Fe’i gwnaf fy ffordd y hun

5 May, 2021

Yn ein swyddfeydd y diwrnod o’r blaen, bu menyw ifanc yn myfyrio ar ei bywyd. ‘Cefais fy ngeni i mewn i gyffuriau’ meddai, gan egluro’r rhesymeg, fel yr oedd yn ymddangos iddi hi, pam ei bod yn teimlo gorfodaeth i‘w defnyddio. Mae’n wir bod ei rhieni wedi defnyddio cyffuriau trwy gydol eu hoes, a’r canlyniad fu iddi hi dyfu i fyny mewn gofal maeth a chartrefi plant. ‘Mae yna bosibiliadau bob amser i newid ein bywydau’ oedd ein hymateb i ddatganiad y fenyw ifanc, gan geisio unwaith eto ei phrocio i gyfeiriad yr ydym yn teimlo sydd orau iddi. ‘Oes, ond dwi ddim eisiau stopio’ atebodd.

Fe wnaeth hyn i ni feddwl ynghylch sut mae pobl yn darganfod pethau amdanynt eu hunain a drostynt eu hunain yn y siwrnai o weithio allan pwy ydyn nhw a sut y byddan nhw’n byw eu bywydau. Gall yr angen hwn i ddarganfod drostynt eu hunain fod yn arbennig o amlwg i rai plant sy’n derbyn gofal, sydd wedi dod i ymddiried ynddynt eu hunain yn fwy nag y gallant ymddiried mewn unrhyw un arall. Ar ôl plentyndod o wasanaethau sy’n ceisio gwneud eu gorau i blant sy’n derbyn gofal, daw amser i bob person ifanc adael gofal a mynd ei ffordd ei hun. Gyda mwy o annibyniaeth daw’r broses o ddod yn gyfrifol amdanynt eu hunain; ‘Mae i fyny i fi nawr. Dyma fy mywyd, pwy arall allai ei fyw ond fi?’

Wrth i bobl ifanc gymryd materion i’w dwylo eu hunain, mae ymarferwyr mewn gwasanaethau plant yn aml yn disgwyl yn amyneddgar ac yn dal eu gwynt. Mae’r rhodd o amddiffyniad yn darfod, ac rydym yn poeni am bobl ifanc. Ac eto, efallai bod rhodd arall, yr un mor werthfawr, yn disodli amddiffyniad; hynny yw hunanbenderfyniad. Pan gymerwn gyfrifoldeb dros ein bywyd ein hunain, gan arfer ein hawl i ddod o hyd i’n ffordd ein hunain, gallwn elwa o’r manteision o ddod yn feistr arnom ein hunain. Gallwn edrych atom ein hunain am atebion a harneisio ein potensial ein hunain. Rydym yn cael y preifatrwydd i roi cynnig ar bethau yn dawel y tu hwnt i lygaid gwyliadwrus eraill. Mae gennym fwy o reolaeth dros ba wybodaeth sy’n cael ei rhannu amdanom ni a thrwy hynny fwy o ryddid i ddileu’r straeon di-fudd sydd wedi ein dilyn o’r blaen. Pan gymerwn faterion yn ein dwylo ein hunain, gallwn ddefnyddio ein hunain yn llawn fel canllaw. Efallai bod yr holl gymorth a phenderfyniadau ystyrlon a wnaed inni fel plant yn ein torri i ffwrdd o’r adnodd hwn yn anfwriadol.

Felly, er bod gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau plant yn anesmwytho ychydig wrth i bobl ifanc ddweud wrthym eu bod yn mynd i fynd allan i gymryd rhan mewn pethau y credwn ni na ddylent eu gwneud, efallai y byddem yn gwerthfawrogi’r rhodd o hunanbenderfyniad y gall y bobl ifanc hyn ei meithrin pan awn ni allan o’r ffordd. Y diwrnod o’r blaen. galwodd merch ifanc brofiadol arall y buom yn gweithio gyda hi ryw 15 mlynedd yn ôl. ‘Rwy’n gwneud gradd mewn seicoleg. Bydd yn cymryd chwe blynedd ond rwy’n benderfynol ’meddai. ‘Doniol, nag yw e?’  ychwanegodd  ‘allwn i ddim hyd yn oed sefyll i fod yn yr un ystafell â chi pan oeddwn i’n 15 oed, a nawr edrychwch arna i. Fyddech chi’n fodlon fy helpu gyda fy nghwrs?’

Ai dyna bŵer hunanbenderfyniad yn union o’n blaenau? Yn mynd â’r fenyw ifanc hon gymaint ymhellach nag y byddai hi byth yn gadael inni? Hoffem feddwl hynny.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent