Hi de hi!

4 October, 2021

Ers i’r haf agor ei breichiau â chroeso heulog, a chaniatáu codi cyfyngiadau Covid, rwyf wedi penderfynu ymweld â lido lleol cyn amled ag y gallaf a dechrau fy niwrnod gyda nofio awyr agored. Mae’n brydferth iawn yno. Wedi’i adeiladu yn y 1920au, mae’r lido art deco yn gorffwys yn esmwyth ar y llygaid, y mynyddoedd yn cofleidio ochrau’r dyffryn, a’r awyr yn rhyfeddol. Does unlle y byddai’n well gen i fod am 6 y bore.

Er gwaethaf y swyn a’r rhamant, gydag ymrwymiadau gwaith a’r siwrneiau cludo i ac o’r ysgol, ni allaf fynd yn rhy aml, ond wrth i’m hymweliadau gynyddu’n raddol, dechreuais sylwi ar fynychwyr rheolaidd y lido. Daliodd dwy fy sylw yn benodol. Wrth imi nofio i fyny ac i lawr y pwll, gan geisio osgoi gwrthdaro’n gwrtais â fy nghyd-nofwyr, fe wibiodd y ddwy dan sylw i fyny ac i lawr y pwll mewn llinellau unionsyth. Ymddangosai bod y ddwy fenyw yn gwbl ddisgybledig ac awdurdodol ac nid oeddent yn barod i ildio i neb. Nhw oedd rhai o’r bobl hynaf yn y pwll ac wrth iddyn nhw siarad â’i gilydd roeddwn i’n gallu clywed o’u hacenion, roedden nhw’n bobl leol. Synhwyrais fod eu nofio yn hawlio’u lle di-ildio yn y pwll lido. Er yn anfoddog, gallwn dderbyn hyn. Wedi’r cyfan, mae’n debygol eu bod wedi nofio yn y pwll hwn ers yn ferched bach

Wedi deall a derbyn y sefyllfa, fe nofiais i ymlaen ac ymhen ychydig gorffwys yn y pen bas, lle siaradodd un o’r menywod dan sylw â mi. ‘Mae braidd yn orlawn heddiw. Byddwn yn falch pe na byddent yn gadael cymaint o bobl i mewn ar unwaith’. ‘Ydy, y mae,’ cytunais. ‘Mae’n debyg bod yn rhaid i ni gyd wneud lle i’n gilydd.’ (Roedd natur oeraidd f’ymateb braidd yn amlwg hwyrach.) Aeth y fenyw ymlaen ‘Deall yn iawn, rwy’n ddall yn un llygad ac felly os nad wy’n dilyn y llinell ddu hon ar waelod y pwll, dwi ddim yn gwybod ble ydw i! Wyddech chi, ychydig fisoedd yn ôl, cefais fy nghicio yn fy nghefn gan ddyn yn nofio yn rhy agos ataf ac fe dorrodd fy asgwrn! Bu f’adferiad yn  araf. Newidiodd y wybodaeth newydd hon bopeth i mi. Gallwn nawr ail-werthuso ystyr glynu wrth y menywod i’r llinell syth i fyny ac i lawr y pwll. Meddalais, teimlais dosturi tuag atynt a chefais fy hun yn symud o dderbyn eu hawl yn anfoddog i fod eisiau helpu’r menywod i gynnal eu cwrs a’u cadw’n ddiogel.

Gwnaeth y cyfarfyddiad hwn i mi fyfyrio ar ba mor bwysig yw deall ystyr ymddygiad, cyd-destun yr unigolyn, ei fwriadau, y ffordd y mae’r ymddygiad yn gweithio iddo a’r rhesymeg y tu ôl i’r angen i’w gyflawni, y peryglon mae’n teimlo wrth eu hildio hefyd. Pa mor bwysig yw peidio â gwneud rhagdybiaethau a pha mor bwysig yw ceisio olrhain cefndir y person dan sylw cyn gwneud penderfyniadau. Dwrdiais fy hun, oni ddylwn i fod wedi gwybod hyn fel seicolegydd? Ac eto hyd yn oed pan wyddom hyn, pa mor hawdd yw hi i lithro ’nôl a gwneud camgymeriad y rhagdybiaethau.

Gan dosturio wrth y fenyw, a thosturio ychydig hyd yn oed wrthyf fi fy hun am wneud fy nghamgymeriad, rhaid oedd parhau i nofio llathenni olaf ein hawr nofio benodedig. Yna mae’r rhybudd arferol, y clychau ‘bing, bing, bing’ yn atsain yn union fel clychau gwersyll gwyliau o’r 1950au a’r cyhoeddiad dros yr uchelseinydd; ‘Bydd y sesiwn hon yn dod i ben mewn pum munud. Pum munud i fynd os gwelwch yn dda.’ Edrychais ar y cloc ar ochr y pwll – saith munud i’r awr. Roedd y ddwy ddynes nofio unionsyth wedi sylwi hefyd – ‘Mae saith munud i fynd, nid pump!’ oedd eu cytgan. ‘Peidiwch â cheisio torri menywod i lawr!’ oedd eu rhybudd chwareus i’r achubwyr bywyd ifanc. F’ymateb oedd chwerthin i mi fy hun wrth ystyried eu cadernid cynnes a theimlo’n ddiolchgar i ferched y cenedlaethau o fy mlaen am eu cryfder a’u dewrder.

O oddef hawl pobl leol, i ofalu’n dosturiol am eiddilwch yr oedrannus, i edmygu cadernid eiconau ffeministaidd, newidiodd f’ymateb a’m perthynas gyda’r union ferched hyn, yn mynnu gwneud safiad  a bod yn neb ond nhw’u hunain, gyda phob elfen o ryngweithio. Mor bwerus yw ein priodoleddau wrth greu’r hyn y mae person arall yn ymdebygu yn ein golwg. Fe’m trawodd hefyd, fod un elfen o ryngweithio yn caniatáu stori sengl – efallai y galwem hi’n ‘hon’. Mae dwy elfen o ryngweithio yn ein helpu i newid ein meddyliau a gweld yn ehangach – efallai y galwem hi’n ‘hon a honno’. Ac eto, mae tair elfen o ryngweithio yn datgelu bod gan bobl lawer o rannau symudol ac esblygol ohonynt eu hunain ac na allant gael eu gwir gaethiwo i’r fframiau a wnawn ar eu cyfer yn ein meddyliau. Maen nhw’n rhywbeth mwy. Rydym ni i gyd yn rhywbeth mwy na chael ein lleihau a’n caethiwo i mewn i ‘hon’ neu ‘honno’ sy’n syml, yn rhagweladwy, ac yn gul.

Ar y foment honno, i brofi’r pwynt fel petai a dathlu fy ngwireddiad, roedd tonau ‘bing, bing, bing’ cyfarwydd yr uchelseinydd yn swnio yr eildro i nodi diwedd y sesiwn nofio a newidiodd y menywod eto yn rhywbeth newydd … ‘Hi de hi !!’ * oedd eu cytgan wrth droi mewn ymateb a mynd i’r ystafelloedd newid gan chwerthin yn iach.

Jen & Jael


*Roedd Hi de hi yn gomedi sefyllfa boblogaidd a leolwyd ym 1959 yng ngwersyll gwyliau Maplin’s ac a ddarlledwyd ar y teledu yn yr 1980au gyda Ruth Madoc yn chwarae’r gôt felen hudolus Gladys Pugh. Gwnaeth Gladys gyhoeddiadau gan ddefnyddio uchelseinydd y gwersyll gwyliau, gan ddechrau bob amser gyda chnul ‘bing’ cynyddol yn cael ei chwarae ar ei seiloffon ac yna’r geiriau ‘hi de hi campers’ yn cael eu cyhoeddi mewn acen Gymreig gref.


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent