Nid hael ond hael gartref

25 August, 2020

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn cynnig goruchwyliaeth glinigol i gydweithwraig, pan ddechreuodd ddweud wrthyf sut roedd wedi sylwi ar newid cyfeiriad ynddi’i hun. Lle’r oedd unwaith yn eithaf hunanfeirniadol, gwelodd bellach ei bod yn fwy hael tuag ati ei hun. Ac roedd y newid cyfeiriad mewnol hwn wedi arwain at newid allanol cyfatebol yn y modd roedd hi’n ymddwyn. Roedd hi bellach yn tueddu i oedi cyn rhuthro i wrthdaro mewn cyfarfodydd proffesiynol. Roedd hi’n tueddu i bwyllo a rhesymu sut roedd hi’n teimlo ar yr eiliad honno, a phan wnâi hyn, roedd hi’n aml yn sylwi ar ymdeimlad o anesmwythyd neu anhawster. Roedd hi wedi magu’r ddawn o gydnabod a lleddfu’i hun cyn siarad ag eraill. Gallai ddweud rhywbeth wrthi ei hun fel ‘O diar, rwy’n ei chael hi’n anodd iawn heddiw’ neu ‘Wn i  ddim a oes gen i’r dewrder i gael y drafodaeth hon heddiw, ond mae hynny’n iawn, ni allaf fod ar fy newraf trwy’r amser.’  Wrth fod yn hael tuag ati ei hun, sylwodd fy nghydweithwraig ei bod yn teimlo’n llawer gwell yn ei gwaith.

Datblygodd y stori ymhellach. Sylwodd fy nghydweithwraig , ers iddi ymarfer mwy o haelioni tuag ati ei hun, fod ei chyfarfodydd hefyd yn mynd rhagddynt yn well.  Yn y pen draw, wrth i’n trafodaeth barhau, daethom i ddeall pam y gallai hyn fod. Gyda mwy o haelioni tuag ati ei hun, gallai ymdopi â’i hanawsterau’n haws. Roedd hi wedi llacio’u gafael arni trwy ychwanegu cymysgydd o haelioni. Yn llai dan fygythiad ei theimladau ei hun, gwelodd nad oedd angen iddi amddiffyn ei hun gymaint mewn cyfarfodydd. Nid oedd angen iddi frwydro i gael gwared â’r elfennau anghyfforddus. Ar y pwynt hwn yn y drafodaeth, daeth hoff bos fy mab i’r meddwl: Sut ydych chi’n trechu’ch gelyn gwaethaf? Rydych chi’n gwneud ffrindiau gydag ef. 

Beth sy’n digwydd allan yna ymysg ein rhyngweithwyr os gallwn lwyddo i gyfeillio â’n teimladau ‘gelyniaethus’ a gwrthsefyll bod yn amddiffynnol? Eglurodd  fy nghydweithwraig: Wrth i’w haelioni tuag ati ei hun dyfu, roedd hi’n teimlo’n fwy hael tuag at eraill hefyd. Pan beidiodd ag amddiffyn ei chornel ei hun roedd hi’n fwy rhydd i archwilio profiadau a safbwyntiau pobl eraill. Gyda hyn, roedd peli’n dechrau rholio i gyfeiriadau gwahanol ac roedd pethau’n gwella yn ei gwaith gyda gweithwyr proffesiynol eraill.

Felly efallai bod yr hen ddywediad yn wir. nId hael ond hael gartref. Gyda haelioni tuag at ein brwydrau ein hunain, mae llai o angen i ni amddiffyn ein hunain rhag bygythiadau canfyddedig a gallwn wrando ar ein cydweithwyr â chlust fwy hael. Sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Felly beth am roi rhodd reolaidd i elusen , eich elusen ‘c hi’? Efallai y gallai pawb elwa o’ch haelioni.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent