Ail-wylltio ecoleg plant a theuluoedd

6 August, 2020

Ychydig flynyddoedd yn ôl, soniodd cydweithwraig am lyfr roedd wedi’i ddarllen am ail-wylltio. Gwawriodd arni  fod gan egwyddorion ail-wylltio ecosystemau biolegol baralel yn ein systemau dynol. Bu trafodaeth ac amlygwyd bod rhai egwyddorion diddorol iawn o ail-wylltio ecosystemau naturiol sy’n werth eu hystyried yn ein hymarfer:

  1. Mae ail-wylltio’n ceisio adfer prosesau dynol.
  2. Mae ail-wylltio’n annog cydbwysedd rhwng pobl a gweddill natur lle gall pawb ffynnu.
  3. Mae ail-wylltio’n creu cyfleoedd i gymunedau arallgyfeirio.
  4. Mae ail-wylltio’n gyfle i adael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ôl a ddeallwn, mae ail-wylltio’n aml yn digwydd ar y cyrion, lle mae’r amgylchedd ‘gwâr’ a’r amgylchedd ‘gwyllt’ yn cwrdd. ‘Y cyrion’ hefyd yw’r modd rydym ni weithiau’n meddwl am gyd-destun ein gwaith yn Fy Nhîm Gofal. Mae llawer o’r plant rydym ni’n gweithio gyda nhw wedi byw ac yn byw gyda theuluoedd ar gyrion cymdeithas. Mae’n gwaith gyda’r plant a’r teuluoedd hyn hefyd ar gyrion gofal iechyd meddwl. Weithiau, ni chaiff ein gwaith hyd yn oed ei gydnabod fel gwaith iechyd meddwl. Weithiau bydd pobl yn dweud wrthym eu bod yn ein gweld yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n ‘gwneud dewisiadau gwael’ mewn perthynas â’u ‘problemau cymdeithasol’.

Rydym yn anghytuno’n angerddol. Ac rydym yn cytuno. Er bod y rhain yn wir yn ‘broblemau cymdeithasol’ maent yn broblemau cymdeithasol fmegis trawma perthynol, tlodi ac anghydraddoldeb sy’n arwain at drallod meddyliol, a beth all hynny fod ond problem iechyd meddwl? Ac eto, efallai mai un agwedd a amlygir o fod yn ddynol yw ‘problem iechyd meddwl’. Gan roi heibio’r gwahaniaeth barn hwn am y categori o anawsterau a wyneba’r plant a’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw, serch hynny, ymddengys y cawn ein hunain ar y cyrion, a chyfle cadarnhaol i ymgymryd ag egwyddorion ail-wylltio.

Mae cyfeiriadau at fodolaeth a manteision systemau hunan-drefnu yn gyforiog o ddamcaniaethau sefydliadol a therapi teuluol systemig. Er enghraifft, arweiniodd Gregory Bateson genhedlaeth o ymarferwyr systemig a’u disgynyddion gyda’i ddealltwriaeth wych o seiberneteg systemau biolegol a dynol. Roedd ei lyfr ‘Steps to an ecology of mind’ (1972) yn drobwynt.

Yn Fy Nhîm Cymorth, mae llawer o’r systemau ail-wylltio, hunan-drefnu, a safbwyntiau ecolegol yn dylanwadu’n gryf arnom. Mae rhai enghreifftiau o’n gwaith sy’n cyfateb i’r pedair egwyddor o ail-wylltio a amlinellir uchod yn cynnwys:

  1. Ein gwaith i ddarparu’r amodau craidd angenrheidiol gan gynnwys gobaith, ymddiriedaeth, anogaeth a dyfalbarhad lle mae prosesau naturiol datblygiad plentyn a gwellhad seicolegol yn adfywio.
  2. Ein gwaith i gysoni; rhwng, er enghraifft, mynd i’r afael â phroblemau plentyn a theulu ac adeiladu cryfderau’r plentyn a’r teulu. Neu rhwng rheoli risgiau a neilltuo cyfleoedd i dyfu. Neu gredu ym mhotensial plentyn a ‘i ymgeleddu os caiff ei anafu.
  3. Ein gwaith i adeiladu cymunedau cryf o gyfranogwyr amrywiol o bob rhan o fyd y plentyn i weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i atebion gan ddefnyddio’u holl ddoniau a’u safbwyntiau penodol.
  4. Ein gwaith i ystyried yr hirdymor a cheisio dylanwadu ar genedlaethau’r dyfodol drwy weithio gyda phob cenhedlaeth o deuluoedd plant, a mynd i’r afael ag anghenion, pe caent eu gadael heb eu datrys, allai dreiglo lawr y llinell amser.

Mae ail-wylltio amgylcheddau naturiol yn cael ei werthfawrogi ac mae bellach wedi tyfu mewn poblogrwydd, ac mae’r angerdd yn parhau i ledaenu’n ehangach. Gobeithiwn y bydd yr un peth yn digwydd wrth ail-wylltio’r rhannau hynny o fyd gwasanaethau plant a allai elwa’n aruthrol hefyd.

Jen & Jael


Gwasanaeth Bwrdd Partneriaeth Gwent