Cychwynnodd goruchwyliaeth glinigol gyda chydweithiwr y diwrnod o’r blaen gyda mi yn gofyn iddi beth yr hoffai ganolbwyntio arno ar gyfer y sesiwn. Atebodd ‘Sarah’: ‘Wel, rwyf wedi cael wythnos mor wych i ffwrdd ar wyliau yr wythnos ddiwethaf, ac rwy’n teimlo mor hamddenol a heddychlon, rwyf mewn lle da iawn i wneud fy ngwaith. Felly rydw i eisiau meddwl sut y gallaf sicrhau nad wyf yn cael fy ngwthio oddi ar fy echel eto gan straen a phryder pobl eraill nawr fy mod yn ôl yn y gwaith.’ Gallem yn wir fod wedi treulio ein sesiwn oruchwylio yn meddwl sut mae hi’n cylchdroi cyflyrau emosiynol eraill, ac mae’n ddigon posib y bu rhywfaint o werth i’r math hwn o sgwrs. Ond y tro hwn, fe wnaethon ni benderfynu mynd at ein goruchwyliaeth mewn ffordd wahanol, felly, yn lle ateb ei nod fe wnaethon ni edrych ar darddle’r nod ei hun.
Gwnaethom edrych ar yr hyn oedd ymhlyg yn nod datganedig Sarah. Roedd yn ymddangos ei bod yn dal syniadau bod osgoi cael ei haflonyddu gan emosiynau anodd eraill yn bosibl a hefyd yn syniad da. Yn y ffordd hon o feddwl mae emosiynau pobl eraill yn cael eu hystyried fel y broblem, ac os gallwn gadw ein hunain allan o’u cwmpas, yna byddem yn rhydd i wneud ein gwaith gorau. Cadarnhaodd Sarah y meddyliau sylfaenol hyn: ‘Dwi ddim yn hoffi teimlo gorbryder pobl eraill’ meddai ‘mae’n gwneud i mi fod eisiau dianc’. Ymateb cyffredin gan y byddem ni gyd yn ôl pob tebyg yn hoffi byw heb gysylltiad â theimladau annymunol. Ac eto, o gofio bod teimladau o’r fath o gwmpas, a allai fod gwerth i adolygu’n hawydd i ddianc rhagddynt? Yn hytrach, a allem ni wrth symud tuag atynt, archwilio sut i fod gyda nhw a beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud wrthym? Mae’r dull hwn o ‘gamu tuag at yr anodd’ yn sylfaen y mae ein gwaith therapiwtig gyda phlant a theuluoedd yn Fy Nhîm Cymorth yn seiliedig arni. Ac os yw’n gweithio gyda’n cleientiaid, beth am archwilio sut y gallai’r dull hwn hefyd helpu aelodau staff i wneud gwaith da gyda’n cleientiaid ninnau?
Cloddiodd Sarah a minnau yn ddyfnach gyda’n gilydd i brofi hyn. Fe wnaethom ni archwilio’r hyn y mae hi wir eisiau dianc rhagddo pan mae gorbryder pobl eraill o gwmpas. Esboniodd fod cael ei heffeithio gan deimladau pobl eraill yn gwneud iddi sylweddoli ei bod yn gyd-ddibynnol ag eraill; sylweddoliad sy’n gwneud iddi deimlo’n fregus. ‘Ni allaf ddioddef nad wyf yn rheoli fy hun, mae teimladau rhywun arall yn fy rheoli i. Nid wyf mewn gwirionedd yn ymddiried y bydd yn iawn. ‘Yn ogystal â cheisio’i osgoi, canfu Sarah ei bod weithiau’n amddiffyn ei hun rhag y profiad hwn o gyd-ddibyniaeth a bregusrwydd trwy ‘gymryd cyfrifoldeb’ a ‘bod mewn rheolaeth ‘, ac i raddau gweithiodd hyn iddi. Fodd bynnag, sylwodd hefyd fod anfanteision i’r strategaeth hon. Gwelodd mai canlyniad y gweithredoedd hyn o wrthwynebiad oedd gwneud iddi deimlo’n flinedig iawn, a gwnaed y sefyllfa’n waeth gan yr egni a dreuliodd wrth gynllunio sut y gallai osgoi’r bobl a’r sefyllfaoedd hynny a oedd yn ei rhoi ar lwybr bregusrwydd. Roedd hi bob amser yn gwybod nad oedd blinder yn ei galluogi i wneud ei gwaith gorau gyda’n cleientiaid.
Felly a allai fod dewis arall, ymateb mwy effeithiol? Os ydym yn gwrthsefyll ein hysfa i ddianc rhag ein teimladau beth yw ein dewisiadau eraill? Fe wnaethon ni barhau ar ein mordaith o ddarganfod … Wel, yn lle ymladd neu redeg i ffwrdd, beth am ildio? Nid ildio o gael ein curo i ymostwng, ond ildio gwirfoddol, wedi’i rymuso, lle rydym ni’n dewis rhoi’r gorau i ymladd â’r hyn sy’n ein dychryn. Yn rhyfedd ddigon, gall pethau da ddod o’r math hwn o ildio. Weithiau, gallwn weld nad yw’r peth rydym yn ei brofi fel bygythiad yn fygythiad o gwbl. Nid yw’n beth cadarn sy’n gallu ein niweidio, a gallwn ddechrau ei weld yn gymaint mwy o broses syml sy’n golchi drosom ac yn symud ymlaen fel ‘dŵr oddi ar gefn hwyaden’. Efallai, tybed nad yr union wrthwynebiad i rywbeth yw’r hyn sy’n ei wneud i ymddangos fel peth bygythiol peryglus yn y lle cyntaf. I ni i gyd wrth wynebu bygythiad, nid yw’n dewisiadau wedi’u cyfyngu i ymladd, rhedeg i ffwrdd neu gael ein trechu yn unig. Mae gennym ddewis arall, er yn wrth-ganlyniadol, gallwn benderfynu rhoi ein hunain drosodd i’r profiad, gallwn adael iddo olchi drosom, gallwn ildio iddo.
Mewn dull systemig, mae bob amser yn werth ystyried y gall yr hyn sy’n effeithio ar ein cleientiaid hefyd effeithio ar ein gweithwyr, gall yr hyn sy’n helpu ein cleientiaid hefyd helpu ein gweithwyr, ac wrth gwrs, mae’r hyn sy’n helpu ein gweithwyr i ddysgu a dod yn ymwybodol, i fod yn egnïol ac yn ddiofn, yn debygol iawn o helpu ein cleientiaid yn y diwedd.
Jen & Jael