Dysgu diweddu

7 April, 2021

Y diwrnod o’r blaen yn Fy Nhîm Cymorth, yn un o’n sesiynau ymarfer myfyriol rheolaidd fel tîm, daethom i feddwl am ddiwedd ein gwaith gyda phlant a theuluoedd. Roedd nifer o’n darnau o waith gyda phlant yn dod i ben, ac roedd yn ymddangos yn ddefnyddiol meddwl gyda’n gilydd am ddiweddiadau fel thema.

Dechreuodd y drafodaeth gyda rhywfaint o ystyriaeth feddylgar o sut rydym yn nodi’r amser iawn i ddod â’n gwaith tymor hir i ben; efallai pan fydd y problemau wedi lleihau, efallai pan fydd sefydlogrwydd a gwytnwch wedi cynyddu er gwaethaf y problemau, efallai pan fydd gwasanaeth arall yn fwy addas i ddiwallu’r anghenion. Ar ôl trafod ystod o bosibiliadau ynghylch pryd y mae’n briodol dod â’n hymglymiad â phlentyn i ben, symudodd y drafodaeth ymlaen i sut y gallai’r broses o ddod i ben gael ei gweithredu; tynnu’n ôl yn raddol efallai, gan adeiladu pont i rwydweithiau cymorth eraill efallai, cyfnewid llythyrau therapiwtig efallai. Rhannwyd posibiliadau creadigol a meddylgar eraill ymhlith y tîm.

Yn y man, fe ddechreuon ni siarad am y profiad emosiynol o ddiweddu’n hymglymiad â phlant. Newidiodd y naws, roedd yn teimlo’n drymach, yn fwy anghyfforddus ymhlith y grŵp. Wedi’r cyfan, beth mae’n ei olygu i ddiweddu perthynas â phlentyn sydd eisoes wedi profi llawer o golledion trawmatig? Plentyn y cymerodd gymaint o ddewrder iddo ymddiried ynom ni yn y lle cyntaf?

Datblygodd y sgwrs ymhellach ac roedd y tîm yn meddwl mai’r cam mwyaf anodd oedd diweddu’n gwaith gyda phlant nad ydynt yn byw yn ôl gyda’u teuluoedd biolegol, y rhai nad oes ganddynt unrhyw un yn y byd a fydd o reidrwydd yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Arweiniodd hyn ni i dybied; a allwn ni ddioddef y boen ofnadwy o wybod bod rhai plant i bob pwrpas yn amddifad, heb unrhyw berthynas ddibynadwy, barhaus ag oedolyn sy’n rhoi gofal? A ydym ni’n cael ein temtio i osgoi diweddu’n gwaith gyda’r plant hyn er mwyn osgoi poen y sylweddoliad hwn? Yn wir, a ydym ni’n uniaethu â’r profiad o gael ein gadael a bod ar ein pennau ein hunain oherwydd ein profiadau bywyd anodd ein hunain? Mae’n ymddangos ei bod yn bwysig rhoi sylw i’r posibiliadau hyn a’u heffeithiau posibl ar ein harfer o ran diweddu’n gwaith. Mae’n bwysig bod gennym ni ofodau a phrosesau yn y gwaith sy’n helpu i oleuo pethau o’r fath, oherwydd gall esgeuluso hyn olygu ein bod ni’n dechrau gweld terfyniadau fel pethau negyddol yn unig, pethau i deimlo’n ddrwg yn eu cylch a cheisio’u hosgoi. Ond o’u gweld fel hyn rydym yn llwyr golli’r pwynt.

Mae’n bwysig cydnabod nad diweddu gwaith yw ei ddwyn i ben yn unig, ond darn o waith ynddo’i hun. ‘Rhan o’r gwaith yw dysgu sut i ddiweddu’ fel yr adlewyrchodd un o’n cydweithwyr. Yr ochr wrthdro  o ymlyniad yw gwahanu a cholli, ac mae dysgu rheoli dwy ochr y geiniog hon yn allweddol yn y datblygiad dynol. Gan ystyried popeth yn ei amser, a’r her o allu derbyn a dioddef hyn yn union fel y mae, aeth ein sgwrs ymlaen i’r fersiwn eithaf o ddiweddu; mae’n rhaid i bopeth byw farw, a byddwn ni ein hunain yn dod i ben. Dyma’r tabŵ mawr mae ein cymdeithas yn gweithio mor galed i’w osgoi, ei wadu, ei reoli, ei drechu. Hwyrach mai’r weithred eithaf o aeddfedrwydd seicolegol yw wynebu diwedd ein hunain? Ac os felly, efallai mai’r holl ddiweddiadau y mae’n rhaid i ni eu llywio trwy gydol ein bywydau yw ein hyfforddiant ar gyfer yr her hon sy’n ein hwynebu ni i gyd.

Felly ymlaen â ni tuag at ddiweddiadau yn ein hymarfer, gan helpu plant i gysylltu ag eraill ac i wahanu oddi wrthyn nhw hefyd. Trwy ymarfer caniatáu i bethau fynd a dod, rydym yn datblygu’r sgil o fyw’r bywyd hwn, yr holl ffordd i’w ddiwedd.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent