Fy Nhîm Cymorth yn 2020. Wrth sylwi yn ddiweddar bod y pen-blwydd hwn ar fin cyrraedd, cawsom ein hunain yn trafod a ddylid ei nodi ai peidio. Cododd y cyfyng-gyngor hwn wedi inni feddwl am weithdy ychydig fisoedd yn ôl pan fu i ni ymuno â rhai cydweithwyr yng Nghaliffornia. Un o lawer o’u hawgrymiadau oedd ei bod yn dda dathlu cerrig milltir wrth gymryd rhan mewn menter hirdymor. Roeddent o’r farn bod dathliadau’n bwysig er mwyn cydnabod bod pob cam yn bwysig a bod ein gwaith yn haeddu cydnabyddiaeth ar hyd y daith ac nid yn unig pan fyddwn yn y pen draw yn cyflawni ein nod. Mae dathliadau hefyd yn bwysig oherwydd eu bod yn helpu pobl i barhau i fod yn llawn cymhelliant, a’u hysbrydoli mewn gêm hir pan fydd eu hymdrechion weithiau’n cael eu llesteirio gan rwystrau ar y llwybr.

Er gwaethaf manteision amlwg dathliadau, ni allem lai na theimlo rhyw nerfusrwydd wrth feddwl am y syniad. Ydy, mae’n iawn i’r Americanwyr digywilydd hyn fod yn gartrefol gyda’r syniad, ond beth amdanom ni Brydeinwyr? A oes gwahaniaeth mewn diwylliant yma? Gall dathlu cerrig milltir neu ddathlu cyflawniadau, trwy ein llygaid ni, ymddangos yn weithredoedd o hunan-longyfarch, yn weithredoedd trahaus, gan awgrymu ymdeimlad o fod yn well na rhywun arall. Efallai bod ein system ddosbarth fwy anhyblyg mor gryf yn y psyche ym Mhrydain fel ein bod yn ymateb yn negyddol tuag at bobl sy’n ymddangos fel pe baent yn uwch na’u hystâd trwy ganmol eu cyflawniadau eu hunain.

A yw’n bosibl cyd-fynd yn sensitif â’n cefndir diwylliannol a dal i ddathlu cerrig milltir? Os na fyddwn yn dathlu, a allem ni i gyd gael ein hamddifadu o rywbeth mae eraill o wahanol ddiwylliannau yn elwa ohono? A allem hefyd fod yn swil ynghylch annog ein defnyddwyr gwasanaeth i ganiatáu manteision dathliadau iddynt eu hunain os yw hyn yn rhywbeth nad ydym yn gyffyrddus yn ei wneud ein hunain? Efallai y gallai mwy o rwyddineb gyda bod yn ddathliadol fod yn gaffaeliad i’r bobl ifanc, y brodyr a’r chwiorydd, y rhieni, y neiniau a’r teidiau, y gofalwyr maeth, y gweithwyr gofal preswyl a chyd-gydweithwyr eraill sydd hefyd yn gweithio’n galed i symud ymlaen yn eu ‘gemau hir’ penodol o newid.

Mae Fy Nhîm Cymorth yn 17 oed eleni, nid pen-blwydd mawr, nid y gwasanaeth ieuengaf na’r hynaf, dim ond rhywle yn y canol. Nid oes unrhyw beth arbennig o arbennig am fod yn 17…, oni bai eich bod yn digwydd bod yn 17 oed. Pan ydych yn 17 oed, mae llawenydd a phoenau bod yn 17 yn bwysig, ac efallai bod yr elfen 17 ynoch yn deilwng o ryw fath o ddathliad.

O ystyried manteision posibl dathliadau i bawb, a allem ni weithwyr Prydeinig Fy Nhîm Cymorth ystyried awgrym ein cydweithwyr o Galiffornia? Fe wnaethom ni benderfynu y gallem ni fwrw iddi, ac rydym ni wedi gwahodd ein timau i ddefnyddio sesiwn i rannu straeon am effeithiau eu gwaith ar blant a theuluoedd, gyda gwahoddiad i feddwl am yr hyn y gallen nhw ei ddathlu am y teithiau hyn o newid. Mae’n arbrawf, cawn weld sut mae’n mynd. Tan hynny, rydym ni yma hefyd yn mynd i roi cynnig ar arbrawf ymddygiadol, rydym ni’n mynd i fod yn Brydeinwyr ac yn ddinasyddion y byd trwy dynnu ar ein Califforniaid mewnol – Blog pen-blwydd cyntaf hapus Fy Nhîm Cymorth.  Ac i bob un ohonoch chi ddarllenwyr y blog, llongyfarchiadau ar beth bynnag sy’n galw am ychydig o ddathlu yn eich byd. Gadewch i ni godi gwydraid i bawb.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent