Cynhwysiant

2 June, 2021

Yn ddiweddar yn Fy Nhîm Cymorth, rydym wedi bod yn cynnal proses o adolygu’r egwyddorion a’r arferion craidd sy’n sail i’n dull gwasanaeth. Wrth drafod  ‘hanfodion Fy Nhîm Cymorth’ fel rydym ni wedi eu galw, mae aelodau cymharol newydd y tîm a’r rhai sydd ychydig yn hŷn yn null Fy Nhîm Cymorth wedi dod at ei gilydd i gyfnewid syniadau. Wrth drafod ein model clinigol gyda’n gilydd, daliodd un cysyniad seicolegol penodol ein sylw. Cynhwysiant. Proses mor sylfaenol yn y datblygiad dynol ac mewn llawer o seicotherapïau, ac sy’n ganolog i’n hymagwedd yma yn Fy Nhîm Cymorth.

Cynhwysiant yw’r gallu i ddal, dioddef a threfnu ein profiadau emosiynol. Y gallu i ‘aros gydag ef’, a thrwy aros gydag ef, ennill lle i archwilio’r hyn y mae ein profiad yn ei ddweud wrthym a beth y byddwn yn penderfynu ei wneud ag ef. Gall y broses hon hefyd ein dysgu y gallwn oroesi ein profiadau emosiynol, waeth pa mor bwerus ac anodd ydyn nhw, ac yn aml nid oes angen i ni wneud unrhyw beth o gwbl gyda nhw heblaw caniatáu iddyn nhw fynd heibio. Yn y modd hwn, mae cynhwysiant yn cynnig rhyddid i ni, rhyddid rhag teimlo gorfodaeth i ymateb i emosiynau pwerus, er enghraifft trwy wneud yn ôl eu galw, neu efallai trwy’r angen i’w hosgoi.

Fel rheol, rydym ni’n dysgu am gynhwysiant gan y rheini fu’n gofalu amdanom ar y dechrau oll, rhoddwyr ein gofal, ein rhieni yn aml. Rydym ni’n dysgu fel babanod trwy’r profiad o gael rhoddwr gofal i gysylltu â’n meddyliau. Pan fyddwn ni, fel babanod, wedi ein gorlethu gan deimladau pwerus, mae ein rhoddwr gofal yn cysylltu â’n meddwl ac yn dal y teimladau drosom ni a gyda ni. Gyda digon o ailadrodd y broses hon, rydym yn datblygu’r gallu i gynnwys ein teimladau ein hunain. Yn nes ymlaen, fel ymarferwyr seicolegol, rydym ni’n rhoi benthyg y gallu hwn i gynnwys teimladau i eraill sydd angen profi hyn a’i ddatblygu eu hunain.

Pan nad yw pethau’n mynd rhagddynt mewn dull cyffredin yn ystod plentyndod cynnar, gall plant gael eu hamddifadu o’r profiad o gael eu cynnwys gan roddwr gofal, a gallant gael eu hunain yn wynebu heriau tyfu i fyny heb iddynt ddatblygu gallu hunan-gynhwysiant. Wrth gwrs, gall hyn achosi pob math o anawsterau i blant a’r rhai o’u cwmpas. Er enghraifft, sut all plant ymdopi yn yr ysgol pan na allant gynnwys eu hunain? Sut allan nhw ymgodymu â thrychu a gwanu cyfeillgarwch?

Mae llawer o’r plant rydym ni’n gweithio gyda nhw yn Fy Nhîm Cymorth, am ryw reswm neu’i gilydd, wedi colli’r cyfle cynnar hwnnw i brofi cynhwysiant ac yna datblygu hunan-gynhwysiant. Mae aflonyddwch pellach trwy gydol eu plentyndod wedi eu rhwystro rhag dod o hyd i’w ffordd o ddatblygu’r gallu hwn yn nes ymlaen, a gall plant gyrraedd llencyndod gan wynebu llawer o sefyllfaoedd heriol, llawer o deimladau pwerus ac anodd, heb fawr o bŵer i’w rheoli. Yn aml byddant yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n mynegi’r angen hwn am gynhwysiant, ac yn ei wahodd i ddigwydd. Yn yr amgylchiadau hyn, pan fydd cynhwysiant seicolegol yn ddiffygiol, mae gwasanaethau, yn aml mewn anobaith, yn ymateb trwy osod strwythurau allanol o amgylch y plant hyn i’w cynnwys. Gallai’r rhain  fod yn dîm staff a all ffrwyno’r plentyn, yn ofal diogel y tu ôl i ddrws wedi’i gloi. Gallai hefyd fod yn fersiynau mwy cynnil o gynhwysiant trwy wahardd, ynysu neu feddyginiaeth.

Yn Fy Nhîm Cymorth, rhan o’n hymdrechion yw helpu plant i wneud y siwrnai nôl o ddibynnu ar gael eu cynnwys trwy ddulliau allanol i allu cael eu cynnwys yn seicolegol, yn gyntaf mewn perthynas â rhoddwr gofal a / neu therapydd, a thrwy hyn i ddatblygu yn y pen draw y gallu i gynnwys eu hunain yn seicolegol. Yn ffodus, er bod rhai ohonom yn cael ein hamddifadu o’r profiad o gynhwysiant fel babanod, nid ydym byth yn cael ein hamddifadu o’r potensial i’w ddatblygu, mae angen inni gael y profiad ohono, drosodd a throsodd, dro ar ôl tro, nes i’r blaguryn gwyrdd hwnnw o botensial dyfu’n gryf ynom ni’n hunain. Mae  ‘blaguryn gwyrdd’ o botensial, ei wylio’n tyfu ac yna blodeuo yn sicr yn llawenydd i bob un o’r ‘garddwyr’ dan sylw.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent