Harddwch llwyd

4 August, 2020

Ar ôl bron i 16 mlynedd wedi’i leoli yng nghefn hen safle diwydiannol, mae gan Fy Nhîm Cymorth ganolfan newydd brydferth i weithio ynddi. Am ganrif cyn i ni gyrraedd, ysgol gynradd oedd ein cartref newydd, ac felly mae’r gwaith o adnewyddu’r hen adeilad hwn gafodd ei ddefnyddio’n helaeth wedi bod yn un mawr. Yn agos at ddiweddglo olaf yr ail-fampio ychydig fisoedd yn ôl, gallem o’r diwedd edrych ar rai siartiau paent. Mae tudalennau unrhyw gylchgrawn cynllunio mewnol yn cadarnhau’n syth mai llwyd yw’r lliw’r foment. Llwyd yw’r niwtral clasurol, ac mae’n ymddangos bod niwtralau’n gweithio. Dewiswyd y llwydion. Paentiwyd waliau. Mae’n canolfan newydd yn edrych yn wych.

Gwnaeth ein gwerthfawrogiad o liwiau niwtral i ni feddwl am y cysyniad o niwtraliaeth therapiwtig. Roedd therapyddion teulu systemig Milan y 1960au, Boscolo, Cecchin, Prata & Selvini yn arloeswyr, ac yn fath o ‘bedwar rhyfeddol’ chwedlonol ym myd seicotherapi systemig. O blith eu nifer o lwyddiannau seicotherapiwtig, pwysleisiodd y tîm hwn bwysigrwydd hanfodol cymryd safiad niwtral yn eu gwaith gyda theuluoedd. I ni, mae niwtraliaeth therapiwtig yn golygu, er bod gan therapyddion ofal dros eu cleientiaid a diddordeb mawr yn eu bywydau , a bod ganddynt syniadau hefyd am yr hyn a allai fod o gymorth wrth fynd i’r afael â’u hanawsterau, nid ydynt yn gosod y safiad a gymerir gan un aelod o’r teulu uwchlaw safiad aelod arall. Mae therapyddion teulu systemig yn gwybod, mewn teuluoedd y cymerir safiad pob unigolyn am resymau pwysig, ac mae’n gymorth i gynnal y lleill. Byddai’n ddiwerth cymryd ochrau yn unig. Yn hytrach, mae therapyddion yn helpu teuluoedd i archwilio rhesymeg ac ystyr eu safiadau ynghylch mater, a’u hannog i ddod o hyd i ffyrdd o ddod â safiadau newydd at ei gilydd i wynebu dyfodol mwy cytûn. Mae bod yn niwtral tuag at safbwyntiau holl aelodau’r teulu yn caniatáu i newid fod yn ddiogel ac yn bosibl.

Ac mae’r tebygrwydd yno rhwng niwtraliaeth therapiwtig a’r lliw llwyd; niwtral nad yw’n ochri gyda’r du na’r gwyn, ac nad eu cyfaddawd yn unig mohono. Mae llwyd yn rhywbeth arall yn gyfan gwbl, yn rhywbeth ar ei ben ei hun, yn rhywbeth y gall du a gwyn weld eu hunain ynddo, yn ogystal â rhywbeth arall yn gyfan gwbl y gallent ei greu gyda’i gilydd.

Ar waliau’n canolfan newydd, mae’r paent llwyd niwtral hwnnw hefyd yn gefndir yr ymddengys bod lliwiau hardd eraill yn canu yn ei erbyn. Mewn therapi hefyd, o sail niwtraliaeth, mae llawer o ddigwyddiadau rhyfeddol ac annisgwyl yn codi. Mewn gwirionedd, wrth gwrdd â’r byd i gyd gyda rhagolwg niwtral agored, heb ochri, heb ddewis a dethol, rydym yn caniatáu i ryfeddod popeth a phob posibilrwydd ein cyfarch.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent