Deunydd Pwerus

8 September, 2020

Yn ganolog i Dimau Fy Nhîm Cymorth mae’n Hymarferwyr Pobl Ifanc (YPI). Yr ymarferwyr hyn yw’r rhai sy’n mynd i’r eithafion i gwrdd â’r plant sydd wrth wraidd ein gwasanaeth. Ar ôl i berthynas ffurfio maes o law, mae’n Hymarferwyr Pobl Ifanc, er gwaethaf popeth, yn glynu fel gelain yn  ddi-droi nôl i blant yn ein gwaith therapiwtig, ac yn wir, yn eu bywydau di-droi nôl. Un o’n harferion yw i’r ddwy ohonom, gyda’n gilydd, gwrdd yn rheolaidd â phob un o’r YPI ar draws ein gwahanol dimau ardal ar gyfer proses oruchwylio grŵp. Gadawodd sesiwn ddoe argraff benodol ar ein meddyliau.

Buom yn meddwl am bŵer. Un ffordd o edrych ar brofiadau trawmatig y plant rydym ni’n gweithio gyda nhw yw fel camddefnydd a chamdriniaeth o  bŵer. Mae plant sy’n derbyn gofal yn aml wedi cael profiad o oedolion yn camddefnyddio pŵer yn eu hymwneud â nhw, ar lefel berthynol agos iawn hyd at ffordd gymdeithasol camddefnyddiau pŵer sy’n creu ac yn cynnal anfantais. Ac yn union fel y tynnwyd sylw at ladd trasig diweddar George Floyd a deialogau dilynol mewn perthynas â Black Lives Matter, siaradodd YPI Fy Nhîm Cymorth ynghylch sut nad yw’n ddigon i feddwl nad ydym yn weithredol yn camddefnyddio pŵer gyda’n pobl ifanc. Mae angen i ni gydnabod sut mae braint yn golygu dal mantais pŵer sylfaenol, a sut mae peidio â chydnabod hyn yn parhau anghydraddoldeb. Mewn gwirionedd, efallai ein bod i gyd yn ymwneud â chamddefnyddiau pŵer, p’un a ydym yn ei hoffi ai peidio.

Wrth i’r sgwrs gyda’n YPI ddatblygu, buom yn pwyso a mesur y materion penodol sy’n gysylltiedig â phŵer sy’n gyffredinol yn andwyo plant sy’n derbyn gofal. Wedi’r cyfan, mae bod mewn gofal eisoes yn wrthrychau gwaradwydd i blant. Mae llawer o blant sy’n derbyn gofal ac sydd wedi profi cam-drin pŵer mewn perthnasoedd agos yn ffurfio model o bŵer fel pe bai dim ond sefyllfa ‘ennill’ a ‘cholli’ yn bodoli. Ar ôl profi ‘colli’ a’r dioddefaint sy’n cyd-fynd ag ef, mae llawer o blant sy’n derbyn gofal yn gwneud adduned dawel: Os yw naill ai’n ennill neu golli, byddaf yn gwneud beth bynnag sy’n angenrheidiol i fod yn enillydd o hyn ymlaen, diolch yn fawr iawn. Gall hyn olygu bod y plant rydym ni’n gweithio gyda nhw yn benderfynol o beidio â chaniatáu i oedolyn fod mewn sefyllfa bwerus gyda nhw byth eto. Gall plant weithredu’r penderfyniad hwn mewn sawl ffordd wahanol o wrthryfela yn erbyn rheolau a disgwyliadau byd oedolion, i wrthod dibyniaeth ar ffigur ymgysylltiol. 

Datblygodd y therapydd teulu John Burnham (1993) fframwaith gwych i lywio archwiliad therapyddion o faterion o wahaniaeth gyda’u cleientiaid o’r enw ‘Social Graces’. Mae’r fframwaith yn esblygu’n barhaus dros amser, ond yn y bôn, mae’n ein hatgoffa am yr amrywiaeth eang o ffyrdd y gall gwahaniaeth gymryd ffurf. Yn Fy Nhîm Cymorth, rydym yn defnyddio’r fframwaith hwn i’n helpu i ystyried materion sy’n ymwneud â gwahaniaeth a phŵer yn ein gwaith. 

G – Rhyw, Hunaniaeth Rhyw, Daearyddiaeth, Cenhedlaeth

R – Hil, Crefydd

A – Oedran, Gallu, Ymddangosiad

C – Dosbarth, Diwylliant

E – Addysg, Ethnigrwydd, Economaidd

S – Yn ysbrydol, Rhywioldeb, Cyfeiriadedd rhywiol . 

Felly os ydym ni o hyd yn dal pŵer, p’un a ydym ni’n ei hoffi ai peidio, pa negeseuon am bŵer y gallai plant eu darllen o sylwi gyntaf ar ein ‘Social Graces’ ni’n hunain? Yn y ffordd rydym yn cerdded i mewn i ystafell ac yn dweud ‘helo’, beth allai’n dull o gerdded a chyfarch ei gyfleu? Fe wnaethom ni feddwl amdano fel petaem ni’n cyfleu neges trwy wisgo’n ‘crys-t slogan pŵer’ ein hunain. Beth allai pob un o’n crysau-t ei ddweud trwy lygaid plant? Wrth fynd o amgylch yr ystafell roedd yna amrywiaeth: Roedd dyn ifanc, gwyn, athletaidd yn credu y gallai ei grys-t slogan pŵer gael ei ddarllen fel ‘Mae gen i hawl i bŵer.’ Roedd menyw ifanc dosbarth canol, mwynaidd ei hiaith, yn meddwl y gallai hi gael ei darllen fel ‘Gallwch chi fy rheoli i.’  Roedd menyw dalog yng nghymoedd Cymru yn credu y gallai hi gael ei darllen fel ‘Allwch chi ddim dod bant ag unrhyw beth gyda fi.’. Ac roedd dyn hŷn carismatig yn meddwl y gellid ei ddarllen fel ‘Mae gen i’r pŵer i weld reit drwoch chi.’

Wrth gwrs, fe wnaethom ni nodi gyda’n gilydd, mai ystrydebau’n unig yw’r ‘crysau-t slogan pŵer’ dychmygol hyn, ac nid pwy mae’n Hymarferwyr Pobl Ifanc eu hunain yn meddwl iddynt fod. Roedd pob un o’r YPI yn gobeithio, wrth i blant ddod i’w hadnabod yn well, y byddent yn darganfod yn araf nad ydyn nhw fel y gallen nhw ymddangos ar yr olwg gyntaf. Roeddent hefyd yn gobeithio, trwy eu gwaith gyda phlant, y gallent rannu modelau pŵer sy’n wahanol i’r model ‘ennill / colli’. Gallai’r gwahanol fodelau hyn gynnwys rhannu pŵer, defnyddio pŵer yn garedig er budd eraill, hyrwyddo pŵer pobl eraill, neu ildio pŵer o’u gwirfodd. Fodd bynnag, pe bai hyn yn bosibl o gwbl, roedd yn ymddangos bod angen cydnabod y crysau-t slogan pŵer hynny ac yna’u herio gan yr YPI eu hunain yn eu gwaith gyda phlant.

Pan fyddwn yn siarad gyda’n gilydd yn onest am bŵer, rydym yn creu cyfle i symud i ffwrdd o ystrydebau a thuag at ein dynoliaeth unigryw a’n dynoliaeth a rennir. Un o’n prif hawliau fel pobl, ac sy’n allweddol i’n hiechyd meddwl da, yw’r pŵer i hunan-ddiffinio. Mae gair am hyn: ‘Rhyddid’. Mae rhyddid yn ddeunydd pwerus.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent