Gwerthfawrogi athrylith …

2 May, 2022

Rydym yn cwrdd bob mis gyda’r Rheolwr a’r Seicolegydd Clinigol sydd yn arwain ein timau MyST. Mewn cyfarfod o’r fath yn ddiweddar, roeddem yn trafod sut oedd tîm yn ymgymryd â’i waith. Daeth thema i’r amlwg ynglŷn ag anghenion yr aelodau o’r tîm a sut oedd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i berfformiad y tîm  os oeddynt yn cael eu cydnabod a’u diwallu. Os ydym am weld tîm yn gweithio gyda’i gilydd, rhaid i ni sicrhau bod aelodau o’r tîm yn teimlo bod digon o adnoddau ganddynt fel eu bod yn medru fforddio bod yn hael tuag at eu cydweithwyr. Os ydym am weld tîm yn gweithio gyda risgiau ac yn ystyried hyn fel cyfle i ddatblygu, yna rhaid i ni  sicrhau bod pobl yn medru prosesu goblygiadau emosiynol eu gwaith. Ac os ydym i dîm deimlo eu bod yn medru arwain ac ysbrydoli eraill yn y rhwydwaith sydd o gwmpas y plentyn, yna rhaid i ni sicrhau fod pobl yn medru teimlo’n hyderus eu bod yn dda wrth wneud eu gwaith.

Gyda’r pwyslais yma ar anghenion, roeddem wedi sylweddoli sut y mae arweinwyr yn dechrau ystyried diwallu anghenion aelodau’r tîm fel rhan allweddol o’u rôl. Wedi’r cyfan,   mae’n gydnabyddedig erbyn hyn fod  sut ydym yn ymddwyn fel arweinwyr yn effeithio ar ein timau, ac mae sut y mae ein tîm y perfformio yn effeithio ar y gofal sydd yn cael ei roi i’n defnyddwyr gwasanaeth, ac mae gofal da yn ei dro yn arwain at gleientiaid yn profi canlyniadau da yn eu bywydau. Rydym wedi dod i sylweddoli yn MyST  fod angen i ni – er mwyn sicrhau bod aelodau yn parhau i wneud gwaith da – yn gorfod gwybod ein bod yn hollol gefnogol ohonynt ac rydym yn credu’n gryf yn eu gallu i fwrw ymlaen gyda’u gwaith, i ddysgu ac i ddatblygu. Drwy gefnogi pobl a phrofi gwerthfawrogiad gwirioneddol, rydym yn cadarnhau ein bod yn gwybod eu bod yn fwy na  digon galluog i wneud eu gwaith, a phan ein bod credu hyn am rywun, mae’r person dan sylw hefyd yn dechrau credu hyn am ei hunan.

Rydym yn ystyried gwerthfawrogiad fel profiad  ymgorfforedig o’r positifrwydd mewn rhywun arall.  Mae canmoliaeth yn aml yn medru cael ei ystyried fel rhywbeth sydd yn digwydd ‘allan yno’: mae’n medru bod yn “da iawn, mi wnes di‘n wych”. Dyma werthusiad yr wyf yn rhoi i ti ac o’r hyn yr wyt yn ei wneud a dyna ddiwedd y mater. Ond yn wahanol i hyn, mae gwerthfawrogiad yn gweithio mewn ffordd wahanol oherwydd mae’n cyfeirio at brofiad y ‘gwerthfawrogwr’. Mae gwerthfawrogiad yn digwydd ‘i mewn yma’ ac o fewn fy ymateb i ti ac yn cynnwys mwy na geiriau, mae’n amlwg yn ein lleisiau, ein hwynebau, ac rydym yn ei deimlo ac mae’n rhywbeth emosiynol.

Weithiau yn MyST, rydym yn gwerthfawrogi pobl eraill drwy chwilio am ‘athrylith’ y person: Efallai ein bod yn gofyn ‘beth sydd yn gwbl athrylithgar am y person yma sydd o’m mlaen i? A wyf yn medru ei weld? A wyf yn medru cysylltu gyda hyn? Sut mae’n bresennol?’ Mae’r mathau yma o gwestiynau yn helpu ni fynd y tu hwnt i’r arfer o feirniadu rhywbeth fel canmoladwy ai peidio a symud tuag at gysylltu gyda gwerth a doniau person arall. Mae’r gwahaniaeth ansoddol yma yn sicr yn fwy effeithiol. Mae’r gwerthfawrogwr yn teimlo’n wych ar ôl darganfod hyn ac mae’r person sydd yn derbyn y gwerthfawrogiad hefyd yn cael ei effeithio’n ddwfn. Mae angen craidd gan bobl  i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi mewn perthynas.

Nid yw’n  naid sylweddol i ddeall hyn am aelodau ein tîm gan ein bod yn gwybod mai dyma’r hyn y mae’r plant a’r teuluoedd sydd yn defnyddio ein gwasanaethau angen yn eu perthynas gyda ni hefyd. Maent angen i ni gredu eu bod hwy, fel pobl, yn medru goresgyn eu trafferthion a’u bod yn medru  ymdopi gyda heriau bywyd. Wrth feddwl am hyn, a fyddai’r un ohonom yn medru rhoi’r gorau ar ein gallu i fynnu pan y mae rhywun yn ein cornel, yn ein cefnogi, yn gwerthfawrogi ein bod yn athrylithgar? Rydym ond yn dod i gydnabod ein gwerth ein hunain drwy gyfrwng help ein gwerthfawrogwyr. Rydym yn gweld plant a theuluoedd yn ffynnu, dro ar ôl tro, yn sgil y gwerthfawrogiad hwn. Gyda rhywun yn ein cefnogi i sylweddoli pa mor athrylithgar ydym, rydym oll yn medru ffynnu.

Jen a Jael

 


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent